Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Anghytuno â newidiadau i'ch amodau cyflogaeth

Weithiau bydd cyflogwr eisiau newid eich contract a chithau heb fod yn cytuno â'r newid hwnnw. Yma, cewch wybod beth yw eich hawliau os bydd hynny'n digwydd, a sut y gallwch wneud eich cwyn.

Beth os byddwch chi a'ch cyflogwr yn anghytuno?

Os nad ydych chi'n cytuno, nid oes gan eich cyflogwr hawl i fynd ymlaen â'r newid. Fodd bynnag, gall cyflogwyr derfynu eich contract (gyda rhybudd) a chynnig un newydd i chi'n cynnwys y telerau diwygiedig - mewn gwirionedd ystyr hyn yw eich bod yn cael eich diswyddo a'ch ailgyflogi. Byddai disgwyl i'ch cyflogwyr ddilyn gofynion sylfaenol y drefn ddiswyddo statudol. Efallai y bydd yn rhaid iddynt ddilyn proses ymgynghori diswyddo ar y cyd os byddant yn bwriadu gwneud hyn i grŵp o gyflogeion.

Os bydd y sefyllfa hon yn berthnasol i'ch gweithle chi, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) neu wasanaeth cynghori arall oddi ar dudalennau ein cysylltiadau i gael arweiniad pellach.

Os na fyddwch chi'n derbyn y contract newydd - neu os ydych wedi derbyn yr un newydd ond yn teimlo nad oedd rheswm da dros derfynu'r hen un - bydd gennych yr hawl i achos o ddiswyddo annheg ar yr amod eich bod wedi gweithio gyda'ch cyflogwyr am o leiaf flwyddyn yn ddi-dor. Mae’n bosib y byddwch chi hefyd yn gallu hawlio tâl dileu swydd os ydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf ddwy flynedd.

Os oes rheswm busnes cadarn dros y newid, a bod eich cyflogwyr wedi ymgynghori â chi'n iawn ac wedi ystyried unrhyw bosibiliadau eraill, fe allai fod yn anodd i chi ennill eich achos.

Beth allwch chi ei wneud

Does gan eich cyflogwyr ddim hawl i gyflwyno unrhyw newid maen nhw'n dymuno'i weld. Os bydd eich cyflogwyr yn ceisio newid rhywbeth nad ydych chi'n cytuno ag ef (er enghraifft ceisio'ch symud i swydd is neu docio'ch cyflog) dywedwch wrthyn nhw ar unwaith. Rhowch eich gwrthwynebiadau ar bapur, gan ofyn am y rhesymau dros y newid ac egluro pam nad ydych yn cytuno.

Os byddwch chi'n bwrw ymlaen i weithio heb gymryd camau, fe allai hynny olygu eich bod yn derbyn y telerau newydd (hyd yn oed os nad ydych wedi llofnodi dim), felly rhaid i chi wneud eich gwrthwynebiadau'n glir.

Os byddwch yn gweithio o dan y telerau newydd, gwnewch yn glir eich bod yn gweithio dan brotest ac yn trin y newid fel torri'r contract. Ceisiwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol gyda'ch cyflogwr. Os na allwch chi ddatrys y broblem gyda'ch cyflogwyr yn uniongyrchol, fe allwch benderfynu cymryd camau cyfreithiol.

Torri cwyn contract

Os bydd eich cyflogwr yn ceisio gorfodi newid yn eich contract cyflogaeth heb i chi gytuno, bydd hyn yn achos o dorri contract. Os byddwch ar eich colled yn ariannol o ganlyniad i'r achos hwn o dorri contract (er enghraifft os bydd eich cyflogwr yn lleihau eich cyflog), mae'n bosib y gallwch geisio iawndal drwy hawlio:

  • torri contract
  • diswyddo annheg os oes un o'ch hawliau cyflogaeth statudol wedi'u torri
  • didyniadau anghyfreithlon o'ch cyflog os yw eich cyflog wedi'i leihau o ganlyniad i'r newid
  • diswyddo ffurfiannol os yw'r sefyllfa'n gwbl annioddefol a'ch bod yn ystyried i chi gael eich diswyddo

Cofiwch fod cyfraith cyflogaeth yn gymhleth - dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn ymddiswyddo neu gymryd camau cyfreithiol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU