Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ac Yswiriant Gwladol i gyflogeion

Os ydych chi'n gyflogedig, byddwch yn talu treth ar eich cyflog drwy system o'r enw Talu Wrth Ennill (TWE/PAYE). Bydd eich cyflogwr yn defnyddio'r system hon i dynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflog cyn iddo ei dalu i chi.

Cyflog gros a net

Eich 'cyflog gros' yw'r swm y byddwch yn ei ennill cyn y tynnir treth ac Yswiriant Gwladol ohono. Eich 'cyflog net' yw'r swm a gewch ar ôl tynnu treth ac Yswiriant Gwladol o’ch cyflog gros. Pan gewch slip cyflog, fe welwch y canlynol:

  • y cyflog gros yr ydych wedi'i ennill, gan gynnwys unrhyw fonws
  • faint o Dreth Incwm sydd wedi'i didynnu
  • unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi'u didynnu
  • unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyriwr, os yw'n berthnasol
  • eich cyflog mynd-adre, neu'r cyflog net yr ydych wedi'i gael

Yn ogystal â chael eich trethu ar eich cyflog, byddwch hefyd yn cael eich trethu ar unrhyw fuddion a ddarperir gan eich cyflogwr, megis car cwmni, tanwydd, benthyciad llog isel neu yswiriant meddygol.

Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu treth ar gildyrnau y byddwch yn eu cael fel rhan o'ch swydd.

Treth Incwm a Thalu Wrth Ennill

Treth Incwm yw eich cyfraniad at yr hyn y bydd y llywodraeth yn ei wario ar bethau megis trafnidiaeth, iechyd ac addysg. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint y byddwch yn ei ennill.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cod treth i chi, a fydd i'w weld ar eich slip cyflog. Bydd eich cyflogwr yn defnyddio'ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i'w thynnu o'ch cyflog drwy'r system TWE (PAYE).

Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen i chi – eich tystysgrif diwedd blwyddyn P60 – a fydd yn dangos cyfanswm eich cyflog gros am y flwyddyn a faint o dreth ac Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cronni eich hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol eraill. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint y byddwch yn ei ennill. Os byddwch yn ennill mwy na swm penodol, bydd eich cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o'ch cyflog drwy'r system TWE (PAYE).

Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar raddfa is os byddwch yn aelod o gynllun pensiwn eich cwmni sy’n cael ei ‘gontractio allan’, neu os ydych chi’n wraig briod – neu’n weddw – sy’n dal ‘tystysgrif etholiad’ dilys.

Bydd eich cyflogwr hefyd yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr ar sail eich enillion ac ar unrhyw fuddion a gewch gyda’ch swydd, er enghraifft car cwmni.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn cadw golwg ar eich cyfraniadau drwy eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae hwn yn debyg i rif cyfrif ac yn unigryw i chi.

Faint allwch chi ei ennill heb dalu treth ac Yswiriant Gwladol?

Treth Incwm

Gall pawb ennill swm penodol bob blwyddyn heb dalu dim Treth Incwm. Dyma yw eich Lwfans Personol. Y Lwfans Personol ar gyfer 2012-13 yw £8,105. Gall rhai pobl ennill ychydig mwy cyn dechrau talu treth, er enghraifft, os ydynt dros 65 mlwydd oed.

Mae nifer o lwfansau a gostyngiadau eraill y gallech eu hawlio er mwyn lleihau eich bil treth – ac mewn rhai achosion, gallant olygu nad oes gennych unrhyw dreth i'w thalu. Dilynwch y ddwy ddolen olaf i gael gwybod mwy.

Yswiriant Gwladol

Gallwch ennill hyd at £146 yr wythnos (2012-13) cyn i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gelwir hyn yn 'drothwy sylfaenol'.

Fodd bynnag, cyn belled â'ch bod yn ennill mwy na £107 yr wythnos (2012-13), gallwch barhau i gronni eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau eraill. Y 'terfyn enillion isaf' yw’r enw a roddir ar hwn.

Sicrhau na fyddwch yn talu gormod o Yswiriant Gwladol

Osgoi talu gormod os oes gennych fwy nag un swydd

Mae’n bosib y byddwch yn gallu ‘gohirio’ rhai o’ch cyfraniadau er mwyn osgoi talu gormod os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 gyda dau gyflogwr gwahanol neu ragor
  • rydych yn disgwyl talu cyfraniadau ar enillion wythnosol o £817 o leiaf mewn un swydd neu £963 o leiaf mewn dwy swydd drwy gydol y flwyddyn dreth

I wneud cais, gallwch un ai lenwi ffurflen CA72A Cais i ohirio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, neu ysgrifennu at:

Cyllid a Thollau EM / HM Revenue & Customs
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol / National Insurance Contribution Office
Gwasanaethau Gohirio / Deferment Services
Longbenton
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 14 Chwefror yn y flwyddyn dreth berthnasol.

Rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod am barhau i weithio, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch oedran i’ch cyflogwr fel nad ydych yn parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol heb fod angen. Gallwch ddefnyddio tystysgrif geni neu basbort neu wneud cais i Gyllid a Thollau EM neu i’r Adran Gwaith a Phensiynau am ‘Dystysgrif Eithrio oherwydd Oedran’. I gael gwybod mwy darllenwch ganllaw Cyllid a Thollau EM ‘Sicrhau eich bod wedi rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol’.

Treth ac Yswiriant Gwladol os ydych chi'n gyfarwyddwr

Byddwch yn talu Treth Incwm ar eich enillion yn yr un modd â gweithwyr eraill. Fodd bynnag, bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu cyfrifo dros ‘gyfnod enillion blynyddol’ – o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol – yn hytrach na dros y cyfnodau wythnosol neu fisol arferol sy’n berthnasol i weithwyr eraill. Diben hyn yw sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU