Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae astudio ôl-radd yn opsiwn i unrhyw un sydd â gradd gyntaf dda. Mae llawer iawn o ddewis, felly mae'n bwysig eich bod yn gwbl glir o ran yr hyn hoffech ei gyflawni. Mae rhesymau poblogaidd yn cynnwys ail-hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd, hoelio sylw yn y farchnad swyddi - a mwynhau'r pwnc
Mae pobl yn penderfynu astudio ymhellach am amryw o resymau. I rai, mae a wnelo hyn ag ymdeimlad o fodlonrwydd wrth astudio pwnc yn fwy manwl neu gymryd y cam cyntaf i ddod yn academydd. Mae pobl eraill yn dilyn cwrs er mwyn eu gwneud yn gymwys ar gyfer gyrfa benodol, neu er mwyn eu helpu i fod yn wahanol i bawb arall wrth wneud cais am swyddi.
Ceir amrywiaeth o gyrsiau ôl-radd i gyd-fynd, er bod gwahaniaethau rhwng meysydd llafur, â'r gost a'r amser y maent yn ei gymryd i'w cwblhau.
Ac ystyried yr holl opsiynau hyn, mae'n bwysig eich bod yn gwbl glir o'r hyn yr ydych yn disgwyl ei gyflawni wrth astudio ôl-
Ceir dau fath sylfaenol o gyrsiau ôl-radd: cyrsiau a ddysgir a chyfleoedd ymchwil.
Os byddwch yn dewis gwneud gwaith ymchwil, byddwch yn ymchwilio i faes penodol, ac yn cael arweiniad gan oruchwyliwr.
Fel arfer byddwch yn seiliedig mewn prifysgol, ond ceir cyrsiau sy'n eich galluogi i gynnal eich gwaith ymchwil mewn amgylchedd masnachol - neu ddatblygu sgiliau ychwanegol nad ydynt yn gysylltiedig ag ymchwil, megis sgiliau rheoli
Mae astudio ôl-radd yn cynnig llwybr i yrfaoedd yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat sy'n gofyn am gymhwyster proffesiynol er mwyn dechrau arni, neu er mwyn symud i'r lefel nesaf.
Mae mwy nag un llwybr ar gael weithiau, gyda chyfleoedd i gael profiad ymarferol ar hyd y ffordd. Efallai y byddwch yn sylwi hefyd fod cyrsiau ôl-radd yn gynt i'w cwblhau na chymwysterau israddedig. Er enghraifft, gellir cwblhau cwrs ôl-radd amser llawn mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon mewn blwyddyn - o'i gymharu â phedair blynedd am gwrs arferol baglor mewn addysg amser llawn.
Ewch i 'Gyrfaoedd i raddedigion' i gael manylion am adnoddau i'ch helpu i ymchwilio i'r gofynion er mwyn cael eich troed i mewn a symud ymlaen mewn gyrfaoedd proffesiynol megis y gyfraith a chyfrifyddiaeth. Mae gan 'Astudio ôl-radd: ymarfer dysgu, gwaith cymdeithasol, gofal iechyd' wybodaeth am lwybrau ôl-radd i yrfaoedd yn y sector cyhoeddus.
Os ydych yn bwriadu astudio cwrs sy'n eich galluogi i wneud swydd benodol, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau y caiff y cymhwyster a gewch ei gydnabod gan y proffesiwn hwnnw. Bydd masnach neu gorff proffesiynol eich diwydiant fel arfer yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn.
Os nad ydych yn siŵr beth yw'r fasnach neu'r corff proffesiynol priodol ar gyfer eich diwydiant, gallwch gael gwybod ar-lein - er enghraifft, drwy wefan Grwpiau Rhyng-Broffesiynol y DU. Gallwch hefyd holi gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu goleg.
Hyd yn oed os nad oes yn rhaid i chi gael cymhwyster ôl-radd ar gyfer y swydd rydych am ei chael, gall fod yn ffordd dda o hoelio sylw yn y farchnad swyddi gystadleuol.
Ond mae'n bwysig eich bod yn hyderus y bydd y buddsoddiad yn talu ar ei ganfed. Y ffordd orau o gael syniad o hyn yw dangos eich cynlluniau i gyflogwyr a chyrff proffesiynol yn y maes yr hoffech weithio ynddo.
Er enghraifft, a yw'r cwrs yr ydych yn ei ystyried yn ffordd well o baratoi yn hytrach na chael mwy o brofiad gwaith? A oes gan y cwrs a'r sefydliad enw da ymysg cyflogwyr? A fydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau y maent yn eu gwerthfawrogi i chi?
Mae hefyd yn syniad da cael gwybod:
Ewch i 'Dod o hyd i le ar gwrs ôl-radd' i gael manylion am sut y gallwch ddod o hyd i gwrs neu raglen ymchwil.