Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad oes gennych chi rif Yswiriant Gwladol er bod gennych hawl i gael un, gallwch wneud cais i gael un. Bydd gofyn bod gennych chi un mewn rhai amgylchiadau, megis ar gyfer hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, wrth wneud cais am fenthyciad myfyrwyr neu wrth weithio. Cewch ddechrau gweithio heb un ond bydd angen i chi wneud cais ar unwaith. Os ydych chi’n byw yn y DU, gan amlaf byddwch yn derbyn un yn awtomatig pan fyddwch chi’n 16 oed.
Eich rhif cyfrif personol chi yw eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae’r rhif yn unigryw i chi, a bydd yr un rhif gennych drwy gydol eich oes. Mae'r rhif yn sicrhau bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r dreth y byddwch yn ei thalu yn cael eu cofnodi ar gyfer eich enw chi. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cyfeirnod wrth gyfathrebu â’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rifau Yswiriant Gwladol, gan gynnwys ar gyfer beth maent yn cael eu defnyddio a pham mae angen i chi gadw'ch rhif yn ddiogel, drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd rhif Yswiriant Gwladol yn cael ei anfon atoch yn awtomatig ychydig cyn eich pen-blwydd yn 16 oed os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
Os ydych chi rhwng 16 a 20 oed a heb gael rhif Yswiriant Gwladol, cysylltwch â’r Llinell Gymorth ar gyfer Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006 i ofyn am gyngor. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643 – mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. (Mae’r rhif Yswiriant Gwladol am ddim, ond efallai y bydd gwefannau answyddogol yn codi tâl os byddwch yn gwneud cais trwyddynt.)
Os nad oes gennych chi rif Yswiriant Gwladol, bydd yn rhaid i chi wneud cais am un yn yr amgylchiadau canlynol. Ceir gwahanol ffyrdd o wneud cais, fel yr eglurir isod.
Os oes angen i chi hawlio budd-daliadau a/neu gredydau treth (neu os oes angen i’ch partner hawlio budd-daliadau a/neu gredydau treth ar eich rhan), bydd angen i chi gael rhif Yswiriant Gwladol. Byddwch yn gwneud eich cais fel rhan o’r broses hawlio budd-daliadau.
Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio neu’n dechrau bod yn hunangyflogedig
Os ydych chi’n dechrau gweithio neu’n dechrau bod yn hunangyflogedig, bydd rhaid i chi wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad oes gennych un. Does dim angen i chi gael cerdyn rhif Yswiriant Gwladol plastig. Os oes gennych chi hawl i weithio yn y DU, bydd angen i chi ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643 i drefnu i gael rhif. Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac maent yn llai prysur cyn 9.00 am fel arfer. Efallai y byddant yn gofyn i chi fynd i gyfweliad ‘Profi Pwy Ydych Chi’ – gweler yr adran ‘Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol’.
Mae’n rhaid i chi wneud cais am rif Yswiriant Gwladol i ddechrau gweithio ond nid oes angen i chi gael cerdyn rhif Yswiriant Gwladol plastig. Os nad ydych chi’n un o ddinasyddion y DU a’ch bod am gael gwybod a oes gennych hawl i weithio yn y DU, gweler y ddolen isod ‘Dogfennau y mae eu hangen arnoch i allu gweithio yn y DU’. Bydd y ddwy ddolen arall isod yn egluro sut byddwch chi’n talu treth ac Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn gweithio.
Os ydych chi wedi gwneud cais ac yn cael eich dyfarnu benthyciad myfyriwr ac nid oes gennych rif Yswiriant Gwladol, bydd y Cwmni Benthyciad Myfyrwyr yn sicrhau bod y Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu i chi gael un. Efallai y byddant yn gofyn i chi fynd i gyfweliad ‘Profi Pwy Ydych Chi’ – gweler yr adran isod ‘Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol’. Ni fydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith eich hunain.
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu cyfweliad ‘Profi Pwy Ydych Chi’ neu’n anfon ffurflen gais drwy’r post atoch chi. Os yw’n berthnasol, byddant yn cadarnhau dyddiad, amser a lleoliad eich cyfweliad, ac yn dweud wrthych pa wybodaeth/dogfennau y mae eu hangen arnoch i ategu’ch cais.
Fel rheol, cyfweliad un i un fydd hwn (oni bai fod angen cyfieithydd arnoch, er enghraifft). Gofynnir cwestiynau i chi ynghylch pam mae arnoch angen rhif Yswiriant Gwladol, eich cefndir a'ch amgylchiadau.
Bydd yn rhaid i chi brofi pwy ydych chi hefyd. Dewch â chynifer o ‘ddogfennau adnabod’ â phosibl (fersiynau gwreiddiol, nid llungopïau) gyda chi i’r cyfweliad. Dyma rai enghreifftiau o’r dogfennau sy’n cyfri:
Os nad oes gennych unrhyw un o’r dogfennau adnabod hyn – na dogfennau adnabod eraill – bydd yn dal yn rhaid i chi fynd i'r cyfweliad. Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth a ddarparwch chi yn ddigon i brofi pwy ydych chi.
Yn ystod y cyfweliad, bydd angen llenwi ffurflen gais am rif Yswiriant Gwladol a gofynnir i chi lofnodi'r ffurflen hon.
Os gofynnwyd i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol, bydd angen i chi wneud hyn erbyn y dyddiad y cytunwyd arno. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a yw eich cais wedi llwyddo ai peidio ac i ddweud wrthych beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol.
Dylech chi ddweud wrth eich cyflogwr beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol yn syth ar ôl i chi ei gael. Peidiwch â rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol gyda neb ond y sawl sydd ei angen oherwydd efallai y gall hyn helpu rhywun i ddwyn eich manylion personol.
Cadwch y llythyr sy’n dweud wrthych beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol yn ddiogel gan ei fod yn ffordd ddefnyddiol o gofio eich rhif. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio’r llythyr yn unig i brofi pwy ydych chi ac nid oes ei angen arnoch i wneud cais am swydd neu i ddechrau gweithio. Y rhif Yswiriant Gwladol ei hun sy’n bwysig.
Os hoffech gael cadarnhad ysgrifenedig yn y Gymraeg o’ch rhif Yswiriant Gwladol ffoniwch Linell Gymorth Gymraeg Cyllid a Thollau EM ar 0300 200 1900. Mae llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os ydych chi wedi colli’ch rhif neu’n methu ei gofio, efallai y gallwch ddod o hyd iddo ar waith papur swyddogol, er enghraifft:
Os byddwch chi’n dal i fethu dod o hyd i’ch rhif, gallwch chi ofyn i Gyllid a Thollau EM ei gadarnhau drwy ddilyn y camau canlynol:
Ni all Cyllid a Thollau EM gadarnhau eich rhif Yswiriant Gwladol dros y ffôn – byddant yn ysgrifennu atoch.
Fel y cyhoeddwyd gan y Canghellor ar 10 Medi 2010, nid yw Cyllid a Thollau EM yn cyhoeddi cardiau rhifau Yswiriant Gwladol newydd mwyach os ydych wedi colli’ch cerdyn. Does dim angen i chi gael cerdyn – y rhif sy’n bwysig. Os ydych chi’n methu cofio eich rhif, darllenwch yr adran uchod i gael gwybod beth ddylech chi ei wneud.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs