Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ydych chi’n meddwl am gael swydd? Ydych chi eisoes yn gweithio? Os ydych chi'n gyflogedig ac o dan 18, mae rhai cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch chi ei wneud, ble y gallwch ei wneud ac am ba mor hir y cewch wneud hynny bob wythnos.
Os ydych chi dan 13 oed, dim ond dan amgylchiadau arbennig gyda chaniatâd eich awdurdod lleol y gallwch chi gael swydd. Ar ôl i chi gyrraedd 13 oed, dim ond gwaith ysgafn gewch chi ei wneud. Mae hyn yn golygu na chewch chi ddim gwneud unrhyw fath o waith a allai effeithio ar eich diogelwch neu a allai amharu ar eich addysg. Mae'r pethau y cewch chi eu gwneud yn cynnwys gwarchod plant neu wneud rownd bapur.
Bydd y cyfyngiadau hyn yn para nes i chi fod yn 16 oed ac wedi gadael yr ysgol, pan fyddwch yn dod yn weithiwr ifanc. Bydd hyn yn golygu bod gennych fwy o ddewis o ran y swyddi y gallwch eu gwneud. Os ydych chi'n 18 neu'n hŷn, byddwch yn cael yr un hawliau gweithio ag oedolion.
Ceir rheolau sy'n rheoleiddio ar ba adegau o'r dydd y cewch weithio ac am ba mor hir. Mae'r rhain yn wahanol yn dibynnu ar eich oed.
Plant 14 oed
Mae llawer o reolau ynghylch oriau gwaith plant, ond dyma'r rhai sylfaenol:
Plant a phobl ifanc 15 a 16 oed
Os ydych chi'n 15 neu'n 16 oed ac yn gweithio a chithau'n dal yn mynychu'r ysgol, bydd eich hawliau bron yn union yr un fath â'r rheolau ar gyfer pobl ifanc 14 oed. Fodd bynnag, fe gewch chi weithio hyd at wyth awr ar ddydd Sadwrn neu yn ystod gwyliau'r ysgol.
Pobl ifanc 16 a 17 oed
Os nad ydych chi yn yr ysgol rhagor a'ch bod yn 16 neu 17 oed, byddwch yn 'weithiwr ifanc' yn ôl y gyfraith. Gan na fyddwch yn yr ysgol rhagor, bydd llai o gyfyngiadau ar pryd y cewch weithio ac am ba mor hir, ond bydd ambell reol o hyd.
Gan eich bod wedi cyrraedd oedran gadael ysgol, efallai y gwelwch fod cyflogwyr yn fwy parod i gynnig cyflogaeth ran-amser neu amser llawn i chi. Hefyd, ni chewch eich cyfyngu i 'waith ysgafn' yn unig, felly cewch weithio mewn llefydd fel siop brysur, cegin bwyty neu fel gweinydd/es.
Byddwch yn gymwys ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol pan fyddwch yn hŷn na'r oed gadael ysgol (rydych dan yr oed gadael ysgol tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n troi 16). Bydd swm yr isafswm cyflog yn dibynnu ar beth yn union yw eich oedran.
Os ydych yn gwneud Prentisiaeth a'ch bod o dan 19, ni fyddwch yn gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Newidiwyd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar 1 Hydref , felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, wedi gadael yr ysgol ac yn gweithio'n llawn amser, mae gennych hawl i isafswm o 28 diwrnod o wyliau blynyddol, er ei bod yn bosib y bydd rhai cyflogwyr yn cynnig mwy na hyn.
Os mai ychydig o hyfforddiant y bydd eich cwmni'n ei gynnig, neu os nad yw'n cynnig hyfforddiant o gwbl, gallwch hefyd gael amser o'r gwaith i weithio ac astudio os byddwch yn penderfynu cymryd unrhyw gyrsiau addysg bellach.
Os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed a'ch bod wedi colli eich swydd yn ddiweddar, y dewis gorau i chi yw gwneud mwy o ddysgu neu hyfforddi. Gall cael sgiliau a chymwysterau newydd eich helpu i ddod o hyd i swydd newydd yn gynt, ennill mwy o arian a chael gwell rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
Cysylltwch â'ch gwasanaeth Connexions lleol am gymorth. Gall ymgynghorwyr Connexions eich helpu i ganfod cyfle addas sy'n bodloni eich anghenion, megis Prentisiaeth neu swydd gyda hyfforddiant.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gallu hawlio budd-daliadau os ydych yn dewis chwilio am swydd arall.
Mae gan bob cyflogwr gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod iechyd a diogelwch eu gweithwyr yn cael eu gwarchod yn y gwaith.
Golyga hyn y dylech ddisgwyl hyfforddiant trylwyr sy'n dangos y ffordd gywir o wneud eich swydd yn ddiogel.
Mae gennych hefyd gyfrifoldebau iechyd a diogelwch fel gweithiwr. Mae’r rhain yn cynnwys:
Os hoffech gael datganiad personol o'ch hawliau cyflogaeth, mae gan Cross & Stitch wasanaeth rhyngweithiol y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu un y gallwch ei argraffu a'i gadw.
Gofynnir ychydig o gwestiynau i chi am eich oedran, eich man gwaith a'ch amgylchiadau personol. Ar ôl i chi ateb yr holl gwestiynau, bydd y gwasanaeth rhyngweithiol yn cynhyrchu rhestr o'r cyfyngiadau gwaith sy'n berthnasol i chi o ran pethau fel oriau gwaith, amser o'r gwaith a chyflog.