Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Opsiynau ar ôl graddio

Mae opsiynau ar gyfer graddedigion yn cynnwys dod o hyd i swydd neu leoliad, astudiaeth bellach ar lefel ôl-radd, sefydlu busnes, cymryd blwyddyn fwlch neu wirfoddoli. Ceisiwch gynllunio cyn gynted â phosib - a chymerwch fantais o'r cyngor sydd ar gael

Paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio

Eich merch neu fab wedi graddio eleni?

Helpwch nhw i archwilio’u hopsiynau - a chael eu hysgogi

Fel yr ydych yn dynesu at ddiwedd eich amser mewn addysg uwch, mae'n naturiol i ganolbwyntio'n fwy ar yr hyn sydd i ddod nesaf. Ond mae'n debygol y bydd llawer yn digwydd yn eich blwyddyn olaf: darlithoedd, traethodau, ac wrth gwrs, arholiadau.

Felly mae'n werth bod yn drefnus a sicrhau'r cyngor cywir os byddwch yn paratoi ar gyfer bywyd fel person graddedig tra byddwch yn parhau gyda'ch astudiaethau.

Pwyso a mesur eich opsiynau: gwaith ac astudiaeth ôl-radd

Yn ansicr ynglŷn â'ch cam cyntaf fel person graddedig? Gall trafod eich opsiynau fod o gymorth i chi i feddwl am syniadau.

Hyd yn oed os ydych wedi penderfynu beth rydych am ei wneud, mae'n dal yn werth cael cyngor. Er enghraifft - os ydych yn chwilio am swydd arbennig a fydd gwell siawns gennych gael y swydd gyda chymhwyster ôl-radd ? Neu a fyddai'n well cael profiad gwaith?

Mae cymorth ar gael trwy eich prifysgol neu wasanaeth gyrfaoedd eich coleg. Bydd staff pwnc hefyd yn gallu'ch cynghori ynghylch opsiynau ar gyfer astudiaethau pellach, neu roi awgrymiadau i chi ar y llefydd gorau i chwilio am arweiniad ar yrfaoedd.

Opsiynau gyrfa a dod o hyd i swydd

Mae'n well cofrestru gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd cyn gynted ag y bo modd - yn enwedig os yr ydych am fynd i weithio yn syth ar ôl graddio.

Yn ogystal â chymryd y baich oddi ar eich ysgwyddau tuag at ddiwedd eich blwyddyn olaf, bydd dechrau arni cyn ei bod yn prysuro yn eich helpu i osgoi methu dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau. Gallwch hefyd gymryd mantais o gyngor buan ynghylch angen mynd ati i chwilio am swydd a sut i lunio ceisiadau effeithiol.

Gallwch hefyd gael cymorth a chyngor ar chwilio am swydd gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Gweler 'Gyrfaoedd i raddedigion' am fwy o help gyda chynllunio gyrfa, dod o hyd i swydd a chael profiad gwaith.

Gweler 'Gyrfaoedd i raddedigion' am fwy o help gyda chynllunio gyrfa, dod o hyd i swydd a chyfleoedd profiad gwaith – fel profiadau gwaith i raddedigion.

Rhoi cynnig ar yrfa a chithau yn y coleg neu yn y brifysgol o hyd

Os ydych yn chwilfrydig ynghylch sut brofiad yw gweithio o fewn gyrfa benodol, yna mae'n bosib y cewch gyfle yn ystod eich cyfnod yn y coleg neu'r brifysgol i gael profiad yn y maes. Gall cymdeithasau myfyrwyr, papurau newydd, gorsafoedd radio, timau chwaraeon a chyrsiau rhagflas hefyd i helpu i feithrin y math o sgiliau a phrofiad y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Astudio ôl-radd

Os ydych yn ystyried astudiaethau pellach, dechreuwch feddwl am eich opsiynau cyn gynted ag y bo modd, yn ddelfrydol o leiaf 18 mis cyn eich bod yn bwriadu dechrau ar eich cwrs ôl-radd.

Dechrau busnes

Mae llawer o brifysgolion yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr a graddedigion sy'n dymuno cychwyn eu busnes eu hunain. Gall hyn olygu rhoi'r dewis i chi i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd fel rhan o'ch cwrs, neu gynnal sesiynau cynghori allgyrsiol ar sut i ddechrau busnes. Mae rhai prifysgolion hefyd yn darparu gwasanaeth 'dechrau arni' i helpu graddedigion i sefydlu eu busnes.

Ffynhonnell arall sy'n cynnig cymorth a chyngor yw gwasanaeth FlyingStart, sy'n cael ei redeg gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Entrepreneuriaid Graddedig

Ymwelwch â gwefan FlyingStart:

  • i gael defnyddio adnoddau ar-lein, gan gynnwys cronfa ddata o grantiau a chyllid
  • i rwydweithio ag entrepreneuriaid graddedig eraill
  • i gael gwybod am ddigwyddiadau undydd di-dâl i'ch rhoi ar ben y ffordd
  • i gael manylion am raglenni tymor hwy ym maes hyfforddi a mentora

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn brosiect teirffordd rhwng person graddedig, sefydliad (fel busnes, elusen neu gorff sector cyhoeddus) a phrifysgol neu sefydliad ymchwil.

Fel person graddedig ar Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth byddwch yn cael eich recriwtio i reoli prosiect strategol, sydd fel arfer yn parhau rhwng un i dair blynedd. Mae nifer o raddedigion yn cael cynnig swydd gan ei sefydliad Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth pan fyddant yn gorffen y prosiect.

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth fer

Gallwch hefyd gwneud cais i wneud Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth fwy byr, sy’n parhau rhwng 10 a 40 wythnos. Mae’r lleoliadau hyn ar gael yn bennaf mewn mentrau maint bach a chanolig.

I gael gwybod mwy ynghylch Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a sut i wneud cais, ewch i’r wefan ktponline.

Gwirfoddoli

Dod o hyd i gyfle i wirfoddoli

Datblygu sgiliau newydd, ennill profiad, gwella eich CV...

Gall gwirfoddoli ar ôl i chi raddio fod yn ffordd wych i ddatblygu sgiliau a phrofiad gwerthfawr. Gall arddangos y sgiliau hyn i gyflogwyr potensial rhoi hwb i chi wrth i chi adeiladu eich gyrfa.

Mae miloedd o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, felly yr ydych yn sicr o ddod o hyd i un sydd o ddiddordeb i chi. Gallwch ddewis i wirfoddoli’n rhan amser am rai dyddiau, neu wneud cais am leoliad gwirfoddoli yn y DU neu dramor.

Er enghraifft, mae’r elusen Raleigh yn cynnig Bwrsarïau i alluogi graddedigion i gymryd rhan yn eu teithiau tramor yn ystod 2009 a 2010.

Cymryd blwyddyn fwlch

Pa un ai eich bod yn mynd dramor neu’n aros yn y DU, gall blwyddyn fwlch fod yn gyfle da i ehangu’ch gorwelion. Gall hefyd fod yn ffordd arall o ddatblygu sgiliau a phrofiad i wella eich gallu i weithio.

Os ydych ar ôl lleoliad blwyddyn bwlch penodol – yn enwedig un o’r rhai mwyaf poblogaidd – mae’n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r dyddiadau cau a gwneud eich trefniadau ymhell ymlaen llaw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU