Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwahaniaethu ar sail rhyw a chyflog cyfartal

Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn fwriadol neu'n ddamweiniol. Os ydych chi’n teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith oherwydd eich rhyw, oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, neu oherwydd eich bod wedi ailbennu eich rhyw, mae hynny yn erbyn y gyfraith. Yma gallwch gael mwy o wybodaeth.

Gwahaniaethu ar sail rhyw

Dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • eich rhyw
  • eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • eich bod wedi ailbennu eich rhyw, eich bod yn bwriadu gwneud hynny, neu'ch bod wrthi'n gwneud hynny ar hyn o bryd (rhywun sy'n newid ei ryw dan oruchwyliaeth feddygol)

Mae deddfau gwahaniaethu ar sail rhyw yn gwarchod pawb sy’n gweithio fwy neu lai (dynion a menywod) ac yn berthnasol i bob math o gyrff yn y DU. Maent yn cynnwys:

  • recriwtio
  • telerau ac amodau cyflogaeth
  • tâl a buddiannau
  • statws
  • hyfforddiant
  • cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad a throsglwyddo
  • dileu swyddi
  • diswyddo

Cyflog cyfartal

Dan Ddeddf Cyflog Cyfartal 1970, mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu rhwng dynion a menywod o ran eu cyflog a'u hamodau pan fyddant naill ai:

  • yn gwneud yr un gwaith neu waith tebyg
  • yn gwneud gwaith sy'n cael ei raddio’n gydradd mewn astudiaeth gwerthuso swyddi gan y cyflogwr
  • yn gwneud gwaith o werth cydradd

Cymwysterau galwedigaethol dilys

Dan rai amodau, gellir cynnig swydd i rywun o ryw penodol os ceir ‘gofyniad galwedigaethol dilys’. Dyma ambell enghraifft:

  • rhai swyddi mewn ysgolion un rhyw
  • swyddi mewn rhai gwasanaethau lles
  • swyddi actio sy'n gofyn am ddyn neu fenyw

Gweithredu cadarnhaol

Dan rai amgylchiadau, fe all cyflogwyr annog menywod neu ddynion yn benodol neu gynnig cymorth iddynt, ac fe ganiateir y ‘gweithredu cadarnhaol’ hwn dan ddeddfau gwahaniaethu ar sail rhyw.

Er enghraifft, gall cyflogwr nad oes ganddo fenywod mewn swyddi rheoli gynnig cwrs hyfforddi mewn sgiliau rheoli i fenywod yn unig neu eu hannog i wneud cais am swyddi rheoli.

Dim ond ar gyfer dibenion hyfforddiant ac anogaeth i wneud cais am swyddi y mae gweithredu cadarnhaol yn berthnasol. Felly, pan fydd angen penderfynu pwy sydd i gael swydd, rhaid i'r cyflogwyr ystyried pob ymgeisydd ar sail eu haddasrwydd yn unig.

Beth ddylech ei wneud os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn

Os ydych chi’n credu bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y gallwch ddwyn achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth ar sail gwahaniaethu. Fodd bynnag, y peth gorau i'w wneud yw cael sgwrs gyda'ch bos yn gyntaf i geisio datrys y mater yn anffurfiol. Mae gennych hawl i ysgrifennu at eich cyflogwr os ydych yn credu bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn neu wedi'ch harasio oherwydd eich oedran.

Os hoffech gael rhagor o gyngor, mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth, neu gallwch fynd i'r tudalennau cysylltiadau cyflogaeth i gael mwy o gysylltiadau defnyddiol. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallant hwythau gynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i chi hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU