Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu

Fel arfer mae treth ar gyfradd o 20 y cant wedi'i didynnu o log ar gynilion cyn i chi ei gael. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch (40 y cant), bydd arnoch chi dreth ar y gwahaniaeth. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch chi hawlio treth yn ôl.

Sut ydych yn talu treth ar incwm o gynilion

Mae incwm o gynilion yn cael ei ychwanegu at eich incwm arall a'i drethu ar ôl rhoi cyfrif am eich lwfansau di-dreth – Lwfans Personol er enghraifft – fel a ganlyn:

  • mae incwm trethadwy o gynilion sy'n dod o fewn y gyfradd gychwynnol o £2,710 ar gyfer cynilion Treth Incwm yn cael ei drethu ar 10 y cant – ond dim ond os nad yw’r band cyfradd wedi cael ei ddefnyddio gan incwm arall oherwydd trethir incwm cynilion yn olaf
  • mae incwm trethadwy o gynilion (wedi’i gynnwys gydag unrhyw incwm arall) sy'n uwch na'r gyfradd gychwynnol o £2,710 ar gyfer band cynilion Treth Incwm, ond o fewn y band cyfradd sylfaenol o £34,370, yn cael ei drethu ar 20 y cant
  • mae incwm trethadwy o gynilion (wedi’i gynnwys gydag unrhyw incwm arall) sy'n uwch na'r band Treth Incwm o £34,370, ond o fewn y band cyfradd uwch o £150,000, yn cael ei drethu ar 40 y cant
  • mae incwm trethadwy o gynilion (wedi’i gynnwys gydag unrhyw incwm arall) sy'n uwch na'r band Treth Incwm o £150,000 yn cael ei drethu ar 50 y cant
  • os yw'n dod ar y naill ochr i fand treth, bydd y symiau perthnasol yn cael eu trethu yn ôl y cyfraddau ar gyfer pob band treth

Mae'r holl ffigurau uchod yn berthnasol i flwyddyn dreth 2012-2013.

Rydych yn talu treth ar eich llog yn y flwyddyn dreth pan gaiff y llog ei dalu i chi (neu ei gredydu i'ch cyfrif) hyd yn oed os oes rhan ohono wedi cronni dros flynyddoedd treth blaenorol.

Treth a ddidynnir o log cyn i chi ei dderbyn

Fel arfer, mae treth ar gyfradd o 20 y cant wedi'i didynnu o incwm o gynilion cyn i chi ei gael. Cadarnheir hyn gan y cofnod 'llog net' ar eich datganiad banc neu gymdeithas adeiladu.

Os yw'r cofnod yn dangos 'llog gros' yn unig - a dim 'llog net' - does dim treth wedi'i didynnu. Fel arfer rhaid i chi gofrestru i gael llog gros - i gael mwy o wybodaeth am hyn darllenwch 'Os nad ydych yn talu treth' yn yr adran isod.

Hawlio treth yn ôl neu dalu treth ychwanegol ar log ar gynilion

Os nad ydych yn drethdalwr

Os yw lefel eich incwm yn golygu nad oes angen i chi dalu treth, gallwch lenwi ffurflen ‘R85 - Cael llog heb i dreth gael ei didynnu’. Os oes treth wedi'i didynnu o'ch llog yn barod, byddwch yn gallu ei hawlio'n ôl.

Os yw'r gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion (10 y cant) yn berthnasol i chi

Caiff cyfradd y Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu ar gynilion ei chyfrifo ar ôl i unrhyw incwm nad yw'n dod o'ch cynilion gael ei ystyried. Felly os yw'ch incwm nad yw'n dod o'ch cynilion yn llai na'r gyfradd gychwynnol ar gyfer y terfyn cynilion o £2,710 - neu os mai cynilion a buddsoddiadau yw'ch unig ffynhonell incwm - caiff eich incwm o'ch cynilion ei drethu ar y gyfradd gychwynnol o 10 y cant hyd at y terfyn.

Fodd bynnag, byddwch wedi talu 20 y cant o dreth ar eich llog ac felly byddwch yn gallu hawlio rhywfaint o'r dreth yn ôl.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant), does dim rhaid i chi wneud dim byd. Does dim treth ychwanegol yn ddyledus.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch

Os ydych chi'n drethdalwr cyfradd uwch (40 y cant), rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM faint o log rydych chi wedi'i gael fel y gallant gasglu'r dreth ychwanegol sy'n ddyledus:

  • os byddwch fel arfer yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu bydd angen i chi ddatgan eich incwm cynilion ar eich ffurflen
  • os llenwoch chi ffurflen dreth yn ystod blwyddyn dreth 2012-13, ond eich bod bellach yn tallu eich treth cyfradd uwch drwy PAYE (Talu Wrth Ennill), cesglir y dreth ychwanegol sy'n ddyledus ar eich cynilion drwy PAYE hefyd yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd gan Gyllid a Thollau EM
  • os nad ydych chi'n llenwi ffurflenni treth mwyach, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM anfon ffurflen P810 Adolygiad Treth atoch er mwyn iddynt wirio faint o gynilion ac incwm arall heb dreth sydd gennych, ac yna'n addasu eich cod treth (neu'n gofyn i chi lenwi ffurflen dreth os bydd angen)
  • os nad ydych chi'n llenwi ffurflen dreth fel arfer ond eich bod yn ddiweddar wedi symud i'r band Treth Incwm cyfradd uwch, rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM faint o incwm cynilion rydych chi'n ei dderbyn drwy lenwi ffurflen Adolygu Treth P810, sydd ar gael ar gais gan Gyllid a Thollau EM - byddant naill ai'n gofyn i chi lenwi ffurflen, neu os ydych chi'n gyflogedig ac yn derbyn pensiwn, gallant drefnu casglu'r dreth ychwanegol drwy PAYE

Yna, efallai y byddant yn anfon ffurflen P810 atoch i wirio faint o gynilion sydd gennych.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd ychwanegol

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd ychwanegol (50 y cant) bydd angen i chi ddatgan eich cynilion ar eich ffurflen dreth er mwyn i chi dalu’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus.

Os bydd eich cynilion neu incwm arall yn newid yn sylweddol

Ym mha fand Treth Incwm bynnag yr ydych, os nad ydych fel arfer yn llenwi ffurflen dreth a bod newid sylweddol yn eich cynilion neu incwm arall, rhaid i chi gysylltu'n syth â Chyllid a Thollau EM er mwyn iddynt allu gweld a oes angen i chi dalu mwy neu lai o dreth. Drwy gysylltu â hwy yn gynnar:

  • gallwch atal y dreth sy'n ddyledus rhag cronni os bydd eich incwm yn mynd â chi i fand uwch
  • gallwch osgoi talu gormod o dreth os yw eich incwm wedi disgyn o dan derfyniadau penodol

Datgan incwm o gynilion ar eich ffurflen dreth

Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth bydd angen i chi ddangos (ar gyfer eich holl gynilion mewn banciau a chymdeithasau adeiladu):

  • faint o log a gawsoch ar ôl didynnu treth - y 'swm net'
  • faint o dreth a ddidynnwyd 'yn y ffynhonnell' - cyn i chi gael y taliad
  • swm y ddau uchod - y 'swm gros' (cyn treth)

Mae tri blwch gwahanol ar gyfer yr wybodaeth hon.

Mae blwch arall i'w lenwi hefyd ar gyfer unrhyw log a gawsoch heb fod treth wedi'i didynnu.

Efallai y bydd eich banc/cymdeithas adeiladu yn anfon 'Tystysgrif o'r Dreth a Ddidynnwyd' atoch neu ddatganiad sy'n cynnwys yr wybodaeth hon ar ddiwedd pob blwyddyn dreth (Ebrill 5). Os bydd angen hon arnoch a chithau heb ei chael, cofiwch ofyn. Yn aml hefyd gallwch gael y ffigurau y byddwch eu hangen o'ch paslyfr neu o ddatganiadau eich cyfrif.

Os oes gennych gyfrif ar y cyd gyda'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil, dylech ddatgan hanner yr incwm fel eich incwm chi. Dylai'r ail hanner gyfrif tuag at eu hincwm hwy.

Llog di-dreth ar gynilion mewn ISAs

Mae llog a geir o ISAs arian yn ddi-dreth. O ganlyniad, does dim treth yn cael ei didynnu yn y ffynhonnell.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU