Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol

Mae'n drosedd i'ch cyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn, eich erlid neu aflonyddu arnoch ar sail eich cyfeiriadedd rhywiol, neu eich cyfeiriadedd rhywiol ymddangosiadol. Mynnwch wybod am eich hawliau a beth i'w wneud os cewch eich trin yn annheg ar sail eich rhywioldeb.

Diogelwch rhag gwahaniaethu

Cewch eich diogelu rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol os:

  • ydych yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu'n heterorywiol
  • yw pobl yn credu eich bod yn hoyw, yn lesbiaidd neu'n heterorywiol pan nad yw hynny'n wir
  • oes gennych ffrindiau hoyw neu'n ymweld â chlybiau hoyw

Mae diogelwch rhag gwahaniaethu yn dechrau pan fyddwch yn gwneud cais am swydd ac mae'n parhau drwy gydol eich cyflogaeth. Mae diogelwch rhag gwahaniaethu yn cwmpasu:

  • recriwtio
  • telerau ac amodau cyflogaeth (gan gynnwys manteision fel pensiynau)
  • cyflog
  • statws cyflogaeth (e.e. os ydych yn weithiwr neu'n gyflogai)
  • hyfforddiant
  • cyfleoedd dyrchafu a throsglwyddo
  • dileu swyddi
  • diswyddo

Partneriaethau sifil

Os ydych yn gwpl o'r un rhyw mewn partneriaeth sifil, mae gennych yr hawl i'r un buddiannau â pherson priod (er enghraifft, budd-daliadau goroeswyr o dan gynllun pensiwn cwmni) os yw'r buddiannau wedi bod ar waith ers 5 Rhagfyr 2005 (pan ddaeth y Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym).

Os yw eich cyflogwr yn rhoi buddiannau i bartneriaid dibriod ei gyflogeion sydd o'r rhyw arall (e.e. mae partner cyflogai sydd o'r rhyw arall yn cael gyrru car y cwmni), gallai gwrthod rhoi'r un buddiannau i bartneriaid o'r un rhyw fod yn wahaniaethu.

Cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd yn y gweithle

Efallai bod gan gydweithiwr farn gref am eich cyfeiriadedd rhywiol ar sail ei grefydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y gall eich bwlio neu aflonyddu arnoch. Yn y gweithle, mae gan bawb yr hawl i gael eu trin â pharch, waeth beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol.

Datgelu eich rhywioldeb i’ch cyflogwr

Mae rhai cyflogwyr yn gofyn am fanylion cyfeiriadedd rhywiol cyflogeion, naill at ddibenion monitro neu fel rhan o'r holiadur cyfle cyfartal. Nid oes rhaid i chi roi'r wybodaeth hon.

Gwaith papur partneriaeth sifil

Ar ôl ffurfio partneriaeth sifil, dylech gael 'tystysgrif partneriaeth sifil.' Os ydych chi neu eich partner am newid eich enw, dylai cyflogwyr dderbyn y dystysgrif fel tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw.

Beth i'w wneud nesaf

Os credwch fod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, eich erlid neu aflonyddu arnoch yn y gwaith ar sail eich cyfeiriadedd rhywiol, siaradwch â'ch cyflogwr neu'ch swyddog personél. Os ydych yn aelod o undeb llafur, gallwch gysylltu â chynrychiolydd eich undeb. Os na allwch ddatrys y mater yn anffurfiol, gallwch ddilyn y weithdrefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth. Cadwch gofnod ysgrifenedig o unrhyw aflonyddwch er mwyn ei ddangos i'ch cyflogwr.

Gallech wneud cais i dribiwnlys cyflogaeth ar gyfer gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol os ydych:

  • yn anfodlon ar y ffordd y mae eich cyflogwr yn delio â'ch cwyn am wahaniaethu
  • wedi cael eich diswyddo ar sail eich cyfeiriadedd rhywiol
  • yn teimlo na chynigiwyd swydd i chi ar sail eich cyfeiriadedd rhywiol

Ble i gael help

Am ragor o wybodaeth am ble i gael help ar faterion cyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu mynnwch gael gwybod mwy am undebau llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU