Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae telerau contract cyflogaeth yn nodi beth y gallwch chi a'ch cyflogwr ei ddisgwyl gan y naill a'r llall. Ceir llawer o fathau gwahanol ac nid oes angen ysgrifennu rhai ohonynt yn eich contract cyflogaeth.
Gall telerau contract ddeillio o nifer o wahanol ffynonellau; er enghraifft, fe allent fod:
Os oes unrhyw beth yn eich contract nad ydych chi'n sicr ohono, neu sy'n ddryslyd, gofynnwch i'ch cyflogwr ei esbonio.
Dylid ei gwneud yn glir beth sy'n rhan gyfreithiol gyfrwymol o'ch contract a beth nad yw. Gelwir rhannau cyfreithiol contract yn 'delerau'.
Os byddwch chi neu'ch cyflogwyr yn torri un o delerau'r contract, bydd gan y llall yr hawl i siwio am dor-contract.
Weithiau, bydd cyflogwyr yn llunio cytundebau gydag undeb llafur neu gymdeithas staff. Gelwir y rhain yn 'gytundebau ar y cyd'. Dylai eich contract ei gwneud hi'n glir pa gytundebau sy'n berthnasol i chi a phwy gaiff negodi ar eich rhan. Gall y cytundebau hyn fod yn berthnasol i chi, hyd yn oed os nad ydych chi'n aelod o'r undeb llafur neu'r gymdeithas staff.
Nid yw telerau dealledig wedi'u nodi'n unrhyw le, ond deellir eu bod yn bodoli. Os nad oes dim byd wedi'i gytuno'n glir rhyngoch chi a'ch cyflogwyr am fater penodol, yna mae'n bosib bod amod dealledig yn darparu ar ei gyfer. Bydd telerau dealledig yn rhan o gontract am sawl rheswm.
Gall telerau hefyd fod yn ddealledig am fod rhaid eu cael er mwyn i'r contract weithio. Y pwysicaf o'r rhain yw'r 'ddyletswydd o gyd-ymddiriedaeth a chyd-hyder'. Ystyr hyn yw eich bod chi a'ch cyflogwyr yn dibynnu ar eich gilydd i fod yn onest a dangos parch at eich gilydd. Er enghraifft, bydd eich cyflogwyr yn ymddiried ynoch chi i beidio â dinistrio eiddo'r cwmni, a byddwch chithau'n ymddiried yn eich cyflogwyr i beidio â'ch bwlio chi.
Telerau sy'n amlwg neu y tybir eu bod yn bodoli
Bydd rhai telerau'n cael eu hepgor naill ai am eu bod mor amlwg fel na theimlir bod angen eu hysgrifennu ar bapur, neu oherwydd y tybir bod y telerau hynny'n bodoli beth bynnag.
Enghraifft o hyn fyddai lle bo contract yn darparu ar gyfer tâl salwch heb ddweud am faint o gyfnod y telir y tâl hwnnw. Tybir nad oes bwriad i'w dalu am byth.
Telerau sy'n ddealledig oherwydd arfer a defod
Mae'r rhain yn berthnasol i gyflogwyr penodol neu i fath o waith penodol. Trefniadau nad oes neb erioed wedi cytuno arnynt yn glir yw'r rhain ond sydd dros amser wedi dod yn rhan o'r contract.
Er enghraifft, mae'n bosib y cewch fonws Nadolig, neu fod y busnes yn cau'n gynnar ar ddiwrnodau penodol.
Os yw arferion cwmni wedi dod yn rhan o'ch contract yna bydd yn rhaid i'ch cyflogwyr gadw atynt, ac ni ellir ei newid heb eich caniatâd chi fel arfer.
Gall fod yn anodd iawn penderfynu a yw arfer penodol wedi dod yn rhan o gontract ai peidio. Does dim terfyn amser penodol ar gyfer derbyn bod rhywbeth yn sicr yn rhan o'r contract.
Ymhlith pethau eraill, mae'n dibynnu ar:
Yn gyffredinol, rhaid i chi a'ch cyflogwyr gytuno er mwyn newid contract.
Os bydd cwmni arall yn prynu'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo, neu os bydd yn symud i leoliad newydd, dylai eich telerau a'ch amodau presennol barhau mewn grym. Fodd bynnag, dylai'r perchnogion newydd roi contract diwygiedig yn eu henw nhw.