Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred

Mae hi yn erbyn y gyfraith i gyflogwyr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gredoau penodol. Cael gwybod am eich hawliau a beth allwch ei wneud os ydych yn poeni am grefydd neu gamwahaniaethu ar sail cred.

Sut mae'r gyfraith yn diffinio crefydd neu gred?

Mewn cyfraith cyflogaeth, diffinnir ‘crefydd neu gred’ fel ‘unrhyw grefydd, cred grefyddol neu gred athronyddol gyffelyb’. Does dim rhestr benodol, ond mae'n cynnwys pob crefydd fawr, a chrefyddau sydd â llai o ddilynwyr.

Os nad yw'n glir beth sy'n cyfri fel crefydd neu gred dan y gyfraith, gall Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu.

Mathau o wahaniaethu

Gwahaniaethu’n uniongyrchol

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall (ee peidio â chael eich dyrchafu) oherwydd eich crefydd neu'ch cred, y ffordd y mae rhywun yn 'gweld' eich crefydd neu'ch cred, neu grefydd neu gred y bobl y byddwch chi'n ymwneud â nhw.

Fodd bynnag, caniateir gwahaniaethu uniongyrchol os yw cred grefyddol yn un o ofynion angenrheidiol y swydd. Er enghraifft, fe all ysgol Gatholig Rufeinig gyfyngu ceisiadau am swydd athro/athrawes ysgrythur i Gatholigion sydd wedi'u bedyddio.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich rhoi dan anfantais gan bolisi yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu'ch cred. Os ydych chi'n Fwslim neu'n Sikh defosiynol er enghraifft, fe allai polisi sy'n mynnu bod rhaid i'r gweithwyr i gyd orchuddio'u pen mewn ffordd benodol fod yn enghraifft o wahaniaethu yn eich erbyn.

Mae'n bosib bod y math hwn o wahaniaethu anuniongyrchol yn anghyfreithlon, boed hynny'n fwriadol ai peidio. Dim ond os yw'n angenrheidiol ar gyfer y ffordd mae'r busnes yn gweithio y caniateir hyn.

Aflonyddu (harasio) ac erlid

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich bwlio neu i bobl wneud hwyl am eich pen yn y gwaith neu mewn sefyllfa sy'n gysylltiedig â'r gwaith (er enghraifft, mewn digwyddiad cymdeithasol) oherwydd eich crefydd neu'ch cred.

Mae hawl gennych hefyd i beidio â chael eich erlid. Ni ddylid eich trin yn llai ffafriol oherwydd i chi gwyno (neu fod yn rhan o gŵyn) am wahaniaethu ar sail crefydd neu gred.

Os cewch chi'ch bwlio neu'ch erlid oherwydd bod rhywun wedi camgymryd eich bod yn aelod o grefydd arall, fe allai'r cyfreithiau wahaniaethu ar sail hil hefyd eich gwarchod. Er enghraifft, yn dilyn digwyddiadau diweddar yn y byd, mae rhai Sikhiaid wedi cael eu cam-drin oherwydd eu bod wedi'u camgymryd am Fwslemiaid.

Arferion cyflogaeth a chrefydd

Rhoi gwybodaeth i'r sawl sy'n eich cyflogi

Does dim rhaid i chi roi gwybodaeth i'r sawl sy'n eich cyflogi am eich cred grefyddol, ond drwy wneud hynny, fe allech ei helpu i ddiwallu anghenion gweithwyr crefyddol. Dylai unrhyw wybodaeth a rowch chi fod yn gyfrinachol (ac yn ddienw os oes modd).

Amser o'r gwaith a chyfleusterau

Nid oes rhaid i gyflogwyr roi amser a chyfleusterau i bobl ddilyn eu crefydd (e.e. ystafell weddïo), ond dylent geisio gwneud hynny pan fo'n bosib. Er enghraifft, os oes ystafell addas ar gael, dylech gael ei defnyddio, ar yr amod nad yw'n tarfu ar bobl eraill nac ar eich gallu i wneud eich swydd yn iawn.

Dylai sefydliadau ystyried yn ofalus a ydynt yn camwahaniaethu’n anuniongyrchol yn ddiarwybod iddynt. Er enghraifft, os cynhelir pob cyfarfod tîm ar brynhawn dydd Gwener gall hyn wahaniaethu yn erbyn staff Iddewig a Mwslemaidd oherwydd bod gan brynhawn dydd Gwener arwyddocad crefyddol iddynt, er nad yw pawb yn dilyn eu crefydd yn yr un modd. Ni all cyflogwyr osgoi atebolrwydd mewn Tribiwnlys Cyflogaeth drwy ddangos bod y camwahaniaethu'n anfwriadol neu'n ddamweiniol.

Gwyliau crefyddol

Os ydych chi'n awyddus i gael amser o'r gwaith ar gyfer gwyliau crefyddol, holwch mewn da bryd. Dylai eich cyflogwyr ystyried eich cais gyda chydymdeimlad - ond gallant wrthod os bydd hynny'n effeithio ar y busnes.

Dillad

Os byddwch yn gwisgo dillad neu emwaith am resymau crefyddol, dylai eich cyflogwyr sicrhau nad yw unrhyw reolau dillad yn gwahaniaethu yn eich erbyn. Mae hi fel arfer yn bosib cael cod dillad hyblyg, cyn belled nad yw hynny'n peryglu iechyd a diogelwch.

Bwyd

Bydd rhai crefyddau'n eich gwahardd rhag bwyta mathau penodol o fwyd. Os nad ydych am drin bwyd o'r fath (er enghraifft, os ydych chi'n gweithio mewn archfarchnad ac nad ydych chi am afael mewn porc), mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr. Mae'n bosib y byddan nhw'n gallu delio â'ch cais, ar yr amod nad yw hynny'n effeithio ar y busnes.

Crefydd a thueddfryd rhywiol yn y gweithle

Mae'n bosib bod gan rai pobl farn benodol am dueddfryd rhywiol oherwydd eich cred grefyddol. Fodd bynnag, ni ddylai pobl drin cydweithwyr hoyw neu lesbiaid, er enghraifft, yn wahanol. Yn y gweithle, mae gan bawb yr hawl i'w trin gyda pharch, waeth beth y bo'u tueddfryd rhywiol.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu'ch cred, neu os nad oes modd i chi ddilyn eich crefydd yn iawn yn y gwaith, siaradwch â'r canlynol:

  • eich cyflogwyr
  • yr adran adnoddau dynol
  • cynrychiolydd eich undeb llafur (os ydych chi'n perthyn i undeb)

Cadwch gofnod ysgrifenedig o unrhyw fwlio neu harasio. Dylech hefyd ddweud wrth eich cyflogwyr am unrhyw gymorth meddygol rydych chi'n ei geisio oherwydd bwlio.

Os oes modd, ceisiwch ddatrys y mater yn anffurfiol, ond os nad oes, dilynwch drefn gwyno eich lle gwaith.

Os aiff pethau i'r pen, a'ch bod yn teimlo bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, gallwch fynd at Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Dymunwch cyngor cyfreithiol gan Gyfreithiwr neu Asiantaeth Cyngor ar faterion gwahaniaethu.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU