Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Terfynau oriau gwaith (yr wythnos 48 awr)

Yma, cewch wybod am eich hawl i beidio â gorfod gweithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd, oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny, neu eich bod yn gweithio mewn sector sydd â'i reolau ei hun. Dylai eich oriau gwaith arferol fod wedi eu hamlinellu yn eich contract cyflogaeth neu yn natganiad ysgrifenedig manylion eich cyflogaeth.

Yr uchafswm oriau gwaith wythnosol

Fel arfer, ni cheir gorfodi oedolion i weithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd – fel arfer, dros gyfnod o 17 wythnos. Gallwch weithio mwy na 48 awr mewn wythnos, ar yr amod bod yr oriau cyfartalog dros 17 wythnos yn llai na 48 awr yr wythnos.

Ni fydd eich wythnos waith yn cael ei gwarchod gan y terfynau oriau gwaith os oes gennych chi swydd:

  • lle nad yw’ch amser gweithio yn cael ei fesur neu rydych chi’n gallu ei bennu eich hun (e.e. gweithredwr rheoli gyda rheolaeth dros benderfyniadau ei hun)
  • gyda’r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys neu’r heddlu – dan rai amgylchiadau
  • fel gwas domestig mewn tŷ preifat
  • categorïau penodol o forwr, pysgotwyr ar y môr a gweithwyr ar longau ar ddyfrffyrdd mewndirol

Os ydych chi’n feddyg dan hyfforddiant, bydd yr uchafswm o 48 awr o waith yn berthnasol i chi.

Dewis peidio â chydymffurfio â'r wythnos 48 awr

Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn a'ch bod yn dymuno gweithio mwy na 48 awr yr wythnos, cewch ddewis peidio â chydymffurfio â'r wythnos 48 awr. Mae’n rhaid i hyn fod yn wirfoddol a rhaid iddo fod ar bapur. Ni all fod yn gytundeb â’r gweithlu cyfan.

Ni ddylech gael eich diswyddo na chael eich trin yn annheg (er enghraifft, cael gwrthod eich dyrchafu) am wrthod llofnodi cytundeb i beidio â chydymffurfio.

Gallwch ganslo eich cytundeb i beidio â chydymffurfio unrhyw bryd – hyd yn oed os yw’n rhan o’ch contract cyflogaeth. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i chi roi o leiaf saith niwrnod o rybudd i'ch cyflogwr. Gallai hyn fod yn fwy o amser (hyd at dri mis) os gwnaethoch gytuno ar hyn yn ysgrifenedig gyda’ch cyflogwr cyn hynny.

Ni chaiff eich cyflogwr eich gorfodi i ganslo eich cytundeb i beidio â chydymffurfio.

Enghraifft o gytundeb i beidio â chydymffurfio

Yr wyf i [enw] yn cytuno y caf weithio am fwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Os byddaf yn newid fy meddwl, byddaf yn rhoi [yr amser – hyd at dri mis] o rybudd ysgrifenedig i fy nghyflogwr, i derfynu'r cytundeb hwn.

Llofnod............................................

Dyddiad.............................................

Beth sy'n cyfrif fel gwaith?

Yn ogystal â gwneud eich dyletswyddau arferol, bydd eich wythnos waith yn cynnwys y canlynol:

  • hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'ch swydd
  • amser teithio sy'n gysylltiedig â'ch swydd, er enghraifft, os ydych chi'n gwneud gwaith gwerthu
  • ciniawau gweithio, er enghraifft ciniawau busnes
  • mewn rhai achosion, amser a dreulir yn gweithio dramor mewn gwirionedd
  • goramser y cewch eich talu amdano a rhywfaint o oramser na chewch eich talu amdano
  • amser a dreulir 'ar-alwad' yn y gweithle

Beth sydd ddim yn cyfrif fel gwaith?

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

I gael cymorth a chyngor cyfrinachol ynghylch oriau gwaith, ffoniwch 0800 917 2368

Ni fydd eich wythnos waith yn cynnwys y canlynol:

  • amser egwyl pan na fyddwch chi'n gweithio, megis amser cinio
  • teithio arferol i'r gwaith ac adref
  • amser pan fyddwch chi 'ar alwad' ond nid yn eich gweithle
  • dosbarthiadau gyda'r nos ac yn ystod y dydd nad ydynt yn gysylltiedig â'ch gwaith
  • teithio y tu allan i oriau gweithio arferol
  • goramser heb dâl yr ydych wedi gwirfoddoli i'w wneud, er enghraifft, aros yn hwyr i orffen darn o waith
  • gwyliau gyda thâl neu hebddo

Gweithwyr ifanc

Mae gweithiwr ifanc yn golygu rhywun sydd dan 18 mlwydd oed, ond sy’n hŷn nag oedran gadael ysgol. Fel arfer, ni chaiff gweithwyr ifanc weithio mwy nag wyth awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Ni all oriau gael eu gweithio ar gyfartaledd gan weithwyr ifanc.

Ni chaiff gweithwyr ifanc ddewis peidio â chydymffurfio â’r terfynau oriau gwaith.

Gweithio dwy swydd wahanol

Os ydych chi’n gweithio i fwy nag un cyflogwr, ni ddylai cyfanswm cyfunol yr oriau y byddwch yn eu gweithio fod yn fwy na'r terfyn o 48 awr ar gyfartaledd.

Os ydych yn gweithio dwy swydd gallwch naill ai:

  • ystyried llofnodi cytundeb gyda’ch cyflogwyr i beidio â chydymffurfio â’r terfyn oriau os yw cyfanswm yr oriau rydych yn ei weithio dros 48 awr
  • lleihau eich oriau i gyrraedd y terfyn o 48 awr

Ble i gael cymorth

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, mae'r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i chi ynghylch oriau gwaith.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU