Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bwysig edrych ar yr holl ffyrdd posib o gael swydd neu leoliad gwaith – yn enwedig pan fo llawer o gystadlu am lefydd gwag. Byddai hefyd o werth i chi gymryd gofal gyda’ch ceisiadau a gwneud rhywfaint o waith paratoi wedi i chi gael lle.
Mae gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu goleg yn ffynhonnell wych o wybodaeth am swyddi gwag, gan gynnwys cynlluniau hyfforddi i raddedigion. Gallwch chi hefyd ddod i wybod mwy am gyfleoedd mewn ffeiriau gyrfaoedd i raddedigion. Mae’r rhain yn digwydd ar hyd a lled y wlad, fel arfer o fis Mehefin hyd at yr hydref.
Gall swyddi gwag i raddedigion fod ar gael drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae nifer o gwmnïau yn hysbysebu yn yr hydref (gyda dyddiadau cau yn aml tua mis Rhagfyr/mis Ionawr). Mae cyflogwyr llai yn aml yn hysbysebu o fis Mai ymlaen.
Yn ogystal ag edrych mewn papurau newydd ac ar wefannau, gall fod o werth i chi wneud ceisiadau i sefydliadau i holi a oes ganddynt rywbeth ar gael.
Os ydych chi wedi gwneud unrhyw gysylltiadau yn y maes gwaith yr ydych chi’n anelu tuag ato (er enghraifft, drwy leoliad gwaith), ewch ati i gysylltu. Hyd yn oed os nad oes ganddynt swyddi gwag ar y pryd, gallwch ofyn iddynt gadw golwg am swyddi yn y dyfodol.
Mae digwyddiadau rhwydweithio prifysgolion yn ffordd dda arall o wneud cysylltiadau. Gallwch ddod i wybod amdanynt drwy gymdeithas cyn-fyfyrwyr eich prifysgol neu goleg.
Hefyd, mae nifer o wefannau recriwtio ar gael i raddedigion, sy’n hysbysebu swyddi a lleoliadau gwaith sydd ar gael mewn rhannau penodol o'r DU:
Gall gwaith rhan-amser, lleoliad gwaith, hyfforddiant galwedigaethol neu wirfoddoli eich helpu chi i ddatblygu sgiliau ymarferol – a fydd yn cyfrannu at eich cymwysterau ac yn gwella eich siawns o gael swydd.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu goleg. Byddai hefyd o werth i chi edrych ar ffynonellau eraill o wybodaeth, megis y gwasanaeth Cronfa Talent Graddedigion newydd. Mae’r gwasanaeth yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol i raddedigion 2008 neu 2009 sydd ag o leiaf gradd neu radd sylfaen.
Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi’ch hun, dylai eich cais fod yn wahanol i un pawb arall. Hyd yn oed os oes gennych chi gymwysterau ardderchog, mae’n bwysig dangos bod gennych chi’r nodweddion y mae cyflogwyr yn gosod gwerth arnynt - megis brwdfrydedd a rhoi sylw i fanylion. Felly, byddwch yn barod i deilwra eich cais ar gyfer y swydd a’r sefydliad penodol yr ydych chi’n ceisio ar eu cyfer.
Ceir nifer o wefannau sydd â chyngor ar ysgrifennu CV a cheisiadau, yn ogystal â pharatoi at gyfweliadau, Prospects a Cross & Stitch i enwi dim ond dwy.
Ar wefan WikiJob, gallwch weld beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn ymgeisio am swyddi i raddedigion mewn diwydiannau penodol - a gallwch chi hefyd rannu eich profiadau.
Os ydych chi’n cael trafferthion wrth geisio cael y swydd neu’r lleoliad gwaith y mae arnoch ei eisiau, gallwch ystyried derbyn swydd ar lefel is yn yr un maes. Bydd hyn yn dangos i gyflogwyr posib eich bod o ddifrif ynghylch dilyn gyrfa yn eu diwydiant hwy, a gallai hyn agor drysau at gyfleoedd eraill. Serch hynny, byddwch yn barod rhag ofn i rywun ofyn a oes gennych chi ormod o gymwysterau.
Os nad ydych chi’n dod o hyd i waith yn syth, mae cymorth a chyngor ar gael i chi o'r Ganolfan Byd Gwaith.
Tra rydych chi’n chwilio am waith, mae’n bosib fod gennych chi’r hawl i gael budd-daliadau fel Lwfans Ceisio Gwaith. Os ydych chi’n dechrau ar hyfforddiant galwedigaethol neu ar leoliad gwaith, holwch y Ganolfan Byd Gwaith o flaen llaw a fydd hyn yn effeithio ar y budd-daliadau rydych chi’n eu cael.
Os ydych chi’n dechrau swydd, bydd y cyflog rydych chi a’ch cyflogwr wedi cytuno arno yn cael ei nodi yn eich contract cyflogaeth.
Cewch gyflog am rai lleoliadau gwaith neu gyrsiau preswyl, ond nid am eraill. Dylai hyn ddibynnu ar beth yn union rydych chi’n ei wneud ar gyfer y sefydliad, yn hytrach nag enw eich swydd. Os ydych chi’n weithiwr, mae’n rhaid i chi gael yr isafswm cyflog cenedlaethol o leiaf. Yr eithriad i hyn ydy os yw eich lleoliad gwaith yn rhan o gwrs addysg bellach neu addysg uwch ac yn para hyd at flwyddyn.
Os ydych chi’n gweithio fel gwirfoddolwr, rydych chi’n annhebygol o gael eich talu.
Hyd yn oed os ydy'ch lleoliad gwaith chi'n ddi-dâl, mae’n werth i chi holi a fyddai’r sefydliad yn medru rhoi arian i chi ar gyfer eich treuliau, megis costau teithio dyddiol.
Mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o hawliau a chyfrifoldebau yn y gwaith – eich rhai chi, rhai eich cydweithwyr a rhai eich cyflogwr. Gallwch gael gwybodaeth fanwl amdanynt gan adran adnoddau dynol eich cyflogwr. Mewn sefydliadau llai, mae’n bosib y bydd angen i chi siarad â’ch rheolwr.
Dylech chi ymddwyn yn gyfrifol a pheidio â gwneud unrhyw beth sy’n eich rhoi chi, eich cydweithwyr nac aelodau o’r cyhoedd mewn peryg. Dylech chi hefyd sicrhau eich bod chi'n deall polisïau iechyd a diogelwch eich cwmni, ac yn eu dilyn.
Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol bod gan bawb yn y gweithle'r hawl i gael eu trin yn deg, ac i gael eu barnu ar sail eu sgiliau a’u galluoedd yn unig. Ceir cyfraith yn erbyn gwahaniaethu ar sawl gwahanol sail, gan gynnwys hil, oedran, anabledd, rhyw a rhywioldeb.
Os ydych chi ar leoliad gwaith, mae’n werth i chi ymddwyn fel pe baech yn weithiwr parhaol.
Ewch i ymweld ag adran cyflogaeth Cross & Stitch am fwy o wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau yn y gwaith – gan gynnwys cyflog, oriau gweithio, cyfle cyfartal, iechyd a diogelwch, ymuno ag undeb a sut i ddatrys problemau.