Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd pobl sy’n gweithio gartref yn gwneud eu swyddi yn eu cartrefi eu hunain (gwaith ymarferol gan amlaf). Bydd teleweithwyr hefyd yn gweithio gartref (ond gan amlaf – gwaith swyddfa fydd hwn). Mae manteision ac anfanteision i'r ddau fath o weithio gartref. Bydd eich hawliau cyflogaeth yn dibynnu ar a ydych chi’n weithiwr, yn gyflogai ynteu’n hunangyflogedig.
Mae pobl sy'n gwneud eu gwaith i gyd gartref yn cael eu hystyried yn bobl sy'n gweithio gartref. Cyflogir llawer o bobl sy'n gweithio gartref yn y DU yn y maes gweithgynhyrchu ac maen nhw'n gwneud amrywiaeth eang o nwyddau, o esgidiau i gydrannau ceir.
Fel rhywun sy'n gweithio gartref, mae eich hawliau cyflogaeth yn dibynnu ar eich statws cyfreithiol. Ceir tri phrif gategori:
Nid fydd eich statws cyflogaeth bob amser yr un fath â’ch statws treth. Er enghraifft, gallech fod yn hunangyflogedig at ddibenion treth, ond yn weithiwr at ddibenion hawliau cyflogaeth.
Mae gan bron bawb sy'n gweithio yr hawl i gael cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf.
Os bydd eich cyflogwr yn eich talu yn ôl faint o waith wnewch chi, yn hytrach na fesul awr, gelwir hyn yn waith 'fesul tasg' neu'n waith ‘allbwn’. Mae gennych chi'r hawl i gael cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o hyd.
Os mai cyflogai'n gweithio gartref ydych chi, rhaid i'ch cyflogwr sicrhau eich bod yn ddiogel. Rhaid i bobl sy’n gweithio gartref fod yn ofalus wrth wneud y canlynol:
Dylai pawb sy'n gweithio gartref, boed y rheiny'n hunangyflogedig ynteu'n gyflogedig (yn enwedig mamau newydd a rhai sy'n disgwyl) fod yn ofalus os ydyn nhw'n gweithio ar eu pennau eu hunain am gyfnodau hir.
Mae rhai hysbysebion am swyddi gweithio gartref yn rhai twyllodrus. Fel arfer, ni fydd rhaid talu ffi am gael gwaith go iawn, felly peidiwch byth ag anfon arian at bobl neu gwmnïau sy'n honni eu bod yn barod i roi gwaith i chi ei wneud gartref.
Os oes gennych ddiddordeb mewn swydd gweithio gartref sydd wedi’i hysbysebu, ymchwiliwch i’r cwmni a chysylltu â nhw os oes gennych chi gwestiwn. Os yw’r cwmni'n ddilys, bydd yn fodlon siarad â chi a rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
Mae sgamiau cyffredin yn cynnwys hysbysebion:
Os ydych chi wedi dioddef oherwydd twyll gweithio gartref, cysylltwch â'ch Adran Safonau Masnach leol.
Y prif wahaniaeth rhwng 'gweithio gartref' a ‘theleweithio' yw bod teleweithwyr, a allai fod yn gweithio gartref amser llawn, gan amlaf yn gwneud gwaith swyddfa yn hytrach na gwaith ymarferol, a'u bod yn aml yn defnyddio cyfrifiaduron a dyfeisiau electronig eraill i wneud eu gwaith a chyfathrebu'n uniongyrchol â'u swyddfa.
Bydd rhai teleweithwyr yn treulio rhan o'u hwythnos yn gweithio yn y swyddfa a rhan ohoni'n gweithio gartref. Fel sy'n wir am weithio gartref, bydd eich hawliau'n dibynnu ar eich statws cyflogaeth, os mai 'cyflogai' ydych chi, bydd gennych yr un hawliau ag sydd gan unrhyw 'gyflogai' arall.
Dyma rai o’r manteision:
Dyma rai o'r anfanteision:
Os byddwch chi'n defnyddio cyfrifiadur personol, fe allai'r data fod yn agored i risg, felly mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn darparu un ar eich cyfer. Bydd rhaid i chi sicrhau nad yw unrhyw un sy'n ymweld â'ch cartref yn gweld unrhyw ddeunydd sensitif rydych chi'n gweithio arno.
Mynnwch sgwrs â'ch cyflogwr. Gall unrhyw un ofyn i'w gyflogwr am drefniadau gweithio hyblyg, ond mae'r gyfraith yn rhoi hawl statudol i rai cyflogeion wneud cais am batrwm gweithio hyblyg.
Os oes arnoch eisiau newid eich patrwm gwaith, dylech siarad â'ch cyflogwr. Oni bai fod eich contract yn dweud bod yn rhaid i chi weithio gartref, ni all eich cyflogwr eich gorfodi. Ni all eich cyflogwr eich gorfodi i fynd â gwaith adref ar ôl diwrnod yn y swyddfa.