Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newid gyrfa

Ydych chi’n ystyried newid gyrfa? Weithiau, gall fod yn anodd penderfynu ai her newydd y mae arnoch ei hangen, ynteu a yw'n amser i chi symud i gyfeiriad cwbl wahanol. Os oes angen cymorth arnoch i wneud y penderfyniad cywir, gallwch gael cyngor diduedd yn rhad ac am ddim gan gynghorydd gyrfa.

Pa mor fodlon ydych chi gyda’ch gyrfa?

Gall meddwl am yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni yn eich gyrfa hyd yma fod yn lle da i ddechrau. Mae llwyddiant yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, ond efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • a ydych wedi mwynhau’r heriau yr ydych wedi’u hwynebu yn eich gwaith
  • a ydych wedi cael dyrchafiad o ganlyniad i’ch talentau
  • a ydych wedi cael cyflog sy’n eich galluogi i fyw fel y mynnwch
  • a ydych wedi meithrin arbenigedd yn eich maes gwaith
  • a ydych wedi creu effaith – yn eich sefydliad, neu’n fwy eang
  • a ydych wedi ennill parch cleientiaid, cwsmeriaid a chydweithwyr

A yw’n bryd i chi newid gyrfa?

Dylai penderfynu a yw eich swydd bresennol wedi eich galluogi i ennill y llwyddiant yr hoffech ei gael roi syniad i chi a yw’n amser am newid ai peidio.

Os ydych yn credu y gallai newid gyrfa fod o fudd i chi, bydd angen i chi benderfynu a oes arnoch eisiau:

  • rôl newydd yn eich sefydliad presennol
  • newid cyflogwr
  • gyrfa gwbl wahanol

Efallai y bydd gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol yn eich helpu i benderfynu ar hyn.

A ydych yn mwynhau’r tasgau bob dydd yn eich swydd?

Os nad ydych yn mwynhau'r gweithgareddau bob dydd yn eich swydd y dyddiau hyn, ceisiwch ystyried beth allai fod wrth wraidd hyn - efallai eich bod wedi diflasu a bod angen her newydd arnoch. Efallai y dylech feddwl am symud i adran wahanol o fewn eich sefydliad - neu symud at gyflogwr gwahanol.

Os nad ydych yn mwynhau rhai pethau o'ch swydd o ddydd i ddydd o gwbl - neu os nad ydych yn cael y cyfle i ddefnyddio eich holl dalentau - gofynnwch i chi'ch hun a yw'r hyn yr ydych yn ei wneud yn gyffredin ar gyfer swydd yn eich maes gwaith chi. Os nad ydych yn fodlon â’r swydd ei hun, efallai na fydd symud adran neu symud cyflogwr yn gwella pethau. Mae’n bosib y byddwch am ystyried newid mwy radical.

A ydych yn cael eich cymell gan y bobl sy’n gweithio gyda chi?

Sut yr ydych yn cyd-dynnu gyda chydweithwyr, rheolwyr, cleientiaid a phobl eraill yn eich gweithle?

Meddyliwch a oes unrhyw broblemau'n codi oherwydd gwrthdaro rhwng personoliaethau unigolion penodol, natur y gweithle - neu oherwydd natur y swydd ei hun.

Os ydych yn hoffi’r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw ond nad ydych yn mwynhau’r gwaith ei hun, mae’n bosib y dylech ystyried newid eich rôl o fewn y sefydliad – neu chwilio am rôl wahanol gyda chyflogwr tebyg.

A ydych yn fodlon â’r cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch bywyd?

Os ydych yn chwilio am waith sy’n cyd-fynd yn well gyda’ch bywyd teuluol, nid yw newid swydd yn angenrheidiol bob amser.

Mae technoleg yn ei gwneud yn bosib i fwy o bobl dreulio amser yn gweithio o'u cartref. Cofiwch y gallech fod â'r hawl i ofyn i'ch cyflogwr wneud trefniadau ar gyfer gweithio hyblyg (er y gallant wrthod os oes ganddynt reswm busnes da dros wneud hynny).

Cymryd y camau cyntaf at yrfa newydd

Newid gyrfa'n gyfan gwbl

Os ydych chi'n ystyried newid gyrfa'n gyfan gwbl ond nad ydych yn sicr i ba gyfeiriad i fynd, dechreuwch drwy holi eich hun am:

  • eich diddordebau
  • eich sgiliau
  • eich profiad

Ewch i ‘Pa yrfa sy’n addas i chi?’ i gael gwybod mwy.

Dod o hyd i swydd newydd gyda'r un math o waith

Os ydych chi'n teimlo fel newid ond yn bwriadu cadw at yr un math o waith, gallwch chwilio am swyddi gwag ar-lein. Gweler 'Dod o hyd i swydd nawr'.

Rhagolygon, tâl a phethau eraill i'w hystyried

Mae gwahanol bobl yn chwilio am wahanol bethau yn eu gyrfa, ond mae ystyriaethau cyffredin yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu, cyflog a lleoliad.

Gweler 'Ystyriaethau gyrfa' i gael gwybod mwy.

Rhoi eich cynlluniau ar waith: cyrsiau a chymwysterau

Gallai dysgu helpu i agor dewisiadau newydd os ydych yn ystyried:

  • mentro i fath gwahanol o waith
  • meddwl dringo yn eich gyrfa bresennol

Ceir amrywiaeth eang iawn o gyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith, a'r rheini ar gael ar ystod o lefelau. A does dim rhaid i chi roi'r gorau i'ch swydd bresennol – mae nifer o gyrsiau wedi'u llunio i'ch galluogi i gyfuno gwaith astudio ag ymrwymiadau gwaith.

Cael cyngor ar yrfaoedd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn wasanaeth ar gyngor gyrfaoedd a sgiliau. Gallwch gael cyngor ar-lein neu dros y ffôn drwy ffonio 0800 100 900. Gallwch hefyd drefnu cwrdd â chynghorydd gyrfa wyneb-yn-wyneb yn agos i ble yr ydych chi’n byw neu drefnu galwad ffôn yn ôl am ddim gan gynghorydd.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Cael cyngor gyrfaoedd a sgiliau

Cael cyngor gyrfaoedd ar-lein neu siaradwch â chynghorydd Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol drwy ffonio 0800 100 900

Allweddumynediad llywodraeth y DU