Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lleoliadau gwaith gwirfoddol

Efallai eich bod eisoes wedi gwneud rhywfaint o brofiad gwaith pan oeddech yn yr ysgol, ond gall mynd ar brofiad gwaith arall pan fyddwch yn y coleg neu'r brifysgol fod yn ddefnyddiol wrth i chi gynllunio eich gyrfa. Gall profiad ymarferol yn y gweithle wella'ch siawns pan fyddwch yn ymgeisio am gyrsiau neu am swyddi.

Pam gwneud lleoliad gwaith gwirfoddol?

Mae lleoliadau gwaith yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am yr yrfa rydych yn ei hystyried.

Bydd cael rhywfaint o brofiad ymarferol a siarad â phobl sy'n gwneud y swydd yn barod yn rhoi gwell syniad i chi a fyddai'r swydd yn addas i chi ai peidio.

Gallai lleoliad gwaith roi cyfle gwell i chi ragori wrth wneud cais am gyrsiau a swyddi – a gallech greu cysylltiadau a allai eich helpu i gael y swydd rydych yn dymuno ei chael.

Dod o hyd i leoliad gwaith

Mae llawer o sefydliadau mawr yn hysbysebu lleoliadau ffurfiol neu ‘hyfforddiant galwedigaethol’ ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Mae’r rhain yn dueddol o gynnwys gweithio amser llawn am gyfnod sefydlog, fel arfer rhwng chwech a deuddeg wythnos – ond yn aml cânt eu trefnu i gyd-fynd â gwyliau prifysgolion a cholegau.

Os ydych mewn coleg neu brifysgol ar hyn o bryd, holwch y swyddfa gyrfaoedd a allant eich helpu i ddod o hyd i leoliad. Mae nifer o wefannau yn rhoi manylion am leoliadau. Edrychwch yn eich papurau newydd cenedlaethol ac ar eu gwefannau, yn enwedig os ydynt yn cyhoeddi atodiad wythnosol ar y maes gwaith y mae gennych ddiddordeb ynddo. Byddai’n ddefnyddiol hefyd edrych ar gylchgronau'r diwydiant.

Nid oes dim i’ch rhwystro rhag holi sefydliadau y mae gennych ddiddordeb ynddynt, hyd yn oed os nad ydynt yn hysbysebu. Ni fydd yn hawdd, ond gallai fod yn fuddiol – yn enwedig os na allwch fynd ar leoliad ffurfiol, a bod angen rhywbeth tymor byr neu ran-amser arnoch.

Gallwch wella eich cyfleoedd drwy ffonio sefydliadau a cheisio cael enw’r sawl y mae angen i chi gysylltu ag ef – mae pobl yn cymryd mwy o sylw o lythyrau a negeseuon e-bost sydd â chyfeiriad personol. Os nad yw hyn yn bosib, holwch beth yw teitl swydd y sawl y mae angen i chi gysylltu ag ef.

Os ydych wedi graddio, un ffordd o ddod o hyd i gyfle am leoliad gwaith neu hyfforddiant galwedigaethol yw trwy’r Gronfa Dalent Raddedigion. Mae’r gwasanaeth ar agor i raddedigion a raddiodd yn 2008 neu 2009 gydag o leiaf gradd neu radd sylfaen.

Beth i chwilio amdano mewn lleoliad

Fel rheol, mae'n gwneud synnwyr cael lleoliad yn y maes gwaith yr ydych yn gobeithio mynd iddo. Ond os oes gennych brofiad yn y maes hwn yn barod, a fyddai lleoliad yn gwella eich CV? Gallech gael budd o roi cynnig ar rywbeth gwahanol.

Dylech ystyried safon y lleoliad hefyd. Mae lleoliadau da yn tueddu i wneud y canlynol:

  • pennu amcanion ar eich cyfer
  • rhoi adborth neu werthusiad ar y diwedd
  • rhoi cofnod o’r hyn yr ydych wedi'i gyflawni a’r broses o ddatblygu eich sgiliau

Bydd rhai lleoliadau yn cydnabod eich cyflawniadau gyda thystysgrif.

Gwneud cais am leoliad a pharatoi ar gyfer un

Dylech gymryd yr un faint o ofal â phetaech yn gwneud cais am swydd. Ewch i ‘Dod o hyd i'ch swydd gyntaf a gwneud cais' i gael cyngor ar ysgrifennu CVs, llythyrau esboniadol a mwy.

Bydd gwneud digon o waith paratoi yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich lleoliad. Ceisiwch gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch am yr hyn y mae’r sefydliad yn ei wneud.

Mae hefyd yn bwysig nodi’n glir beth yr ydych yn gobeithio ei gael o’r lleoliad – a gwneud y cyflogwr yn ymwybodol o hynny hefyd. Os cewch fentor, trafodwch hyn ag ef.

Gwneud lleoliad yn y coleg neu brifysgol

Mae rhai cyrsiau coleg a phrifysgol yn cynnig lleoliad gwaith fel rhan o'r maes llafur.

Gallai hyn olygu fod eich marciau’n rhannol seiliedig ar brosiect y byddwch yn ei gyflawni ar gyfer cyflogwr. Neu, mewn addysg uwch, gellir dewis dilyn cwrs rhyngosod (lle mae eich cyfnod yn y brifysgol neu’r coleg yn gweithio o amgylch lleoliad gwaith – sy’n para blwyddyn lawn yn aml).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am opsiynau ar ôl gadael ysgol yn ‘Dysgu mewn coleg neu chweched dosbarth’. Gweler ‘Mynd i brifysgol ac addysg uwch’ i gael rhagor o wybodaeth am gynllunio eich llwybr i addysg uwch. Fe welwch ddolen i wasanaeth chwilio UCAS, a gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i gyrsiau rhyngosod yn y pwnc rydych am ei astudio.

Allwch chi gael unrhyw arian

Fel arfer, byddwch yn cael cyflog yn ystod lleoliad ar gwrs rhyngosod, ond ni fyddwch yn cael cyflog ar leoliadau eraill yn aml – er y gallech gael costau treuliau.

Mae’n bwysig cofio y gall profiad perthnasol fod yn fwy gwerthfawr yn y tymor hir na chael rhywfaint o arian yn y tymor byr.

Lleoliadau gwaith a budd-daliadau

Os ydych chi neu’ch teulu yn cael budd-daliadau neu gredydau treth, mae'n bwysig cael gwybod ymlaen llaw a fydd mynd ar leoliad gwaith yn effeithio ar eich hawl.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith a/neu eich awdurdod lleol i holi ynghylch budd-daliadau, neu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i holi ynghylch credydau treth

Lleoliadau gwaith a chymorth i fyfyrwyr

Gall gwneud gwaith cyflogedig pan fyddai disgwyl i chi fel arfer fod yn astudio effeithio ar yr arian rydych yn ei gael i aros mewn addysg ôl-16. Holwch swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.

Bydd llai o gymorth ar gael i fyfyrwyr addysg uwch sydd ar leoliad cyflogedig fel rhan o gwrs rhyngosod os byddwch yn treulio llai na 10 wythnos yn astudio ar sail amser llawn yn eich prifysgol neu goleg.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y sefydliad sy'n delio â'ch cais am gyllid myfyrwyr. Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf yn 2009/10, Student Finance England fydd yn delio â'ch cais. Fel arall, mae'n debygol mai'ch awdurdod lleol fydd yn delio â'ch cais.

Dysgu yn y gwaith

Os oes gennych ddiddordeb mewn mwy o ffyrdd i wella eich sgiliau yn y gwaith, mae amrywiaeth o opsiynau dysgu yn y gwaith y gallwch ymchwilio iddynt.

Additional links

Cyngor a chymorth am ddim

A ydych chi rhwng 13 ac 19? Pa bynnag ddewis mae angen i chi wneud, gall Connexions Direct eich helpu

Allweddumynediad llywodraeth y DU