Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n weithiwr nos ni ddylech weithio mwy nag wyth awr ar gyfartaledd dros nos. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu rhwng 11 pm a 6 am. Mae'n hawdd cyfrifo eich oriau cyfartalog i ganfod beth yw eich amser gweithio cyfartalog.
Fel arfer, cyfrifir eich amser gwaith nos cyfartalog dros 'gyfnod cyfeirnod' 17 wythnos neu dros faint bynnag y mae gweithiwr wedi gweithio i'w gyflogwr os yw'r cyfnod hwnnw'n llai na 17 wythnos. Gellir newid hyn os yw'ch cyflogwr yn cytuno i hynny fel rhan o 'gytundeb ar y cyd'. Cytundeb rhwng cyflogwr ac undeb llafur yw'r cytundeb hwn.
Cyfrifir eich oriau gwaith nos cyfartalog drwy rannu'r oriau arferol yr ydych wedi'u gweithio mewn cyfnod cyfeirnod gyda nifer y dyddiau yn y cyfnod. Nid yw hyn yn cynnwys nifer y dyddiau gorffwys y mae gennych hawl i'w cymryd.
Rydych yn weithiwr nos ac yn gweithio pedair sifft 12 awr bob wythnos:
Felly byddech wedi gweithio wyth awr y dydd ar gyfartaledd, sydd o fewn y terfyn gwaith nos.
Weithiau, nid yw patrymau gweithio sifft mor syml i'w cyfrifo neu efallai eich bod wedi cymryd gwyliau neu gyfnod o absenoldeb.
Rydych yn weithiwr nos ac mae eich 'cylch sifftiau' yn cynnwys sifftiau 10 awr am bum niwrnod, a thri diwrnod o seibiant. Mae'r cylch yn dechrau ar ddechrau'r cyfnod cyfeirnod. Rydych hefyd yn cymryd pythefnos o wyliau ac yn gweithio chwe awr o oramser bob pum wythnos (yn y bumed, y ddegfed a'r bymthegfed wythnos).
Felly byddech wedi gweithio 7.53 awr y dydd ar gyfartaledd, sydd o fewn y terfyn gwaith nos.
Nid yw'r gwyliau blynyddol a gymerwyd yn effeithio ar gyfrifiad yr oriau gweithio cyfartalog.
Os ydych chi'n teimlo eich bod yn gweithio mwy o oriau yn y nos nag a ganiateir:
Os ydych chi'n meddwl nad ydych chi'n cael unrhyw hawliau eraill fel gweithiwr nos, gallwch wneud y canlynol:
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch mae’r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn cynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim i chi ar oriau gwaith.