Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newidiadau i gontractau cyflogaeth

Weithiau, bydd angen newid telerau ac amodau contract cyflogaeth. Yma, cewch wybod pam y gellid newid eich contract, beth yw eich hawliau a sut mae osgoi neu ddatrys problemau wrth wneud y newidiadau hyn.

Contract cyflogaeth

Cytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwyr yw contract cyflogaeth, sy'n amlinellu hawliau a dyletswyddau'r ddwy ochr. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen am gontractau cyflogaeth.

Beth neu pwy all newid contract cyflogaeth?

Mae'n bosib y byddwch chi neu'ch cyflogwr am newid contract cyflogaeth. Fodd bynnag, ni chewch chi na'ch cyflogwr newid eich contract cyflogaeth heb i'r ddau ohonoch gytuno arno. Fel arfer, dylid newid pethau ar ôl negodi a chytuno.

Gellir gwneud newidiadau i gontractau cyflogaeth drwy'r ffyrdd canlynol:

  • cytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwyr
  • cytundeb ar y cyd - sef trafodaeth rhwng eich cyflogwr ag undeb llafur neu gymdeithas staff
  • goblygiad - drwy newid arfer hirdymor (er enghraifft os bydd eich cyflogwr yn caniatáu i bob cyflogai gael diwrnod o wyliau ar Nos Galan)

Os bydd cytundeb ar y cyd yn achosi newid i gontractau cyflogaeth, bydd y newid yn dal yn berthnasol i chi hyd yn oed os nad ydych yn aelod o'r undeb llafur neu'r gymdeithas staff.

Rhesymau dros newid contract cyflogaeth

Anghenion cyflogwr

Weithiau, bydd cyflogwyr eisiau newid pethau i drefn gweithio oherwydd amgylchiadau economaidd. Mae'n bosib bod angen ad-drefnu'r busnes, ei symud i leoliad newydd, neu fe all fod angen newid pethau oherwydd bod y gyfraith wedi newid neu fod rheoliadau newydd ar waith. Dyma rai o'r pethau a all newid:

  • cyfraddau cyflog
  • amser gweithio (er enghraifft, oriau hwy neu fyrrach, gwahanol ddiwrnodau)
  • eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau
  • dyletswyddau a chyfrifoldebau'r bos sy'n uniongyrchol gyfrifol amdanoch
  • eich lleoliad gweithio

Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr angen gwneud newid neu gywiro camgymeriad wrth lunio'r contract. Gan ddibynnu ar y sefyllfa, gallai gadael i'r camgymeriad gael ei gywiro fod er eich budd gorau chi.

Mewn rhai amgylchiadau, fe ellir awdurdodi darostyngiad mewn swydd neu docio cyflog fel cam disgyblu. Edrychwch ar y drefn ddisgyblu i weld beth yw'r sefyllfa.

Anghenion cyflogeion

Mae'n bosib y bydd cyflogai hefyd am newid telerau contract. Er enghraifft, efallai y byddwch eisiau:

  • gwell cyflog (does gennych ddim hawl awtomatig i gael codiad cyflog, oni bai fod hynny yn eich contract)
  • gwell amodau gwaith
  • mwy o wyliau
  • gwahanol oriau gweithio
  • gweithio oriau hyblyg
  • gweithio'n rhan-amser

Cymalau hyblygrwydd

Gall eich contract cyflogaeth gynnwys 'cymalau hyblygrwydd'. Mae'r rhain yn rhoi'r hawl i'ch cyflogwr newid rhai amodau (er enghraifft, patrymau shifftiau) neu 'gymal symudedd', sy'n caniatáu newidiadau i leoliad eich swydd.

Ni cheir defnyddio cymal hyblyg sydd wedi ei eirio'n amwys (er enghraifft, 'mae'r cyflogwyr yn mynnu'r hawl i newid eich telerau o bryd i'w gilydd') i gyflwyno newidiadau hollol afresymol. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod 'amod ddealledig o gydymddiried a chyd-hyder' ym mhob contract, sy'n mynnu nad yw'r cyflogwyr yn gweithredu'n gwbl afresymol. Ceir gwybodaeth ddefnyddio am delerau dealledig yn 'Erthygl am delerau contract cyflogaeth'.

Oes rhaid i'r newidiadau fod yn rhai ysgrifenedig?

Nid oes yn rhaid i newidiadau fod ar ffurf ysgrifenedig. Fodd bynnag, os yw'r rhain yn newid y telerau a esbonnir yn eich 'datganiad manylion cyflogaeth ysgrifenedig' rhaid i'ch cyflogwyr roi datganiad ysgrifenedig i chi'n nodi beth sydd wedi newid o fewn mis i gyflwyno'r newid hwnnw.

Beth i'w wneud os ydych yn dymuno newid eich contract

Os ydych chi am newid rhywbeth, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr gan esbonio pam. Chewch chi ddim mynnu newid oni bai fod hawl statudol i wneud hynny (er enghraifft, eithrio rhag gweithio ar y Sul neu'r wythnos 48-awr). Efallai y gallech ofyn am gael newid eich oriau o dan hawliau gwaith hyblyg.

Os yw'ch cyflogwr yn dymuno newid eich contract

Os yw'ch cyflogwr yn dymuno gwneud newidiadau, dylai

  • ymgynghori â chi neu'ch cynrychiolydd (er enghraifft, swyddog undeb llafur)
  • egluro'r rhesymau pam
  • gwrando ar syniadau eraill

Gallwch chi a'ch cyflogwr gytuno ar newidiadau'n uniongyrchol, neu drwy 'gytundeb ar y cyd' rhwng. eich cyflogwr ac undeb llafur. Mae'n bosib bod eich contract yn caniatáu hynny hyd yn oed os nad ydych chi'n aelod o undeb.

Newid eich cyflogwr

Os bydd eich cyflogwr yn newid, fel arfer mae gennych hawl i gael datganiad ysgrifenedig llawn newydd o fanylion eich cyflogaeth o fewn dau fis ers i'r newid ddigwydd. Ni fydd gennych hawl i gael hyn os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • mae enw eich cyflogwr yn newid ond nid yw pwy yw eich cyflogwr yn newid (er enghraifft, os caiff y cwmni ei ailenwi)
  • mae eich cyflogwr yn newid, ond nid yw hyn yn effeithio ar eich swydd (megis yn ystod proses o drosglwyddo busnes wedi'i diogelu, a elwir hefyd yn TUPE)

Yn yr amgylchiadau hyn, mae gennych hawl i gael hysbysiad ysgrifenedig o'r newid cyn gynted ag y bo'n bosibl i'ch cyflogwr. Ni chaiff hyn fod dros fis i ddyddiad y newid.

Allweddumynediad llywodraeth y DU