Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithio hyblyg: canlyniad eich cais

Os oes gennych chi hawl i ofyn am gael gweithio oriau hyblyg a'ch bod wedi gwneud cais, mae'n rhaid i'ch cyflogwr ystyried eich cais. Dyma’r rhesymau busnes y dylai eich cyflogwr eu hystyried a’r camau y dylai eu dilyn.

Ystyried eich cais

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais ar sail busnes. Ni chaiff wrthod eich cais oni bai fod un o'r rhesymau busnes canlynol yn berthnasol:

  • baich y costau ychwanegol
  • effaith niweidiol ar y gallu i gwrdd â galw cwsmeriaid
  • nid oes modd aildrefnu gwaith ymysg staff presennol
  • nid oes modd recriwtio staff ychwanegol
  • effaith niweidiol ar safon
  • effaith niweidiol ar berfformiad
  • nid oes digon o waith ar gael yn ystod y cyfnodau mae'r cyflogai'n cynnig gweithio
  • mae yna newidiadau strwythurol ar droed

Os ydych chi’n gyflogwr, cewch wybod mwy ynghylch gweithio hyblyg: y gyfraith ac arfer gorau ar wefan Business Link.

Cytuno â'ch cais

Mae’n ddigon posib y gwnaiff eich cyflogwr gytuno â’ch cais i weithio’n hyblyg. Os bydd yn gwneud hynny, dylai ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod yn nodi:

  • y newidiadau y cytunwyd arnynt i’ch contract cyflogaeth
  • y dyddiad y bydd eich patrwm gweithio newydd yn dechrau

Trafod eich cais

Os nad yw’ch cyflogwr yn cytuno â’ch cais, dylai drefnu cyfarfod â chi er mwyn trafod ei resymau.

Trefnu'r cyfarfod

Mae’n rhaid i’r cyfarfod ddigwydd cyn pen 28 diwrnod ar ôl i’ch cyflogwr gael eich cais. Dylai’r ddau ohonoch gytuno ar y dyddiad.

Os nad yw’r unigolyn a fyddai fel arfer yn ystyried eich cais yn y gwaith, bydd y cyfyngiad 28 diwrnod yn dechrau pan fydd yn dychwelyd.

Mae gennych hawl i fynd â chydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur y gweithle i'r cyfarfod gyda chi. Gallant siarad â chi ac annerch y cyfarfod, ond ni chânt ateb cwestiynau ar eich rhan. Os na allant ddod i’r cyfarfod, dylech ei aildrefnu gyda’ch cyflogwr. Os oes angen ail-drefnu’r cyfarfod, rhaid iddo gael ei gynnal cyn pen saith niwrnod i'r cyfarfod a ganslwyd.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr adael i’ch cydweithiwr gael amser o’r gwaith gyda thâl yn ystod oriau gwaith i ddod gyda chi i'r cyfarfod.

Os na allwch chi fynd i’r cyfarfod, dylech gysylltu â’ch cyflogwr mor fuan â phosib er mwyn aildrefnu. Os nad ydych yn llwyddo i gyrraedd y cyfarfod yr ydych wedi’i aildrefnu, mae’n rhaid i chi roi esboniad rhesymol. Os na wenwch chi, gall eich cyflogwr gymryd bod eich cais wedi'i dynnu'n ôl. Ni fydd gennych hawl i wneud cais arall am flwyddyn.

Cynnal y cyfarfod

Yn y cyfarfod, mae’n bosib y gwnaiff eich cyflogwr wneud rhywfaint o awgrymiadau ynghylch eich cais. Er enghraifft, efallai y bydd yn awgrymu patrwm gweithio arall neu gyfnod prawf. Eich dewis chi fydd a ydych yn cytuno â hyn ai peidio. Cofiwch, efallai na all eich cyflogwr gytuno â'ch cais, ond mae’n bosib y gall gytuno ar gyfaddawd.

Dylai eich cyflogwr ystyried eich cais yn iawn, gan wneud yn siŵr nad yw'n gwahaniaethu yn eich erbyn (er enghraifft, gwahaniaethu ar sail rhyw).

Cael gwybod beth yw'r canlyniad

Rhaid i'ch cyflogwyr roi gwybod i chi, yn ysgrifenedig, beth yw ei benderfyniad o fewn 14 diwrnod i'r cyfarfod. Gellir ymestyn y cyfnod amser hwn os ydych chi a’ch cyflogwr yn gytûn.

Os derbynnir eich cais, dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch a chynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • y dyddiad y mae’n ysgrifennu atoch
  • disgrifiad o’ch patrwm gweithio newydd
  • y dyddiad y bydd yn dechrau

Os gwrthodir eich cais, dylai'r hysbysiad ysgrifenedig gynnwys:

  • y rheswm neu’r rhesymau busnes dros wrthod
  • esboniad pam mae’r rheswm neu’r rhesymau busnes yn berthnasol i'ch cais
  • manylion am eich hawl i apelio
  • y dyddiad y mae eich cyflogwr yn ysgrifennu atoch

Apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr. Gallwch wneud hyn ar sawl sail, gan gynnwys:

  • dwyn rhywbeth at sylw’ch cyflogwr – rhywbeth nad oedd yn ymwybodol ohono efallai pan wrthododd eich cais
  • herio ffaith a ddefnyddiodd eich cyflogwr wrth roi ei reswm busnes dros wrthod y cais

Chewch chi ddim apelio dim ond am eich bod yn anghytuno â'r rhesymau busnes dros wrthod eich cais.

Os ydych chi am apelio, dylech ddweud wrth eich cyflogwr mor fuan â phosib.

Cynnal cyfarfod apêl

Rhaid i’ch cyflogwr gynnal cyfarfod gyda chi i drafod eich apêl. Dylai wneud hyn o fewn 14 i chi ddweud wrtho eich bod am apelio. Mae’n rhaid iddo gytuno ar ddyddiad gyda chi.

Mae gennych hawl i ofyn i gydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur ddod gyda chi. Rhaid i'ch cyflogwyr roi gwybod i chi yn ysgrifenedig beth yw ei benderfyniad o fewn 14 diwrnod i'r cyfarfod.

Os na allwch fynd i’r cyfarfod, rhowch wybod i’ch cyflogwr mor fuan â phosib ac aildrefnu’r cyfarfod. Os byddwch yn methu dau gyfarfod apêl, heb reswm da, gall eich cyflogwr dybio nad ydych yn parhau â’r apêl.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Mae'n bosib y gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth

  • os gwrthodir eich apêl, ond eich bod yn dal yn meddwl bod gennych reswm i apelio
  • os ydych yn cael eich diswyddo neu'n cael colled (ee ddim yn cael eich dyrchafu neu ddim yn cael codiad cyflog) oherwydd eich cais
  • os na wnaeth eich cyflogwr ddilyn y drefn gywir wrth ddelio â’ch cais

Cyn gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, dylech geisio datrys y broblem gyda’ch cyflogwr.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU