Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwarchodaeth i weithwyr rhan-amser


Os ydych chi'n weithiwr rhan-amser rydych yn cael eich gwarchod rhag cael eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr amser llawn sy'n gwneud yr un math o waith â chi dim ond am eich bod chi'n gweithio'n rhan-amser. Yr unig eithriad yw os gall eich cyflogwr gyfiawnhau eich trin felly mewn modd gwrthrychol.

Gweithwyr amser llawn cyfatebol

I benderfynu a ydych yn cael eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr amser llawn cyfatebol dylech gymharu eich hun â gweithiwr amser llawn 'cyfatebol'. Mae hynny'n golygu rhywun sy'n gwneud swydd debyg ar yr un math o gontract. Felly efallai y gallech gymharu eich hun â chydweithiwr ar yr un tîm, neu â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg i chi mewn tîm gwahanol.

Os ydych chi'n gwneud yr un swydd, ond yn gwneud hynny'n rhan-amser erbyn hyn, gallwch gymharu eich amodau rhan-amser â'r contract amser llawn a oedd gennych yn flaenorol. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn penderfynu dychwelyd i'r gwaith ar sail ran-amser ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Cyfiawnhau triniaeth lai ffafriol yn wrthrychol

Gellir trin gweithiwr rhan-amser yn llai ffafriol os ceir 'cyfiawnhad gwrthrychol' dros wneud hynny. Golyga hyn ei bod yn rhaid i gyflogwyr ddangos bod y rheswm yn angenrheidiol ac mai dyna'r ffordd iawn o gyflawni un o amcanion dilys y busnes. Ni cheir trin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol dim ond am mai gweithwyr rhan-amser ydyn nhw.

'Triniaeth lai ffafriol'

Dylech gael eich trin yr un fath â gweithiwr amser llawn cyfatebol yn y gwaith, felly dylai unrhyw fuddion swydd, telerau ac amodau cyflogaeth neu gyfleoedd sydd ar gael i weithwyr amser llawn fod ar gael i chithau hefyd. Fel arfer, ceir buddion ar sail 'pro rata', sy'n golygu y dylent fod yn gymesur â'ch oriau. Er enghraifft, os yw gweithiwr amser llawn cyfatebol yn cael £1,000 o fonws, a'ch bod chi'n gweithio hanner yr oriau, dylech chi gael £500 o fonws.

Mae'n bosib na fydd modd darparu rhai buddiannau pro rata i weithwyr rhan-amser (er enghraifft, aelodaeth o glwb iechyd). Mewn sefyllfa fel hon, byddai'n rhaid i'ch cyflogwyr benderfynu a ddylid rhoi'r budd hwn i'r staff amser llawn ac i'r staff rhan-amser ynteu (os oes modd cyfiawnhau hyn yn wrthrychol) a ddylid peidio â rhoi'r budd hwn i weithwyr rhan-amser.

Mae gan eich cyflogwr hawl i gynnig gwell telerau i weithwyr rhan-amser, er mwyn ceisio cael gweithlu mwy cytbwys efallai, ond rhaid i'r cyflogwr sicrhau nad yw gwneud hyn yn torri deddfau gwahaniaethu eraill.


Enghreifftiau cyffredin o driniaeth lai ffafriol

Cyfraddau cyflog

Dylai cyfradd cyflog fesul awr gweithwyr rhan-amser fod yr un fath â'r gyfradd y mae gweithwyr amser llawn sy'n gwneud swydd debyg yn ei chael.

Gall eich cyflogwr bennu'r un trothwy oriau ar gyfer tâl goramser estynedig i weithwyr rhan-amser ac i weithwyr amser llawn. Felly, os ydych yn gweithio'n rhan-amser, mae'n bosib na chewch chi dâl goramser nes i chi weithio mwy o oriau nag oriau arferol gweithwyr amser llawn.

Cyfleoedd pensiwn a buddiannau

Dylid sicrhau mynediad cyfartal i gynlluniau pensiwn i weithwyr amser llawn ac i weithwyr rhan-amser. Dylid rhoi buddiannau eraill gan y cwmni (megis ceir cwmni, disgownt i weithwyr, yswiriant iechyd, dewisiadau o ran cyfranddaliadau, cyfran o'r elw) pro rata os oes modd.

Hyfforddi a datblygu gyrfa

Ni ddylid eithrio gweithwyr rhan-amser rhag cael cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa. Lle bynnag y bo modd, rhaid trefnu hyfforddiant ar adegau sy'n addas i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr, gan gynnwys gweithwyr rhan-amser.

Gwyliau

Mae gan bob gweithiwr hawl i isafswm gwyliau blynyddol, a roddir ar sail pro rata i weithwyr rhan-amser. Mae llawer o gyflogwyr yn rhoi mwy o wyliau na'r isafswm statudol, ac ni ddylid trin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol.

Ni chaiff cyflogwyr dalgrynnu nifer y diwrnodau a roddir i'r rhif nesaf i lawr, oherwydd byddai hynny'n golygu trin rhywun yn anffafriol, ond fe ellid rhoi ffracsiynau o ddiwrnod ar ffurf oriau.

Gall cyflogwyr reoli pa bryd y byddwch chi'n cymryd eich gwyliau ac felly fe allan nhw'ch gorfodi i gymryd eich gwyliau banc o'ch hawl gwyliau os bydd y gwyliau banc yn cyd-daro ag un o'ch diwrnodau gwaith.


Gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus

Pan fydd cyflogwr yn rhoi dyddiau ychwanegol i ffwrdd ar gyfer gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus, nid yw hawliau gweithwyr rhan-amser bob amser yn glir. Os ydych yn gweithio system sifft lle mae gweithwyr amser llawn a gweithwyr rhan-amser yr un mor debygol o fod yn gweithio ar wyliau banc, efallai y bydd yn ddigon i'ch cyflogwr roi diwrnod i ffwrdd â thâl i'r gweithwyr rhan-amser i gyd.

Fodd bynnag, os ydych yn gweithio'r un diwrnod bob wythnos, gallech fod dan anfantais. Er enghraifft, gan fod y rhan fwyaf o wyliau banc a gwyliau cyhoeddus ar ddydd Llun, bydd gan y rheini nad ydynt yn gweithio ar ddydd Llun hawl i lai o ddyddiau i ffwrdd ar gyfartaledd. Mewn achosion fel y rhain, gallai eich cyflogwr roi hawl pro rata i bob gweithiwr gael diwrnodau i ffwrdd yn lle'r rheini, yn dibynnu ar nifer yr oriau y maent yn eu gweithio. Yna, gall eich cyflogwr reoli pryd y byddwch yn cymryd eich gwyliau, i gyd-daro ag unrhyw wyliau banc.

Os oes angen esboniad pellach arnoch am eich sefyllfa waith dylech geisio cyngor cyfreithiol.

Dewis pobl ar gyfer dyrchafiad a throsglwyddo, neu ar gyfer dileu swydd

Ni ellir defnyddio'r ffaith bod rhywun yn weithiwr rhan-amser yn rheswm dros ddewis y gweithiwr hwnnw mewn achos o drosglwyddo swydd neu ddileu swydd, neu i wrthod dyrchafiad iddynt, oni ellir cyfiawnhau hynny'n wrthrychol.

Cyfleoedd am hoe mewn gyrfa

Bydd rhai cyflogwyr yn gadael i'w gweithwyr gael hoe yn eu gyrfa. Os ydych chi'n weithiwr rhan-amser, bydd gennych yr hawl i'r un cyfleoedd.

Tâl salwch, absenoldeb a thâl mabwysiadu, mamolaeth a thadolaeth

Bydd gan y rhan fwyaf o weithwyr rhan-amser yr un hawliau i gael tâl salwch ac absenoldeb a thâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu ac absenoldeb rhiant â staff amser llawn. Os bydd cwmnïau'n cynnig mwy na'r hawl statudol, rhaid i weithwyr rhan-amser gael y manteision cytundebol hyn hefyd.

Beth i'w wneud os cawsoch eich trin yn llai ffafriol

Os ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr amser llawn mae gennych hawl i gael datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros eich trin yn y ffordd honno. Dylech nodi eich cais ar bapur a rhaid i'ch cyflogwr ddychwelyd y datganiad ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod. Os nad ydych yn fodlon y gellir cyfiawnhau eich trin fel hyn mewn modd gwrthrychol, cewch gyflwyno cwyn yn erbyn eich cyflogwr i Dribiwnlys Cyflogaeth.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth ewch i'r dudalen 'cysylltiadau cyflogaeth' neu os ydych yn aelod o undeb llafur gallwch gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU