Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau, fel budd-daliadau, benthyciadau a grantiau a chymorth i ddod o hyd i swydd. Yma, cewch wybod sut i gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith a ffyrdd eraill o ddod o hyd i'r wybodaeth neu’r wasanaeth ar-lein rydych yn chwilio amdano.

Budd-daliadau'r Ganolfan Byd Gwaith

Gwnewch gais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein:

Os hoffech wneud cais am fudd-dal ffoniwch 0800 012 1888.

Os na allwch siarad neu glywed yn glir, ffoniwch y ffôn testun ar 0800 023 4888.

Mae’r llinellau ar agor o 8.00 am i 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (mae’r llinellau yn llai prysur cyn 9.00 am fel arfer).

Cyngor ar Fudd-daliadau

Cael cyngor ar fudd-daliadau, ar gyfer chi/eich teulu neu ar gyfer rhywun arall. Y cyfan sydd angen ei wneud yw ateb cwestiynau’n anhysbys am eich cynilion, incwm a threuliau ar-lein.

Cael gwybod mwy am fudd-daliadau a chredydau treth ar-lein.

Newidiadau yn eich amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi hysbysu’r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, gan y gallai effeithio ar eich budd-dal.

Defnyddiwch y cysylltiadau canlynol os oes gennych gwestiwn am eich cais am fudd-dal, neu am gael gwybod mwy am fudd-daliadau a chymorth ariannol.

Benthyciadau a grantiau

Benthyciadau Argyfwng

Os bydd angen cymorth arnoch mewn argyfwng neu drychineb, gallech gael Fenthyciad Argyfwng.

Grant Gofal Cymunedol

Gallech gael Grant Gofal Cymunedol os bydd angen help arnoch oherwydd eich bod:

  • yn ddigartref
  • yn gadael y carchar
  • yn gofalu am rywun
  • yn wynebu chwalu teuluol

Benthyciadau Trefnu

Os bydd angen help arnoch i dalu am bethau fel dodrefn, dillad a theithio, gallech gael Benthyciad Trefnu.

Taliad Tywydd Oer

Os bydd angen cymorth arnoch o ganlyniad i dywydd oer, gallech fod yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer.

Chwilio am swydd

Gallwch chwilio am swydd ar-lein.

Gallwch hefyd ganfod swyddi dros y ffôn. I ddefnyddio gwasanaeth ffôn y Ganolfan Byd Gwaith ffoniwch 0845 6067 890. Os ydych yn ei chael yn anodd siarad neu glywed yn glir, ceir ffôn testun ar 0800 6044 022.

Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (mae’r llinellau yn llai prysur cyn 9.00am fel arfer).

I gael gwybodaeth am ddod o hyd i waith, gweler yr adran Ceiswyr Gwaith.

Rhifau Yswiriant Gwladol

Os oes arnoch angen rhif Yswiriant Gwladol i wneud cais am fudd-daliadau, caiff hyn ei wneud pan fyddwch chi neu’ch partner yn gwneud cais am fudd-dal.

Os ydych chi wedi colli eich cerdyn Yswiriant Gwladol neu os oes rhywun wedi’i ddwyn, ffoniwch Linell Gymorth Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006.

Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith

Os bydd angen i chi aildrefnu neu ganslo apwyntiad, ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 604 4248.

Os na allwch siarad neu glywed yn glir, ffoniwch y ffôn testun ar 0845 608 8551.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy am raglen neu wasanaeth gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Rhesymau eraill dros gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith

Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith os nad oes gennych gwestiwn sydd wedi rhestru yma.

Darllenwch 'Dywedwch eich barn wrth y Ganolfan Byd Gwaith' os oes gennych gŵyn, sylw neu awgrymiad i'w wneud i'r Ganolfan Byd Gwaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU