Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfnodau egwyl

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr hawl i gymryd egwyl, ond telerau eich contract fydd yn pennu a gewch eich talu amdanynt ai peidio. Mae rheolau arbennig am gyfnodau egwyl ar gyfer rhai mathau o weithwyr - yn enwedig y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth.

Mathau o egwyl

Fel arfer bydd gennych amryw o wahanol fathau o egwyl o'ch gwaith. Gellir rhannu'r rhain yn dri chategori:

  • 'cyfnodau egwyl' - amser cinio, amser paned, a thoriadau byr eraill yn ystod y dydd.
  • 'gorffwys dyddiol' - y cyfnod rhwng gorffen un diwrnod o waith a dechrau'r un nesaf (dros nos rhwng dyddiau'r wythnos yw hyn i'r rhan fwyaf o bobl)
  • 'gorffwys wythnosol' - dyddiau llawn pan na fyddwch yn dod i'r gwaith (y penwythnos fydd hyn i lawer o bobl)

Ni dderbynnir tâl am yr ail a'r trydydd math o doriad bron byth oni bai bod rhaid i chi aros 'ar alw', sy'n golygu eich bod ar gael i weithio. Derbynnir tâl am y math cyntaf yn aml, oni ddywedir hynny yn eich contract.

Faint o gyfnodau egwyl fyddwch chi’n eu cael?

Fel arfer, cytunir ar y cyfnodau o egwyl a gewch gyda'ch cyflogwr. Gall fod yn drefn ysgrifenedig (ee yn eich contract cyflogaeth) neu'n rhan o arferion safonol eich cyflogwr.

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi'r cyfnodau egwyl gofynnol dan y Rheoliadau Amser Gwaith o leiaf. Mae'n rhaid iddo hefyd sicrhau na chaiff eich iechyd a'ch diogelwch ei roi mewn perygl. Golyga hyn efallai y bydd rhaid i'ch cyflogwr roi cyfnodau egwyl hwy na'r hyn a bennir yn y rheoliadau i chi, os bydd hyn yn lleihau perygl iechyd a diogelwch.

Gweithwyr ifanc

Os ydych dan 18 oed ond dros 'oed gadael ysgol' cewch eich ystyried fel gweithiwr ifanc ac mae gennych hawl i egwyliau gwahanol i weithwyr sy'n oedolion. Rydych dan oedran gadael ysgol tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n troi 16 oed.

Cyfnodau egwyl - egwyl yn ystod eich diwrnod gwaith

Fel gweithiwr sy'n oedolyn (dros 18 oed), fel arfer bydd gennych hawl i gael 20 munud o egwyl os bydd disgwyl i chi weithio am gyfnod hwy na chwe awr.

Gall eich cyfnod egwyl fod dros ginio neu i gael paned. Mae'n bosib y bydd eich contract cyflogaeth yn pennu egwyliau ychwanegol. Nid oes hawl statudol i 'egwyl ysmygu'.

Mae'r gofynion fel a ganlyn:

  • ni cheir rhannu'r egwyl yn nifer o egwyliau bychain
  • ni cheir defnyddio'r egwyl cyn dechrau nac ar ôl gorffen diwrnod gwaith - rhaid iddo fod rywle yn y canol
  • cewch fynd oddi wrth eich man gwaith yn adeilad y cyflogwr yn ystod eich egwyl
  • caiff eich cyflogwr ddweud wrthych pryd y cewch gymryd egwyl, cyn belled ag y bydd yn cwrdd â'r gofynion hyn

Gorffwys dyddiol - egwyl rhwng diwrnodau gwaith

Os ydych chi'n weithiwr dros 18 oed, bydd gennych hawl i gael egwyl o 11 awr o leiaf rhwng diwrnodau gwaith. Mae hyn yn golygu, fel gweithiwr dros 18 oed, os byddwch yn gorffen gweithio am 8.00 pm ddydd Llun, ni ddylech ddechrau gweithio tan 7.00 am ddydd Mawrth.

Gorffwys wythnosol - y ‘penwythnos’

Os ydych chi'n weithiwr dros 18 oed bydd gennych hawl i gael un o’r canlynol:

  • 24 awr di-dor yn rhydd o waith bob wythnos
  • 48 awr di-dor yn rhydd o waith bob pythefnos

Eithriadau i'r rheoliadau

Nid yw eich wythnos waith yn dod dan y Rheoliadau Amser Gweithio os ydych chi'n gweithio yn y meysydd canlynol:

  • swyddi lle cewch ddewis eich hun am faint o oriau y byddwch chi'n gweithio (megis rheolwr gweithredol)
  • mae'r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys a'r heddlu wedi'u heithrio dan rai amgylchiadau
  • gweision/morynion domestig mewn cartrefi preifat

Bydd hawliau egwyl yn wahanol i chi:

  • os oes rhaid i chi deithio ymhell o'ch cartref i gyrraedd y gwaith
  • os byddwch chi'n gweithio mewn mannau gwahanol o hyd gan ei gwneud yn anodd gweithio mewn patrwm sefydlog
  • os ydych chi'n gwneud gwaith diogelwch neu waith seiliedig ar wyliadwriaeth
  • os ydych yn gweithio mewn diwydiant sy'n cael cyfnodau brig prysur, megis amaethyddiaeth, manwerthu neu dwristiaeth
  • os digwydd argyfwng neu fod perygl o ddamwain
  • os oes angen staffio'r gwaith bedair awr ar hugain y dydd (megis gwaith ysbyty)
  • os ydych wedi'ch cyflogi yn y diwydiant rheilffyrdd a'ch bod yn gweithio ar drenau neu fod eich gweithgareddau'n afreolaidd neu'n gysylltiedig â sicrhau bod y trenau'n rhedeg ar amser

Yn yr achosion hyn, yn hytrach na chael egwyliau arferol, mae gennych hawl i gael 'gorffwys i wneud iawn'. Caiff y gorffwys hwn ei gymryd yn ddiweddarach, yn ystod yr un diwrnod gwaith neu'r diwrnod canlynol yn ddelfrydol. Yr egwyddor yw y dylai pawb gael o leiaf 90 munud o orffwys yr wythnos ar gyfartaledd. Dyma gyfanswm eich hawl i gyfnodau egwyl dyddiol ac wythnosol, er y bydd rhai pobl yn cael egwyl yn hwyrach nag eraill.

Gweithwyr teithiol

Os ydych yn gweithio ym maes cludiant yn yr awyr, ar y ffyrdd neu ar y môr cewch eich galw yn 'weithiwr teithiol' at ddibenion y Rheoliadau Amser Gwaith. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich eithrio rhag yr hawliadau i gyfnodau egwyl arferol. Yn lle hyn, mae gennych hawl i gael 'gorffwys i wneud iawn'. Mae hwn yn gyfnod o egwyl rheolaidd er mwyn sicrhau nad yw blinder, neu faterion diogelwch eraill, yn achosi i chi frifo eich hun neu i unrhyw un o'ch amgylch.

Oes rhaid i chi gymryd egwyl?

Argymhellir i chi gymryd eich cyfnodau egwyl. Eu diben yw amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch ac mae gennych hawl i'w cymryd.

Beth i'w wneud os gwrthodir cyfnod o egwyl i chi

Dylech godi'r mater gyda'ch rheolwr os:

  • yw eich swydd wedi'i threfnu mewn ffordd nad yw'n eich galluogi i gymryd egwyliau
  • nad yw eich cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd eich egwyliau

Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith ee swyddog undeb llafur neu gynrychiolydd iechyd a diogelwch, fe allan nhw godi'r mater ar eich rhan.

Os na allwch ddatrys y broblem, gallwch gyflwyno'ch achos i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Os oes angen mwy o gymorth arnoch mae'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i chi ar oriau gweithio.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU