Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael swydd yn ystod y gwyliau

Os ydych chi eisiau ennill ychydig o arian ychwanegol, mae cael swydd ran-amser yn ystod gwyliau'r ysgol neu'r coleg yn ffordd dda o wneud hynny. Cewch gyfle i ennill sgiliau defnyddiol y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol, ond mae rhai pethau y dylech eu hystyried cyn dechrau gwneud y cais 'na.

Cyn i chi gychwyn chwilio

Os ydych chi wedi penderfynu y byddech yn hoffi dechrau ennill rhywfaint o arian, mae rhai pethau y dylech feddwl amdanynt cyn dechrau, megis

  • faint o amser y gallwch ei neilltuo i swydd
  • pa mor bell y gallwch deithio a sut y gallwch gyrraedd yno
  • unrhyw sgiliau neu brofiad sydd gennych yn barod

Ceir hefyd sawl cyfyngiad ar y math o swydd y cewch ei gwneud a faint o oriau y cewch weithio, yn dibynnu ar eich oed.

Amser gallwch sbario

Er ei bod yn demtasiwn treulio llawer o'ch amser yn ystod y gwyliau'n gweithio ac yn ennill arian, nid yw'n syniad da ymrwymo'ch hun yn ormodol. Meddyliwch am unrhyw waith adolygu neu waith cwrs y bydd angen i chi ei wneud yn ystod eich amser i ffwrdd, unrhyw wyliau yr ydych wedi'i drefnu neu unrhyw beth arall yr hoffech chi ei wneud yn ystod eich gwyliau cyn cael swydd.

Os ydych wedi trefnu i fynd ar wyliau, rhaid i chi grybwyll hyn wrth eich cyflogwr posib cyn iddynt gynnig swydd i chi. Gall peidio â dweud dim nes y gwneir cynnig arwain at sefyllfa anodd – nid rhywbeth y byddai rhywun eisiau ei wynebu ar ei ddiwrnod cyntaf.

Pellter a lleoliad

Mae amser teithio'n bwysig iawn, yn enwedig os ydych yn bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Meddyliwch am sut y byddwch yn mynd a dod o'r gwaith ac ystyriwch faint o amser y bydd yn ei gymryd i chi deithio i'ch swydd ac yn ôl adref eto.

Os ydych yn gweithio yn y nos mewn bwyty neu mewn bar, mae'n bosib y bydd rhai cyflogwyr yn talu am dacsi i chi os byddwch yn gorffen yn hwyr, ond nid yw hyn yn gyffredin.

Sgiliau a phrofiad

Mae'n debygol mai swydd yn ystod y gwyliau fydd y swydd gyntaf i chi ei chael erioed, felly hwyrach eich bod yn meddwl nad oes gennych unrhyw sgiliau perthnasol i'w cynnig i gyflogwr. Meddyliwch am unrhyw beth y mae gennych ddiddordeb ynddo y tu allan i'r ysgol neu'r coleg, neu unrhyw bynciau penodol yr ydych yn meddwl eich bod yn dda ynddynt ac yna cyfatebwch nhw i gyfleoedd gwaith. Er enghraifft:

  • os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon, gallwch weithio i'ch canolfan hamdden leol
  • os oes gennych ddiddordeb mewn adloniant, gall hyn fod yn ddefnyddiol mewn siop gerddoriaeth neu siopau gwerthu DVDs
  • mae unrhyw weithgaredd yr ydych yn mynd i'w wneud yn rheolaidd yn dangos ymrwymiad – sgil allweddol y bydd cyflogwyr yn chwilio amdano

Os ydych yn gwybod pa fath o yrfa yr ydych am ei dilyn yn y dyfodol, gallai hefyd fod yn syniad da i chi chwilio am swydd yn yr un diwydiant, neu wneud lleoliad gwaith gwirfoddol yn ddi-dâl. Gall unrhyw brofiad y gallwch ei gael eich helpu wrth i chi chwilio am waith amser llawn yn y dyfodol.

Ble i chwilio

Os ydych allan yn siopa, edrychwch mewn ffenestri siopau. Mae llawer o siopau'n rhoi hysbysebion am swyddi dros dro neu am staff dros y penwythnos yn eu ffenestri. Gallwch yn aml ddod o hyd i swydd yn ystod y gwyliau drwy fynd i rywle a gofyn a oes ganddynt unrhyw waith dros dro ar gael. Hyd yn oed os nad oes ganddynt waith i'w gynnig gallant gymryd eich CV a'i gadw, sy'n golygu y gallant gysylltu â chi os bydd unrhyw waith ar gael yn y dyfodol.

Os ydych yn y chweched dosbarth, yn y coleg neu'r brifysgol, cadwch olwg ar unrhyw hysbysfyrddau swyddi o amgylch yr adeilad neu yn undeb y myfyrwyr. Mae gan lawer o golegau a phrifysgolion siopau swyddi pwrpasol gyda channoedd o swyddi rhan-amser gan gyflogwyr lleol.

Gallwch hefyd chwilio am swyddi dros dro a chyfleoedd swyddi parhaol ar-lein.

CVs a chyfweliadau

Os ydych yn gwneud cais am swydd, mae'n debygol y bydd gofyn i chi wneud CV (curriculum vitae) a mynd am gyfweliad. Os bydd rhywun yn gofyn i chi am un o'r rhain, treuliwch rywfaint o amser yn sicrhau bod eich CV wedi'i gyflwyno'n dda a'i fod yn hawdd ei ddeall. Dylech hefyd ymarfer eich techneg cyfweliad.

Additional links

Cyngor a chymorth am ddim

A ydych chi rhwng 13 ac 19? Pa bynnag ddewis mae angen i chi wneud, gall Connexions Direct eich helpu

Allweddumynediad llywodraeth y DU