Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithio hyblyg: gwneud cais

Os byddwch yn Os byddwch yn gymwys i'r hawl statudol i wneud cais am weithio hyblyg, yna rhaid i chi ddilyn proses benodol. Pan yr ydych chi’n gwneud eich cais, dylech geisio cynnwys gwybodaeth ynghylch y buddiannau y byddai gweithio hyblyg yn rhoi i chi a’ch cyflogwr.

Gwneud eich cais

Cael help ar weithio hyblyg

Defnyddiwch y ddolen rhyngweithiol i’ch helpu chi i benderfynu os mae gweithio hyblyg yn iawn i chi

Ysgrifennu eich cais

Pan yr ydych chi’n ysgrifennu eich cais mae’n rhaid i chi gadarnhau naill ai:

  • naill ai'n cadarnhau mai chi sy'n gyfrifol am fagu'r plentyn ac mai chi yw naill ai mam, tad, rhiant mabwysiedig, gwarcheidwad neu riant maeth y plentyn, neu eich bod wedi priodi un o'r bobl hynny neu'n bartner iddynt
  • neu'n cadarnhau eich bod yn gofalu, neu'n disgwyl y byddwch yn gofalu, am briod, am bartner, am bartner sifil neu rywun nad yw'n perthyn i chi ond sy'n byw yn yr un cyfeiriad â chi

Mae’n ofynnol bod eich cais:

  • yn cael ei wneud mewn da bryd cyn yr amser yr ydych am iddo ddod i rym
  • yn ysgrifenedig (ar bapur neu'n electronig)
  • yn cael ei ddyddio
  • yn nodi ei fod wedi cael ei wneud dan yr hawl statudol i ofyn am batrwm gweithio hyblyg
  • yn rhoi manylion y patrwm gweithio hyblyg yr ydych yn gwneud cais amdano, gan gynnwys y dyddiad y mae arnoch eisiau dechrau
  • yn egluro'r effaith yr ydych chi'n meddwl y bydd y patrwm gweithio newydd yn ei chael ar eich cyflogwyr, a sut y gellir delio ag unrhyw effaith o'r fath
  • nodi a ydych wedi gwneud cais yn y gorffennol ac, os felly, pryd

Y fwyaf o rybudd yr ydych chi’n ei rhoi i’ch cyflogwr, y fwyaf tebygol yw y byddant yn gallu rhoi ar waith y newid yr ydych chi eisiau pan yr ydych ei heisiau. Gall y broses statudol gymryd hyd at 14 wythnos neu’n fwy os mae problem yn codi.

Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi:

  • ddarparu tystiolaeth bod gennych chi gyfrifoldeb rhieniol neu ofalu
  • dangos pam na all y gofal gael ei ddarparu gan rywun arall

Gallwch wneud cais un ai:

  • drwy lenwi ffurflen a roddwyd i chi gan eich cyflogwr
  • drwy lenwi ffurflen safonol
  • drwy anfon yr wybodaeth y mae ei hangen mewn llythyr neu e-bost

Beth i'w gynnwys yn eich cais

Mae bob amser yn ddefnyddiol rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch i'ch cyflogwr, gan gynnwys y manteision posibl i'r busnes. Meddyliwch pa effaith y bydd unrhyw newidiadau'n ei chael ar eich swydd. Dylech anelu at ddangos na fyddai eich cynlluniau'n niweidio'r busnes ac y gallent, mewn gwirionedd, ei gryfhau. Gallai olygu, er enghraifft, eich bod ar gael i weithio mwy yn ystod oriau brig, gan wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Dylai eich cyflogwr benderfynu a ellir gwireddu eich cais ai peidio ar sail y busnes yn hytrach na'ch amgylchiadau personol chi.

Cofiwch, dim ond un cais y cewch ei gyflwyno bob blwyddyn, os ydych chi wedi gwneud cais o'r blaen ar gyfer gwahanol gyfrifoldebau gofalu ai peidio.

Fel arfer, bydd unrhyw newidiadau y cytunir arnynt yn barhaol, oni fyddwch yn cytuno fel arall. Mae newid eich contract cyflogaeth yn barhaol yn gam mawr, ac ni ddylid ei gymryd yn ysgafn. Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn gallech awgrymu wrth eich cyflogwr y gallai fod yn syniad da rhoi cynnig ar weithio'n hyblyg am gyfnod i ddechrau.

Tynnu cais yn ôl

Os byddwch yn penderfynu tynnu'ch cais am weithio hyblyg yn ôl, dylech roi gwybod i'ch cyflogwr cyn gynted â phosib, ac yn ysgrifenedig, er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.

Os na fyddwch yn bresennol mewn dau gyfarfod y bydd eich cyflogwyr yn eu trefnu gyda chi ynghylch eich cais, ystyrir eich bod wedi tynnu eich cais yn ôl.

Ble mae cael cymorth

I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion cyflogaeth ewch i'r dudalen 'cysylltiadau cyflogaeth' neu 'cyflwyniad i undebau llafur'.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU