Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ariannu astudio ôl-radd

Mae llawer o gystadleuaeth ar gyfer cyllid i raddedigion, felly gwnewch gais cyn gynted â phosib. Mae angen i geisiadau am gyllid ar gyfer y cyrsiau a ddysgir ac ar gyfer lleoedd ymchwil gael eu cyflwyno erbyn y gwanwyn fel arfer, cyn i chi ddechrau'ch astudiaethau yn yr hydref.

Ysgoloriaethau ymchwil

Mae rhai cyrsiau ôl-radd gyda chyllid cysylltiedig iddynt. Gelwir y rhain yn ysgoloriaethau ymchwil. Gall ysgoloriaethau ymchwil dalu am ffioedd a chostau byw, ond ceir llawer o gystadleuaeth amdanynt fel arfer.

I gael gwybod mwy am ddod o hyd i ysgoloriaethau ymchwil ac i wneud cais amdanynt, gweler 'Dod o hyd i le ar gwrs ôl-radd'.

Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, gwaith cymdeithasol, gofal iechyd a meddygol

Mae'r cymorth ariannol sydd ar gael yn wahanol ar gyfer cyrsiau:

  • ym maes Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon
  • ym maes gwaith cymdeithasol
  • mewn rhai disgyblaethau meddygol neu gofal iechyd

Os nad yw'ch cwrs ôl-radd yn dod gyda chyllid

Os nad yw'ch cwrs yn dod gyda chyllid cysylltiedig, yna bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn talu am eich astudiaethau.

Y prif gostau y byddwch yn eu hwynebu fydd ffioedd dysgu a llety a chostau byw. Mae ffioedd dysgu yn amrywio o gwrs i gwrs. Fel arfer, byddant yn costio miloedd o bunnoedd.

Mae'n arferol i ôl-raddedigion helpu i dalu am eu hastudiaethau drwy:

  • ddefnyddio cynilion
  • cyfuno astudio gyda gwaith
  • gwneud cais am gymorth ariannol gan rai o'r ffynonellau a restrir isod

Lle i chwilio am gymorth ariannol

Gallwch chwilio am bob math o grantiau ôl-radd ar wefannau Hot Courses a Prospects.

Mae'r grantiau hynny'n amrywio'n fawr. Bydd gofyn i chi holi ynghylch y canlynol:

  • swm y grant
  • a fyddwch yn cael un taliad neu gyfres o daliadau drwy gydol eich astudiaethau
  • a yw'n talu am ffioedd
  • a yw'n talu am astudio rhan amser neu amser llawn
  • a yw'n talu am raddau meistr neu ddoethuriaethau

Elusennau ac ymddiriedolaethau

Mae llawer o elusennau ac ymddiriedolaethau yn darparu grantiau ar gyfer myfyrwyr ôl-radd. Yn aml, mae cymorth ariannol wedi'i roi o'r neilltu ar gyfer myfyrwyr sy'n dod o gefndiroedd tlotach, neu ar gyfer y rheini sydd wedi cyflawni rhagoriaeth academaidd.

Gallwch ddod i wybod mwy am elusennau ac ymddiriedolaethau yn eich llyfrgell leol. Dyma rai cyhoeddiadau defnyddiol:

  • y Cyfeiriadur Grantiau Addysgol
  • Charities Digest
  • y Gofrestr Grantiau
  • Cyfeiriadur Ymddiriedolaethau sy'n rhoi Grantiau

Gallwch chwilio am gyllid gan ymddiriedolaethau addysg ar wefan y Gwasanaeth Ymgynghorol Grantiau Addysgol.

Cymdeithasau dysgedig

Mae rhai cymdeithasau dysgedig yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ôl-radd neu ôl-ddoethuriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Yr Academi Brydeinig (ar gyfer dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol)
  • Yr Academi Peirianneg Frenhinol (ar gyfer peirianneg)
  • Y Gymdeithas Frenhinol (ar gyfer gwyddoniaeth)

Ysgoloriaethau sy'n cael eu hariannu'n breifat

Gall unigolion roi grantiau er mwyn helpu i ariannu graddedigion. Cânt eu cynnig fel arfer trwy'r brifysgol neu'r coleg lle'r ydych wedi cael eich derbyn.

Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa

Mae Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yn eich galluogi i fenthyg arian heb orfod talu llog tra byddwch yn astudio. Gallwch fenthyg hyd at £10,000 i helpu i ariannu hyd at ddwy flynedd o astudio. Os yw'ch astudio yn cynnwys blwyddyn o brofiad gwaith perthnasol, gallwch ymestyn y benthyciad i dair blynedd.

Benthyciadau MBA

Os ydych yn gwneud Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes, gallwch wneud cais am fenthyciad MBA trwy Gymdeithas yr MBA.

Cymorth ariannol gan eich cyflogwr

Os yw'r cwrs rydych am ei wneud yn gysylltiedig â'ch swydd, efallai y gallwch gael eich cyflogwr i'ch noddi. Gall fod yn ddefnyddiol i chi gyflwyno'r syniad fel achos busnes, gan bwysleisio'r buddiannau iddynt hwy. Gweler 'Cael Hyfforddiant yn y gwaith' am rai syniadau.

Gall fod gan yr adran hyfforddi neu'r adran adnoddau dynol mewn cwmnïau mawr wybodaeth ynghylch unrhyw gynlluniau cyllid.

Mae'n llai tebygol bod gan gwmnïau bach unrhyw drefniadau ffurfiol, ond efallai y gallant gynnig cyllid fodd bynnag. Maent yn fwy tebygol o helpu os bydd eich astudiaeth ôl-radd o fudd i'r cwmni.

Os nad yw'ch cyflogwr yn gallu darparu cyllid, mae'n bosib y bydd yn barod i gynnig talu am absenoldeb astudio gyda thâl neu heb dâl.

Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Mae'n bosib y gall myfyrwyr ôl-radd sydd â nam, cyflwr iechyd neu anhawster dysgu gael cymorth ariannol drwy'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Gallwch wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl ar gyfer cyrsiau a ddysgir a lleoedd ymchwil.

Cyllid i raddedigion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mewn rhai achosion, gall graddedigion o'r Alban wneud cais am gyllid gan Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban (SAAS).

Yng Ngogledd Iwerddon mae'r Adran Cyflogaeth a Dysgu a'r Byrddau Addysg a Llyfrgelloedd yng Ngogledd Iwerddon yn darparu cyllid i raddedigion ar gyfer cyrsiau penodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU