Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrfaoedd yn y sector cyhoeddus

Gall gweithio yn y sector cyhoeddus olygu gweithio ar gyfer y llywodraeth. Mae amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael yn y sector cyhoeddus, fel nyrsio, addysgu, lluoedd arfog a'r gwasanaethau brys.

Y gwasanaeth sifil

Mae'r gwasanaeth sifil yn cefnogi'r llywodraeth drwy helpu i ddatblygu a gwneud polisi, rhedeg gwasanaethau cyhoeddus.

Cyflogir gweision sifil ar draws llywodraeth ganolog a lleol. Dyma enghreifftiau o adrannau'r llywodraeth y mae gweision sifil yn gweithio ynddynt:

  • Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Adran Gwaith a Phensiynau

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r gwasanaeth sifil, neu os hoffech gael gwybod mwy am lywodraeth ganolog neu leol, dilynwch y dolenni isod.

Swyddi cyngor lleol

Mae cynghorau lleol yn gyfrifol am redeg gwasanaethau yn eich ardal leol o ddydd i ddydd. Dyma rai o'r gwasanaethau y mae cynghorau lleol yn gyfrifol amdanynt:

  • gwarchod yr amgylchedd
  • ailgylchu a chasglu sbwriel
  • rheoli traffig a pharcio
  • canolfannau cymunedol a chyfleusterau chwaraeon

Os oes gennych ddiddordeb mewn swydd mewn llywodraeth leol, dilynwch y dolenni isod.

Swyddi gofal a iechyd

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yw'r cyflogwr mwyaf yn Ewrop, sy'n cyflogi mwy na miliwn o bobl. Yn ogystal â meddygon, nyrsys a staff meddygol, mae’r GIG hefyd yn cyflogi nifer helaeth o bobl mewn rolau cymorth o'r fath fel:

  • gweinyddiaeth
  • glanhau
  • cynnal a chadw
  • arlwyo
  • diogelwch

Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i yrfa yn y GIG.

Swyddi addysgu

Mae gwastad galw am swyddi fel athrawon. O’r feithrinfa i'r brifysgol, mae swyddi gwag ledled y wlad ar gyfer athrawon.

Cewch wybod am hyfforddiant athrawon a pha gymorth ariannol y gallech ei gael drwy ddilyn y ddolen isod.

Swyddi gwasanaethau brys

Mae’r gwasanaethau brys yn cynnwys:

  • gwasanaeth ambiwlans
  • brigâd dân
  • heddlu

Yn ogystal â swyddi yn y rheng flaen, mae gan y tri gwasanaeth brys nifer o swyddogaethau cefnogol o ddydd i ddydd. Cewch wybod mwy am weithio ar gyfer y gwasanaethau brys drwy ddilyn y dolenni isod.

Swyddi yn y lluoedd arfog

Mae’r lluoedd arfog yn cynnwys:

  • Y Fyddin Frenhinol
  • Yr Awyrlu Brenhinol
  • Y Llynges Frenhinol

Mae’r tri wrthi’n recriwtio. Am ragor o wybodaeth am fywyd yn y lluoedd arfog, pwyswch ar y dolenni isod.

Additional links

Cael cyngor gyrfaoedd a sgiliau

Cael cyngor gyrfaoedd ar-lein neu siaradwch â chynghorydd Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol drwy ffonio 0800 100 900

Allweddumynediad llywodraeth y DU