Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth Incwm - yn fras

Treth ar incwm yw Treth Incwm. Does dim rhaid talu treth ar bob incwm, a dim ond ar 'incwm trethadwy' uwchben lefel arbennig y cewch eich trethu. Ac wedyn hyd yn oed, mae rhai gostyngiadau a lwfansau ar gael sy'n gallu lleihau eich bil Treth Incwm - ac mewn rhai achosion efallai na fydd gennych unrhyw dreth i'w thalu.

Beth sy'n incwm trethadwy?

Mae incwm trethadwy'n cynnwys:

  • enillion o weithio
  • enillion o hunangyflogaeth
  • y rhan fwyaf o incwm pensiynau (pensiynau'r Wladwriaeth, pensiynau cwmni a phersonol)
  • llog ar y rhan fwyaf o gynilion
  • incwm o gyfranddaliadau (difidendau)
  • incwm rhent
  • incwm a delir i chi o ymddiriedolaeth

Incwm anhrethadwy

Mae rhai mathau o incwm nad ydych byth yn talu treth arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys rhai budd-daliadau penodol, incwm o gyfrifon di-dreth, Credyd Treth Gwaith ac enillion bond premiwm. Anwybyddir y ffynonellau hyn o incwm pan gyfrifir faint o Dreth Incwm y bydd yn rhaid i chi ei thalu.

Lwfansau di-dreth

Mae pawb, bron, sy'n byw yn y DU at ddibenion treth yn derbyn 'Lwfans Personol', sef swm o incwm trethadwy y gallwch ei ennill neu ei dderbyn bob blwyddyn yn ddi-dreth.

Yn y flwyddyn dreth gyfredol (2012-2013), y Lwfans Personol sylfaenol - neu'r swm di-dreth - yw £8,105. Efallai bod hawl gennych i lwfans personol uwch os ydych yn 65 oed neu'n hŷn.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu yn methu gwneud unrhyw waith y mae gallu gweld yn hanfodol ar ei gyfer, gallwch hefyd hawlio'r Lwfans Person Dall di-dreth.

Dim ond ar yr incwm trethadwy sydd ar ben eich lwfansau di-dreth y mae Treth Incwm yn ddyledus.

Gostyngiadau a lwfansau sy'n gallu lleihau eich bil Treth Incwm

Os ydych yn gorfod talu Treth Incwm, mae nifer o lwfansau a gostyngiadau y gellir eu didynnu sy'n gallu lleihau eich bil treth. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • y Lwfans Pâr Priod - rhaid i'r gŵr, y wraig neu'r partner sifil fod wedi'u geni cyn 6 Ebrill 1935
  • Gostyngiad Taliad Cynhaliaeth - rhaid i chi neu eich cyn gymar neu'ch cyn bartner sifil fod wedi'ch geni cyn 6 Ebrill 1935

Yn wahanol i lwfansau di-dreth, nid symiau o incwm y gallwch eu derbyn yn ddi-dreth mo'r rhain. Yn hytrach, symiau ydynt sy'n gallu gostwng eich bil treth.

Gostyngiadau a lwfansau treth i weithwyr neu gyfarwyddwyr

Os ydych chi'n weithiwr neu'n gyfarwyddwr efallai y gallech gael gostyngiad treth ar gostau yr ydych chi wedi eu talu.

Treth ar fuddion cwmni

Os ydych chi'n gweithio ac yn derbyn buddion anariannol gan eich cyflogwr, efallai y bydd rhaid i chi dalu treth arnynt.

Buddion trethadwy

Mae buddion y bydd angen ichi dalu treth arnynt o bosibl yn cynnwys:

  • ceir neu faniau'r cwmni
  • tanwydd sy'n cael ei ddarparu ar gyfer eich cerbyd
  • yswiriant meddygol
  • lle i fyw
  • benthyciadau ar gyfraddau llog isel

Faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu

Unwaith y bydd eich costau a ganiateir ac unrhyw lwfansau di-dreth wedi'u hystyried, cyfrifir faint o dreth y byddwch yn ei thalu trwy ddefnyddio gwahanol gyfraddau treth a chyfres o fandiau treth.

Cyfraddau Treth Incwm 2012-13 yn ôl band treth a math o incwm

Band Treth Incwm

Cyfradd Treth Incwm ar incwm nad yw'n dod o gynilion

Cyfradd Treth Incwm ar gynilion

Cyfradd Treth Incwm ar ddifidendau

Cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion £0 i £2,710

Ddim ar gael

10%

amh - gweler y band cyfradd sylfaenol

Cyfradd sylfaenol £0 i £34,370

20%

20%

10%

Cyfradd uwch £34,371 i £150,000

40%

40%

32.5%

Cyfradd ychwanegol £150,000 ac uwch

50%

50%

42.5%

Oherwydd bod y gyfradd Treth Incwm y byddwch yn ei thalu ar gynilion yn cael ei chyfrifo ar ôl i unrhyw incwm nad yw'n dod o gynilion gael ei ystyried, os yw'ch incwm nad yw'n dod o gynilion yn llai na'r gyfradd gychwynnol ar gyfer y terfyn cynilo (£2,710) - neu os mai cynilion a buddsoddiadau yw'ch unig ffynhonnell o incwm – bydd eich incwm cynilion yn cael ei drethi ar y gyfradd gychwynnol o 10 y cant hyd at y terfyn.

Ond os oes gennych chi incwm nad yw'n cynnwys cynilion sy'n eich rhoi uwchben y gyfradd gychwynnol yn barod, caiff eich cynilion i gyd eu trethu ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant, y gyfradd uwch o 40 y cant neu’r gyfradd ychwanegol o 50 y cant, yn dibynnu ar eich holl incwm.

Cofiwch, mae'r band treth yn berthnasol i'ch incwm ar ôl i'ch lwfansau treth ac unrhyw ostyngiadau gael eu hystyried - chewch chi mo'ch trethu ar eich holl incwm.

Mae 'incwm nad yw'n dod o gynilion' yn cynnwys incwm o gael eich cyflogi neu fod yn hunangyflogedig, incwm o'r rhan fwyaf o bensiynau ac incwm rhent.

Mae 'difidendau' yn golygu incwm o gyfranddaliadau mewn cwmnïau yn y DU. Ychwanegir incwm o gynilion a difidendau at weddill eich incwm trethadwy ac fe'i trethir yn olaf. Golyga hyn eich bod yn talu treth ar y mathau hyn o incwm yn ôl eich band Treth Incwm uchaf.

Sut rydych yn talu Treth Incwm

Cesglir Treth Incwm drwy wahanol ffyrdd, yn dibynnu ar fath eich incwm a ph'un ai a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith. Dyma rai o'r ffyrdd y gellir casglu Treth Incwm:

  • Talu Wrth Ennill (PAYE)
  • Hunan Asesiad
  • treth a ddidynnir 'yn y ffynhonnell' pan fydd treth yn cael ei didynnu o log eich banc/cymdeithas adeiladu ar y gyfradd sylfaenol cyn i'r llog gael ei dalu i chi
  • mewn rhai achosion, taliadau untro

Os ydych chi'n weithiwr neu’n derbyn pensiwn cwmni neu breifat, bydd eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn tynnu treth drwy PAYE. Mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn eich gofyn i lenwi ffurflen dreth Hunanasesu os oes gennych faterion treth cymhleth. Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn gyfrifol am lenwi ffurflen dreth Hunanasesu a thalu eich treth eich hun.

Talu'r swm cywir o Dreth Incwm

Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth incwm. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar:

  • gyfanswm eich incwm trethadwy
  • eich gostyngiadau a lwfansau di-dreth
  • eich cod treth cyfredol

Os ydych chi'n talu gormod o dreth gallwch hawlio'r arian hwn yn ôl. Os ydych chi'n weithiwr neu’n derbyn pensiwn cwmni neu breifat ac yn credu nad ydych chi'n talu digon, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM er mwyn newid eich cod treth.

Yswiriant Gwladol

Yn ogystal â thalu Treth Incwm ar eich cyflog, bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) hefyd. Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cronni'ch hawl i rai budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r nifer o gyfraniadau YG yr ydych yn eu talu'n dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill ac a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Byddwch yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau YG pan gyrhaeddwch oed ymddeol.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU