Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall dod o hyd i’r yrfa iawn roi boddhad mawr, felly mae’n werth ymdrechu i gynllunio gyrfa. Dechreuwch drwy feddwl am yr hyn sy’n eich cymell, yna dewch o hyd i yrfaoedd sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch diddordebau.
Er y gall fod yn demtasiwn edrych ar yrfaoedd penodol ar unwaith, yn aml mae'n syniad da treulio rhywfaint o amser i ddechrau yn meddwl am yr hyn sy'n eich cymell fel unigolyn.
Beth yw eich diddordebau, yn y gwaith a'r tu allan - a beth rydych yn chwilio amdano mewn gyrfa? Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar hyn, gallwch ddechrau creu llun o’ch swydd ddelfrydol – yna dewch o hyd i’r gyrfaoedd agosaf sy’n cyd-fynd â hi.
Os nad oes gennych syniad clir o’r hyn rydych eisiau ei wneud, gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Ac os oes gennych yrfa mewn golwg, sut rydych yn gwybod eich bod wedi ystyried pob un o’ch dewisiadau?
Fel man cychwyn, dylech eistedd i lawr gyda darn o bapur a rhestru:
Yna gofynnwch i chi’ch hun:
Dylech ddechrau gweld rhai patrymau: y mathau o sgiliau rydych yn mwynhau eu defnyddio, y math o amgylchedd rydych yn perfformio orau ynddo a’r mathau o bobl rydych yn hoffi gweithio gyda nhw.
Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu i bennu meysydd gwaith y gallech eu mwynhau.
Unwaith y bydd gennych syniad o’r meysydd yr hoffech weithio ynddynt, y cam nesaf yw edrych ar rai o broffiliau gyrfaoedd. Bydd y rhain yn rhoi gwybodaeth i chi am y cyfleoedd sydd ar gael mewn maes gwaith penodol – a pha sgiliau a chymwysterau fydd eu hangen arnoch fwy na thebyg.
Gall siarad â chynghorydd gyrfa eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn rydych yn disgwyl ei gael mewn gyrfa – a phenderfynu lle rydych am fod.
Cael cyngor ar-lein, dros y ffôn neu’n bersonol
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn wasanaeth ar gyngor gyrfaoedd a sgiliau. Gallwch gael cyngor ar-lein neu dros y ffôn drwy ffonio 0800 100 900. Gallwch hefyd drefnu cwrdd â chynghorydd gyrfa wyneb-yn-wyneb yn agos i ble yr ydych chi’n byw neu drefnu galwad ffôn yn ôl am ddim gan gynghorydd.
Cynllunio gyrfa a chyngor i bobl ifanc
Dilynwch y ddolen isod i gael awgrymiadau ar gynllunio gyrfa a ffynonellau cyngor os ydych o dan 20 oed.
Os ydych wedi graddio neu’n gweithio tuag at gymhwyster addysg uwch
Dilynwch y ddolen isod i gael ffynonellau gwybodaeth a chyngor ar yrfaoedd i raddedigion.
Unwaith y bydd gennych syniad am y gyrfaoedd sy’n debygol o fod yn addas i chi, edrychwch ar 'Ystyriaethau gyrfa' i gael awgrymiadau ar bethau i'w hystyried tra'r ydych yn gwneud eich ymchwil - fel cyflog, lleoliad a chael y cymwysterau sydd eu hangen arnoch.