Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio yn y nos

Ceir gwarchodaeth gyfreithiol ychwanegol ar gyfer pobl a ystyrir yn weithwyr nos. Fodd bynnag, ceir eithriadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Cewch hefyd wybod beth ddylech chi ei wneud os nad ydych yn fodlon gyda'ch hawliau.

Beth yw’r diffiniad o 'yn ystod y nos'?

Fel arfer, ystyrir y 'nos' fel y cyfnod rhwng 11.00 pm a 6.00 am. Gallwch gytuno gyda'ch cyflogwr i newid y cyfnod nos. Os byddwch yn gwneud hynny, yna mae'n rhaid iddo fod o leiaf saith awr o hyd ac mae'n rhaid iddo gynnwys rhwng hanner nos a 5.00 am.

Ydych chi’n weithiwr nos?

Rydych chi'n weithiwr nos os byddwch chi'n gweithio'n rheolaidd am o leiaf dair awr yn ystod y cyfnod hwn, naill ai:

  • ar y rhan fwyaf o'r dyddiau y byddwch yn gweithio arnynt
  • ar gyfran o'r dyddiau y byddwch yn gweithio arnynt, a nodir mewn cytundeb gweithlu ar y cyd rhyngoch chi a'ch cyflogwr a'r undeb llafur
  • yn ddigon aml i ddweud eich bod yn gweithio oriau o'r fath yn rheolaidd (ee gallai traean o'ch amser gwaith fod yn ystod y nos, felly byddech yn weithiwr nos)

Cyfyngiadau ar waith nos

Fel gweithiwr nos, ni ddylech weithio mwy nag wyth awr ar gyfartaledd ym mhob cyfnod o 24 awr. Nid yw hyn yn cynnwys goramser. Chewch chi ddim dewis peidio â chydymffurfio â'r terfyn gweithio hwn.

Os bydd eich gwaith nos yn golygu peryglon arbennig neu straen corfforol neu feddyliol sylweddol, chaiff neb eich gorfodi i weithio mwy nag wyth awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr.

Mae hyn yn derfyn absoliwt yn hytrach na therfyn cyfartalog ac mae'n cynnwys goramser yn ystod y dydd. Gyda therfynau absoliwt ni allwch weithio dros wyth awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr. Mae terfynau cyfartalog yn eich galluogi i gyfri'r oriau cyfartalog y byddwch yn eu gweithio dros gyfnod penodol. Er enghraifft, os byddwch yn gweithio naw awr un noson, saith awr y noson nesaf, wyth awr fydd eich oriau cyfartalog.

Dylai eich cyflogwr dynnu sylw at unrhyw beryglon yn eich gwaith, asesu pa mor niweidiol y gallant fod a chymryd camau i leihau unrhyw beryglon.

Mae rheolau arbennig ar wahân ar gyfer gweithwyr ym maes cludiant yn yr awyr, ar y môr ac ar y ffyrdd.

Eithriadau i derfynau amser gweithio nos

Nid oes terfynau ar eich oriau gweithio nos os ydych yn gweithio yn y meysydd canlynol:

  • swyddi lle cewch ddewis eich hun am faint o oriau y byddwch chi'n gweithio, e.e. rheolwr gweithredol
  • mae'r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys a'r heddlu wedi'u heithrio dan rai amgylchiadau
  • gweision/morynion domestig mewn cartrefi preifat

Ni fydd y terfynau ar waith nos yn berthnasol:

  • os oes rhaid i chi deithio ymhell o'ch cartref i gyrraedd y gwaith neu os byddwch chi'n gweithio mewn mannau gwahanol o hyd
  • os ydych chi'n gwneud gwaith diogelwch neu waith seiliedig ar wyliadwriaeth
  • os ydych yn gweithio mewn diwydiant sy'n cael cyfnodau brig prysur, megis amaethyddiaeth, manwerthu neu dwristiaeth
  • os digwydd argyfwng neu ddamwain
  • os oes angen staffio'r gwaith bedair awr ar hugain y dydd (er enghraifft, gwaith ysbyty)
  • os ydych wedi'ch cyflogi yn y diwydiant rheilffyrdd a'ch bod yn gweithio ar drenau
  • os ydych wedi'ch cyflogi yn y diwydiant rheilffyrdd a bod eich gweithgareddau'n afreolaidd neu'n gysylltiedig â sicrhau bod y trenau'n rhedeg ar amser
  • os ydych yn weithiwr teithiol (yn gweithio ym maes cludiant ffyrdd neu awyr); er bod gennych hawl i gael 'digon o orffwys' sef y dylech gymryd gorffwys o'ch gwaith sy'n ddigon hir i sicrhau nad ydych yn achosi anaf i chi'ch hun nac i unrhyw un o'ch cwmpas

Os ydych chi'n gwneud gwaith nos mewn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn, caiff y cyfnod cyfeirnod ar gyfer cyfrifo eich terfyn amser gweithio wythnosol ei ymestyn o 17 i 26 wythnos.

Gweithwyr ifanc

Os ydych chi dan 18 oed ond dros oed gadael ysgol, rydych chi'n weithiwr ifanc. Rydych dan oed gadael ysgol tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n cael eich pen-blwydd yn 16 oed. Mae cyfyngiadau gwahanol yn berthnasol i weithwyr nos ifanc o'u cymharu â gweithwyr nos sy'n oedolion.

A fyddwch chi'n cael rhagor o gyflog os byddwch chi'n gwneud gwaith nos?

Mae'n bosibl y bydd eich cyflogwyr yn penderfynu'ch gwobrwyo am weithio oriau anghymdeithasol (er enghraifft, fe allech gael cludiant neu fwyd am ddim neu dâl ychwanegol). Dim ond os yw eich contract yn nodi hynny y bydd gennych yr hawl gyfreithiol i unrhyw un o'r rhain, ond mae'n arfer da i gyflogwyr eu cynnig.

Newidiadau i'ch contract

Os nad oes rhaid i chi wneud gwaith nos dan eich contract, fel arfer bydd angen i'ch cyflogwyr gael eich cytundeb cyn newid eich oriau. Gall y contract fod yn ysgrifenedig neu'n gytundeb llafar.

Eich hawliau iechyd fel gweithiwr nos

Oherwydd bod risg i'ch iechyd ynghlwm wrth waith nos, mae'n rhaid i'ch cyflogwyr gynnig asesiad iechyd am ddim i chi (holiadur fel arfer) cyn i chi ddechrau gwneud gwaith nos ac yna'n rheolaidd ar ôl hynny. Yn gyffredinol, caiff hyn ei gyflawni unwaith y flwyddyn, ond gallai eich cyflogwr gynnig asesiad iechyd i chi'n amlach. Nid oes rhaid i chi gymryd yr archwiliad iechyd a gynigir.

Dylai eich cyflogwr gael cymorth gan weithiwr iechyd proffesiynol cymwys wrth lunio ac asesu'r asesiadau iechyd. Os byddwch yn llenwi holiadur asesiad iechyd a bod eich atebion yn peri pryder, dylai eich cyflogwyr eich cyfeirio at feddyg. Os bydd meddyg yn dweud wrthych fod gennych broblemau iechyd oherwydd eich bod yn gwneud gwaith nos, rhaid i'ch cyflogwyr eich trosglwyddo i waith dydd - os oes modd.

Gweithwyr teithiol a gweithwyr ym maes cludiant ar y ffordd

Er nad yw mesurau diogelwch amser gweithio eraill yn berthnasol iddynt, mae gan weithwyr teithiol a gweithwyr ym maes cludiant ar y ffordd sy'n weithwyr nos yr hawl i gael asesiadau iechyd.

Beichiogrwydd a mamau newydd

Os byddwch yn mynd yn feichiog neu os ydych chi'n fam newydd, a'ch bod yn poeni am risgiau gwaith nos, dylech gael sgwrs â'ch cyflogwyr a gofyn am gael symud i wneud gwaith yn ystod y dydd. Dylai eich cyflogwyr roi ystyriaeth arbennig i chi a chynnal asesiad risg.

Ble mae cael cymorth

Os oes angen mwy o gymorth arnoch mae'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i chi ar oriau gweithio.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU