Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych incwm di-dreth, er enghraifft incwm rhent neu gynilion - a'ch bod eisoes yn talu treth drwy'r system PAYE (Talu Wrth Ennill) - mae'n bosibl y gallwch ei ychwanegu at eich incwm cyflogaeth neu'ch incwm pensiwn a thalu treth arno drwy eich cod treth. Os bydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau gwladol trethadwy byddant yn trefnu i chi dalu treth arnynt fel hyn yn awtomatig.
Mae incwm arall y gall Cyllid a Thollau EM ei drethu drwy eich cod treth yn cynnwys:
Os oes gennych incwm arall na ddangosir uchod, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM i gael cyngor.
Gwirio ffigyrau cyfredol am lwfansau personol gan Gyllid a Thollau EM
Bydd Cyllid a Thollau EM yn adio eich holl incwm di-dreth - eich incwm arall fel y'i disgrifir uchod yn ogystal â gwerth unrhyw fuddion cwmni neu fudd-daliadau gwladol yr ydych yn eu cael - ac yn eu tynnu fel 'didyniadau' o gyfanswm gwerth eich lwfansau a'ch gostyngiadau. Y cyfanswm sydd gennych ar ôl yw'r incwm di-dreth yr ydych yn ei gael yn ystod y flwyddyn gyfredol.
Enghraifft
Mae gennych yr hawl i gael y Lwfans Personol sylfaenol o £8,105 (y cyfanswm am y flwyddyn dreth 2012-13) ac mae gennych log cymdeithas adeiladu di-dreth o £500 ac incwm eiddo o £1,500:
Felly, mae gennych incwm di-dreth o £6,105. Dangosir hyn yn eich cod treth fel 610L.
Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn anfon Hysbysiad Cod PAYE' atoch yn egluro yn union sut y maent wedi delio â'ch incwm di-dreth yn eich cod treth.
Anfonir eich Hysbysiad Cod PAYE atoch cyn dechrau bob blwyddyn dreth neu os bydd eich cod treth yn newid. Mae’n bosib y caiff ei danfon atoch ar adegau gwahanol os mae rhywbeth wedi newid - er enghraifft, os ydych chi wedi dechrau derbyn incwm newydd neu fudd-dal cwmni newydd, neu os ydy eich hawl i lwfansau ar sail oed neu lwfansau eraill wedi newid. Rhestrir y cofnodion y gallai gynnwys o ran incwm arall i gael ei drethu drwy PAYE isod.
Incwm eiddo
Mae unrhyw incwm rhent (heb gynnwys treuliau) nad ydynt yn cael eu cynnwys o dan y cynllun Rhentu Ystafell yn drethadwy, ond byddwch yn ei gael heb i'r dreth gael ei thynnu felly mae angen iddo ymddangos yma.
Llog heb dynnu treth
Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o log di-dreth y maent yn disgwyl i chi ei gael yn ymddangos yma er mwyn sicrhau eich bod yn talu treth ar yr incwm hwn.
Incwm cynilion trethadwy ar 40 y cant a 50 y cant
Caiff incwm cynilion ei drethu ar 20 y cant cyn y byddwch yn ei gael a chaiff didyniadau (incwm o gyfranddaliadau) eu trethu ar 10 y cant.
Os ydych yn talu trethi ar gyfradd uwch bydd yn rhaid i chi dalu'r gweddill rhwng 20 y cant a 40 y cant ar incwm cynilion, a rhwng 10 y cant a 32.5 y cant ar incwm difidend.
Os ydych yn talu trethi ar gyfradd ychwanegol bydd yn rhaid i chi dalu’r gweddill rhwng 20 y cant a 50 y cant ar incwm cynilion, a rhwng 10 y cant a 42.5 y cant ar incwm difidend.
Y swm a ddangosir ar yr hysbysiad cod o dan y pennawd hwn sy'n casglu'r gwahaniaeth yn y ddau achos.
Enillion eraill/incwm arall (nad yw'n enillion)
Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o faint o enillion/incwm y maent yn disgwyl i chi eu cael eu cynnwys yma fel bod y swm treth cywir ar yr incwm hwn yn cael ei gasglu.
Comisiwn
Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o faint o gomisiwn y byddwch yn ei ennill yn ymddangos yma fel y gallwch dalu treth arno.
Cildyrnau
Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o faint o gildyrnau y byddwch yn eu hennill yn ystod y flwyddyn hon yn ymddangos yma er mwyn bod yn ofalus gyda'r dreth sy'n ddyledus.
Os ydych yn weithiwr neu'n cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol gallwch gael £2,500 o incwm ychwanegol mewn blwyddyn a pharhau i dalu treth arno drwy eich cod treth. Ar gyfer symiau sy'n fwy na £2,500 bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth a thalu treth drwy Hunanasesiad.
Os nad ydych am dalu treth ar eich incwm arall drwy eich cod treth gallwch ofyn i Gyllid a Thollau beidio â chasglu'r arian fel hyn a thalu drwy Hunanasesiad yn lle.
Am ragor o wybodaeth ar y ffyrdd gwahanol o dalu treth ar eich incwm dilynwch y ddolen isod.
Os bydd newid sylweddol yn eich incwm arall dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM ar unwaith fel y gallant gyfrifo p'un a oes angen i chi dalu mwy o dreth neu lai.
Drwy gysylltu â Chyllid a Thollau yn gynnar gallwch osgoi talu gormod o dreth neu fod mewn dyled ar ddiwedd y flwyddyn.
Os bydd amcangyfrif Cyllid a Thollau EM yn anghywir
Os ar ddiwedd y flwyddyn dreth y bydd swm yr incwm arall a gawsoch yn fwy na'r hyn a amcangyfrifwyd, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi dalu treth ar y gwahaniaeth. Os bydd yn llai, cewch ad-daliad.
Am 2010-11 ni fydd eich cod treth yn cymryd i ystyriaeth y gyfradd treth 50 y cant newydd (ac ni fydd hyn yn cael ei adlewyrchu ar eich Hysbysiad Cod PAYE). Mae hyn yn golygu os oes gennych unrhyw ‘ostyngiadau a chywiriadau’ (er enghraifft, os oes angen i Gyllid a Thollau EM gymryd i ystyriaeth incwm o gynilion sy’n drethadwy at 50 y cant) mae’n bosib na fydd eich didyniadau yn gywir.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint o dreth y bydd angen i chi dalu pan fyddwch yn anfon eich 2010-11 Hunanasesiad treth i mewn. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd ychydig o dreth ychwanegol yn ddyledus gennych.
O 2011-12 bydd eich cod treth newydd yn cyfrifo’r gyfradd dreth 50 y cant ac unrhyw ‘gostyngiadau ac addasiadau’ i gasglu’r cyfanswm cywir o dreth.
Os nad ydych chi'n llenwi ffurflen dreth fel arfer, a’ch bod chi’n dod i wybod yn ystod y flwyddyn dreth bod arnoch angen llenwi un, dilynwch y ddolen isod i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs