Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrfaoedd i raddedigion

Mae digonedd o gyngor ar gael i raddedigion ar yrfaoedd, swyddi a lleoliadau gwaith. Mae hyn yn cynnwys adnoddau ar-lein i'ch helpu i ymchwilio i'ch opsiynau, a gallwch gael cymorth personol gan wasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu'ch coleg

Cynllunio gyrfa i raddedigion: dechrau arni

mae gwasanaethau gyrfaoedd yn cynnig cymorth i raddedigion yn ogystal â myfyrwyr

Os nad ydych yn siŵr beth mae arnoch eisiau ei wneud, gallwch roi cynnig ar ddefnyddio gwasanaeth Prospects Planner – gall hwn eich helpu i weld beth yw eich sgiliau, eich diddordebau a'ch cymellion, cyn eu paru â mathau o swyddi. Mae adran cyflogaeth Cross & Stitch hefyd yn cynnig cyngor ar gynllunio gyrfa.

Oes arnoch angen cyngor ar eich opsiynau?

I gael cyngor gan unigolyn proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi yn y maes, cysylltwch â gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu'ch coleg. Rydych hefyd yn debygol o ddod o hyd i swyddi gwag a lleoliadau gwaith, a chael cymorth gyda cheisiadau, CVs a thechneg mewn cyfweliadau.

Fel arfer, gall cyn fyfyrwyr gael help am gryn amser ar ôl graddio. Os ydych wedi symud i ffwrdd ers graddio, byddant yn dweud wrthych pa wasanaethau sydd ar gael mewn prifysgolion a cholegau sy'n nes atoch.

Mae gan wefan Prospects fanylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau gyrfaoedd prifysgolion a cholegau - ac mae'n gadael i chi chwilio am wasanaethau sy'n arbennig ar gyfer graddedigion.

Manteisio i’r eithaf ar eich cymhwyster addysg uwch

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld at ba fath o yrfa y gallai eich cwrs arwain, bydd gwasanaeth gyrfaoedd a staff academaidd eich prifysgol neu'ch coleg yn gallu eich cynghori.

Cyn i chi ddechrau chwilio am waith, mae'n werth gwneud yn siŵr eich bod wedi ystyried eich opsiynau i gyd. Os ydych wedi canolbwyntio ar faes gwaith penodol hyd yma, a oes unrhyw yrfaoedd cysylltiedig a allai roi mwy o opsiynau i chi - a gwella eich siawns o gael swydd?

Mae nifer o swyddi gwag ar agor i raddedigion sydd wedi graddio yn unrhyw bwnc. Fodd bynnag, gall gael gwybod beth y mae graddedigion eraill yn eich pwnc yn eu gwneud yn ffordd dda o gael syniadau. Byddwch yn dod o hyd i ddigon o adnoddau ar-lein i’ch helpu i wneud hynny.

Dod o hyd i swydd neu leoliad gwaith

Cronfa Talent Graddedigion

Chwilio am swyddi preswyl gwag yn Lloegr

Yn ogystal â chysylltu â gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu goleg, gallwch chwilio am swyddi ar-lein, mewn papurau newydd neu gylchgronau masnach. Mae’n werth hefyd gysylltu â chyflogwyr yn uniongyrchol a chael gwybod os oes ganddynt unrhyw swyddi gwag.

Ffordd arall i ymuno â’r byd gwaith yw drwy wneud lleoliad neu brofiad gwaith, fel y rhai hynny sydd wedi’u postio ar Graduate Talent Pool. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig profiadau gwaith i raddedigion a raddiodd gydag o leiaf gradd neu radd sylfaen yn 2008 neu 2009.

Datblygiad gyrfa a diweddaru eich sgiliau

Os ydych wedi llwyddo i gael gwaith yn y maes o'ch dewis, nid yw hyn yn golygu rhoi'r gorau i ddysgu. Mae diweddaru gwybodaeth a sgiliau yr un mor bwysig i raddedigion ag ydynt i bawb arall.

Gallai hyn fod mor syml â chymryd diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn eich maes – darllen cyhoeddiadau'r diwydiant, er enghraifft. Neu gallai olygu hyfforddiant neu astudiaeth bellach.

Sut mae mynd ati i ddiweddaru eich sgiliau

Cadwch olwg ar y modd y mae eich diwydiant yn newid: mae gwybod pa sgiliau y ceir galw amdanynt yn allweddol. Er enghraifft, edrychwch ar hysbysebion swydd i gael syniad o’r hyn y mae ar gyflogwyr ei eisiau.

Mae hefyd yn ddefnyddiol cysylltu â chymdeithas eich diwydiant neu'ch proffesiwn. Mae mwy a mwy yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd ‘Datblygiad Proffesiynol Parhaus’, ac mae gan rai raglenni i helpu aelodau i ddatblygu eu sgiliau.

Hyfforddiant ac astudiaeth bellach

Efallai y bydd eich cyflogwr yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau - neu efallai yr hoffech wella eich rhagolygon gyrfa drwy drefnu hyfforddiant i chi'ch hun.

Os ydych am ddilyn hyfforddiant pellach, mae'n werth ystyried cyrsiau sy'n arwain at gymhwyster ôl-radd neu gymhwyster ffurfiol arall. Bydd hyn yn rhoi gwell siawns i'ch gwybodaeth a'ch sgiliau newydd gael eu cydnabod yn llawn gan gyflogwr newydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU