Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Oriau gwaith a gweithwyr ifanc

Os ydych chi'n Os ydych chi'n weithiwr ifanc, neu’n blentyn sy’n gweithio, mae eich hawliau cyflogaeth yn wahanol i hawliau cyflogaeth oedolion. Cewch gyfnodau gorffwys hwy a mwy o warchodaeth rhag gweithio yn ystod y nos. Yn wahanol i weithwyr sy'n oedolion, ni chewch ddewis peidio â chael eich gwarchod rhag y pethau hyn.

Gweithwyr ifanc a phlant sy’n gweithio

Bydd nifer yr oriau y cewch weithio a’r mathau o swyddi y cewch eu gwneud yn dibynnu ar eich oedran.

Os ydych chi’n blentyn ‘oedran ysgol gorfodol’ rydych chi’n blentyn sy’n gweithio. Oedran ysgol gorfodol yw tan ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fyddwch chi'n cael eich pen-blwydd yn 16 oed.

Os ydych chi dan 18 oed ond dros oed gadael ysgol (rydych dan oed gadael ysgol tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n cael eich pen-blwydd yn 16 oed) rydych chi'n weithiwr ifanc. Mae gan weithwyr ifanc hawliau gwahanol i blant sy’n gweithio.

Os ydych chi'n weithiwr ifanc ond yn cael eich cyflogi ar longau neu fel rhan o'r lluoedd arfog, nid yw terfynau amser gwaith yn berthnasol i chi.

Terfynau amser gwaith

Fel arfer, ni chaiff gweithiwr ifanc weithio mwy nag wyth awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Ni ellir trefnu i'r oriau hyn fod yn gyfartaledd dros gyfnod hwy ac ni chewch anwybyddu'r cyfyngiadau hyn.

Ni chewch weithio oriau hwy oni bai fod angen i chi:

  • sicrhau bod y gwasanaeth neu'r broses gynhyrchu yn parhau i fynd rhagddi
  • ymateb i gynnydd mawr yn y galw am wasanaeth neu gynnyrch

ac ar yr amod:

  • nad oes oedolyn ar gael i wneud y gwaith
  • nad yw hynny'n cael effaith negyddol ar eich anghenion hyfforddi

Os oes angen i chi weithio mwy na 40 awr yr wythnos, neu os ydych yn meddwl bod eich cyflogwr yn annheg wrth ofyn i chi weithio dros y terfyn hwn, cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith.

Cael seibiant o’r gwaith

Fel arfer, cewch amrywiaeth o wahanol seibiannau o'ch gwaith. Gellir rhannu'r rhain yn dri math:

  • cyfnodau egwyl (amser cinio, amser paned, a thoriadau byr eraill yn ystod y dydd)
  • gorffwys dyddiol (y cyfnod rhwng gorffen un cyfnod o waith a dechrau'r un nesaf (dros nos rhwng dyddiau'r wythnos yw hyn i'r rhan fwyaf o bobl))
  • gorffwys wythnosol (dyddiau llawn pan na fyddwch yn dod i'r gwaith (y penwythnos fydd hyn i lawer o bobl))

Ni cheir tâl am seibiannau dyddiol ac wythnosol byth bron, oni bai eich bod yn gorfod bod 'ar alwad'. Darperir tâl am y math cyntaf yn aml, ond nid yw hyn yn orfodol oni ddywedir hynny yn eich contract.

Cyfnodau egwyl

Bydd gweithwyr ifanc sydd angen gweithio am fwy na phedair awr a hanner yn cael 30 munud o seibiant.

Os ydych chi'n gweithio i fwy nag un cyflogwr, dylid adio'r amser yr ydych yn gweithio i bob cyflogwr i weld a gewch gyfnod o egwyl.

Mae'n ofynnol bod cyfnodau egwyl:

  • yn cael eu cymryd gyda'i gilydd mewn un bloc
  • yn cael eu cymryd rhywle yng nghanol eich cyfnod gwaith, nid ar y diwedd
  • yn cael eu treulio o'r gweithle os dymunwch
  • yn cael eu cymryd pan fydd eich cyflogwr yn rhoi caniatâd i chi, cyn belled â'i fod yn bodloni'r amodau hyn

Gorffwys dyddiol

Bydd gweithwyr ifanc yn cael 12 awr o seibiant di-dor ym mhob 24 awr a weithiant. Nid oes rhaid i'r 12 awr hyn fod yn ddi-dor os yw'ch cyfnodau gwaith wedi'u rhannu dros y diwrnod neu os nad ydynt yn para'n hir.

Gorffwys wythnosol

Rhaid i weithwyr ifanc gymryd dau ddiwrnod i ffwrdd bob wythnos. Ni ellir trefnu i hyn fod yn gyfartaledd dros gyfnod o ddwy wythnos (sy'n golygu na chewch weithio diwrnod ychwanegol un wythnos a chymryd mwy o ddiwrnodau i ffwrdd yr wythnos ganlynol, hyd yn oed os ydych yn ceisio ennill ychydig mwy o arian). Dylai'r ddau ddiwrnod hyn o seibiant hefyd gael eu cymryd gyda'i gilydd heb i chi weithio rhyngddynt.

Cyfnod o orffwys i wneud iawn

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir rhoi llai o seibiannau a chyfnodau egwyl dyddiol i chi, neu'ch atal rhag eu cael. Os cânt eu cwtogi neu os na chewch eu cymryd i gyd, dylech gael cyfnod o orffwys i wneud iawn am hyn o fewn tair wythnos.

Gyda chyfnod o orffwys i wneud iawn, cewch gyfnod o orffwys sy'n 'ddyledus' i chi, ac yn ddelfrydol bydd y cyfnod hwnnw'n cael ei gymryd yr un diwrnod gwaith neu'r diwrnod gwaith canlynol.

Gwaith nos

Mae'r deddfau ynghylch gweithio nos a gweithwyr nos yn gymhleth iawn.

Yn gyffredinol, ni chaiff gweithwyr ifanc weithio rhwng 10.00 pm a 6.00 am (ond gellir cytuno i newid hyn fel na ellir gweithio rhwng 11.00 pm a 7.00 am). Fodd bynnag, ceir rhai eithriadau os ydych yn gweithio:

  • mewn ysbyty
  • ym myd amaeth
  • ym maes adwerthu
  • mewn gwesty neu yn y diwydiant arlwyo
  • gyda'r post neu'n danfon papurau newydd
  • mewn maes sy'n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol, chwaraeon, artistig neu hysbysebu

Gallwch weithio'n hwyr i'r nos os yw'n hanfodol i'ch swydd, ond dim ond os oes angen i chi wneud un o'r canlynol:

  • sicrhau bod y gwasanaeth neu'r broses gynhyrchu'n parhau i fynd rhagddynt
  • ymateb i gynnydd yn y galw am wasanaeth neu gynnyrch

a

  • nad oes oedolyn ar gael i wneud y dasg
  • bod eich cyflogwr yn gwneud yn siŵr nad yw'ch anghenion hyfforddi'n dioddef
  • bod gennych hawl i'r un cyfnod egwyl ag yr ydych wedi'i weithio yn nes ymlaen yn y dydd

Er enghraifft, os ydych yn actor sy'n gweithio ar ffilm, gallwch weithio yn ystod y nos os oes angen saethu golygfeydd yn y nos i 'sicrhau bod y gwaith cynhyrchu'n mynd rhagddo' ac na fyddai oedolyn yn gallu chwarae eich rhan yn eich lle.

Os nad ydych yn sicr ynghylch eich hawliau neu os ydych yn meddwl bod eich cyflogwr yn eich trin yn annheg drwy ofyn i chi weithio drwy'r nos, ewch i'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU