Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pwy all wneud cais am weithio hyblyg?

Gall pawb gael budd o gyfleoedd gweithio hyblyg - cyflogwyr, cyflogeion a'u teuluoedd. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn sylweddoli bod cynnig cyfleoedd gweithio hyblyg i'w staff yn synnwyr busnes da. Cael gwybod os oes gennych chi’r hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg.

Beth yw hynny?

Defnyddir y geiriau 'gweithio hyblyg' i ddisgrifio unrhyw batrwm gweithio sydd wedi'i addasu er mwyn diwallu'ch anghenion. Dyma'r mathau mwyaf cyffredin o weithio hyblyg:

  • oriau hyblyg: dewis pryd i weithio (fel arfer bydd yn rhaid gweithio oriau craidd)
  • oriau dros flwyddyn: cyfrifir eich oriau dros y flwyddyn gyfan (yn aml iawn, ceir shifftiau penodol ac fe gewch chithau wedyn benderfynu pa bryd i weithio'r oriau eraill)
  • oriau cywasgedig: gweithio'r oriau y cytunwyd arnynt dros lai o ddiwrnodau
  • amrywio oriau: gweithwyr yn yr un gweithle'n dechrau, yn cael amser egwyl ac yn gorffen ar wahanol adegau
  • rhannu swydd: rhannu swydd a fwriadwyd ar gyfer un person gyda rhywun arall
  • gweithio gartref: gweithio o'ch cartref eich hun
  • rhan-amser: gweithio llai o oriau na'r arfer, llai o ddiwrnodau'r wythnos efallai

Cofiwch, nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae'n bosibl y bydd enghreifftiau eraill o weithio hyblyg yn gweddu'n well i chi a'ch cyflogwr.

Help rhyngweithiol

Os bydd angen cymorth arnoch i ofyn am gael gweithio oriau hyblyg, mae pecyn rhyngweithiol ar gael i'ch helpu:

  • i gael gwybod a oes gennych yr hawl statudol i wneud cais
  • i baratoi dadl i argyhoeddi'ch cyflogwyr

Pwy gaiff ofyn am hyn?

Gall unrhyw un ofyn i'w cyflogwyr am drefniadau gweithio hyblyg, ond mae'r gyfraith yn rhoi hawl statudol i rai cyflogeion wneud cais am batrwm gweithio hyblyg.

Mae’n rhaid eich bod:

  • yn gyflogai, ond nid yn weithiwr asiantaeth neu yn y lluoedd arfog
  • wedi gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos yn ddi-dor cyn gwneud cais
  • heb wneud cais arall i weithio’n hyblyg o dan yr hawl yn ystod y 12 mis diwethaf

Bydd gennych hawl statudol i ofyn:

  • os ydych yn gyfrifol neu’n disgwyl y byddwch yn cael cyfrifoldeb fel rhiant am blentyn dan 17 oed

  • os ydych yn gyfrifol neu’n disgwyl y byddwch yn cael cyfrifoldeb fel rhiant am blentyn anabl dan 18 oed sy’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl
  • os ydych chi’n rhiant/gwarcheidwad/gwarcheidwad arbennig/rhiant maeth/gofalwr maeth preifat neu fel deiliad gorchymyn preswylio neu’r briod, partner neu bartner sifil i un o rhain ac yn gwneud cais am gael gofalu am y plentyn
  • os ydych chi'n ofalwr sy'n gofalu, neu'n disgwyl y byddwch yn gofalu, am oedolyn sy'n briod, yn bartner, yn bartner sifil neu'n berthynas i chi; neu rywun sy'n byw yn yr un cyfeiriad â chi er nad ydych yn perthyn

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr roi ystyriaeth ddwys i unrhyw gais a wnewch - a rhaid iddo gael rheswm busnes da dros ei wrthod. Mae gennych yr hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg - ond nid yr hawl i'w cael.

Wrth gwrs, gall cyflogeion nad oes ganddynt hawl cyfreithiol i ofyn am batrwm gweithio hyblyg ofyn i'w cyflogwyr am gael gweithio'n hyblyg ar bob cyfri. Bydd llawer o gyflogwyr yn barod i ystyried ceisiadau o'r fath.

Sut i wneud cais

Os oes gennych chi hawl statudol i wneud cais, yna rhaid i chi ddilyn proses benodol.

Dylech gofio, dan y drefn statudol, y gall y broses o wneud cais a'r amser a gymer i'ch cyflogwr ei ystyried gymryd hyd at 14 wythnos. Felly os ydych chi'n meddwl am newid eich patrwm gwaith, dylech sôn wrth eich cyflogwr mor fuan â phosib.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol, os bydd eich cyflogwr yn cytuno â'ch cais, y gall hynny arwain at newid parhaol i'ch contract cyflogaeth. Os byddwch yn gweithio llai o oriau o ganlyniad i’ch cais am batrwm gweithio hyblyg, bydd eich tâl yn gostwng hefyd.

Os nad oes gennych hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg bydd y broses statudol yn dal yn ddefnyddiol i chi a dylech ystyried holi eich cyflogwr mor fuan â phosib.

Hawliau eraill

Dyma'r hawliau eraill sy'n eich helpu i gael amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am eraill:

  • absenoldeb rhiant - gallwch drefnu eich bod yn cael cyfnodau o amser i ffwrdd o'r gwaith heb dâl i ofalu am blant ifanc
  • amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion, sy'n rhoi amser i ffwrdd heb dâl i chi er mwyn i chi allu delio ag argyfwng teuluol

Ble mae cael cymorth

I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu darllenwch fwy am undebau llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU