Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwahaniaethu yn y gweithle

Mae gwahaniaethu'n golygu trin rhai pobl yn wahanol i bobl eraill. Nid yw hynny bob amser yn anghyfreithlon - telir gwahanol gyflog i bobl gan ddibynnu ar eu statws a'u sgiliau. Cael gwybod am y gwahanol fathau o wahaniaethu.

Beth ydy gwahaniaethu?

Nod cyfreithiau cyfle cyfartal yw sicrhau 'maes chwarae teg' fel bod pobl yn cael eu cyflogi, eu talu, eu hyfforddi a'u dyrchafu ar sail eu sgiliau, eu gallu a sut maen nhw'n gwneud eu gwaith, a dim arall.

Bydd gwahaniaethu'n digwydd pan fydd cyflogwyr yn trin un gweithiwr/wraig yn llai ffafriol na phobl eraill. Fe allai hyn olygu menyw'n cael llai o gyflog na chydweithiwr sy'n ddyn am wneud yr un swydd, neu wrthod cyfleoedd hyfforddi i weithwyr sy'n perthyn i leiafrif ethnig er bod y cyfleoedd hynny'n cael eu cynnig i gydweithwyr gwyn.

Ni ellir gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich:

  • rhyw
  • eich priodas neu bartneriaeth sifil
  • newid rhyw
  • beichiogrwydd ac absenoldeb mamolaeth
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • anabledd
  • hil
  • lliw
  • cefndir ethnig
  • cenedligrwydd
  • crefydd neu gred
  • oed

Ni chaiff eich cyflogwr eich diswyddo nac eich trin yn llai ffafriol na gweithwyr eraill gan eich bod:

  • yn gweithio rhan-amser
  • yn gweithio ar gontract cyfnod penodol

Mathau o wahaniaethu

Gwahaniaethu uniongyrchol

Bydd gwahaniaethu'n digwydd pan fydd cyflogwyr yn trin un gweithiwr/wraig yn llai ffafriol na phobl eraill o ganlyniad i un o'r rhesymau uchod. Er enghraifft, petai swydd gyrru ond yn agored i ymgeiswyr sy'n ddynion, byddai hynny'n wahaniaethu uniongyrchol.

Ceir amgylchiadau cyfyngedig lle gall cyflogwr ddadlau dros wneud gofyniad galwedigaethol dilys ar gyfer y swydd. Er enghraifft, fe all ysgol Gatholig Rufeinig gyfyngu ceisiadau am swydd athro/athrawes ysgrythur dim ond i Gatholigion sydd wedi'u bedyddio.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd amod neu reol gweithio yn rhoi un grŵp o bobl dan fwy o anfantais na'r lleill. Er enghraifft, mae dweud bod rhaid i ymgeiswyr ar gyfer swydd fod wedi'u heillio'n lân yn rhoi aelodau o rai grwpiau crefyddol dan anfantais.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn anghyfreithlon, boed yn fwriadol ai peidio. Dim ond os yw'n angenrheidiol ar gyfer y ffordd mae'r busnes yn gweithio y caniateir hyn, ac nad oes ffordd arall o'i gyflawni. Er enghraifft, fe ellid cyfiawnhau'r amod bod rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u heillio'n lân petai'r swydd yn ymwneud â thrin bwyd ac y gellid dangos bod cael barf neu fwstash wir yn risg i hylendid.

Harasio

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich harasio neu i bobl wneud hwyl am eich pen yn y gwaith neu mewn sefyllfa sy'n gysylltiedig â'r gwaith (ee mewn parti swyddfa). Ystyr aflonyddu (harasio) yw ymddygiad sarhaus neu fygythiol - iaith rywiol neu sarhau hiliol, er enghraifft - sydd â'r nod o fychanu, tanseilio neu frifo'r sawl y'i hanelir ato/ati neu sy’n cael yr effaith hwnnw. Er enghraifft, caniatáu arddangos neu ddosbarthu deunydd amlwg rywiol, neu roi llysenw a allai fod yn sarhaus at bobl oherwydd eu rhyw.

Erledigaeth

Ystyr erlid yw trin rhywun yn llai ffafriol na phobl eraill am eu bod wedi ceisio cwyno neu wedi cwyno am wahaniaethu. Er enghraifft, eich atal rhag dilyn cyrsiau hyfforddi, cymryd camau disgyblu annheg yn eich erbyn, neu'ch cau allan o ddigwyddiadau cymdeithasol y cwmni.

Cael eich trin yn annheg am resymau eraill

Os ydych yn cael eich trin yn annheg ond nid am un o’r rhesymau a rhestrwyd uchod, efallai eich bod yn cael eich bwlio. Ni ddylai fwlio fydd fod yn dderbyniol yn y gweithle, cael gwybod beth allwch wneud amdano.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn wahanol oherwydd problemau iechyd meddwl, cael gwybod mwy ynghylch materion iechyd meddwl yn y gweithle drwy ddilyn y ddolen isod.

Holi am eich hawliau cyflogaeth

Os byddwch chi'n holi am eich hawliau cyflogaeth a bod eich cyflogwyr yn eich trin yn annheg oherwydd hyn, mae'n bosib y gallwch chi gymryd camau cyfreithiol. Mae eich hawliau cyflogaeth statudol yn cynnwys y canlynol:

  • yr hawl i gael datganiad ysgrifenedig am fanylion eich cyflogaeth
  • yr hawl gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • gwarchodaeth rhag tynnu arian o'ch cyflog yn anghyfreithlon
  • yr hawl i wyliau gyda chyflog
  • terfynau i'ch oriau gweithio
  • yr hawl i ymuno ag undeb llafur

Beth i'w wneud nesaf

Os teimlwch fod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn dylech ddarllen yr erthygl sy'n sôn am eich problem, ee gwahaniaethu ar sail oedran os teimlwch eich bod yn colli eich swydd o ganlyniad i'ch oedran.

Allweddumynediad llywodraeth y DU