Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael llog di-dreth ar gynilion neu hawlio treth yn ôl

Os ydych chi ar incwm isel a bod gennych gynilion gyda banc neu gymdeithas adeiladu, gallech fod yn talu treth ar log heb fod angen gwneud hynny. Os yw hyn yn wir, gallwch gofrestru er mwyn cael y llog wedi'i dalu'n ddi-dreth. Gallwch hawlio ad-daliad o unrhyw dreth a ordalwyd gennych hefyd.

Pwy all gael llog di-dreth ar gynilion?

Mae banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn didynnu 20 y cant o dreth o'r llog y byddant yn ei dalu ar y rhan fwyaf o gyfrifon cynilo. Ond os yw cyfanswm eich incwm trethadwy yn llai na'ch Lwfans Personol di-dreth (ac unrhyw Lwfans Person Dall os ydych yn ei dderbyn) yna gallwch:

  • gofrestru er mwyn cael llog di-dreth ar eich cynilion
  • hawlio unrhyw dreth a dalwyd yn ôl

Mae incwm trethadwy yn cynnwys arian a enillwch wrth weithio. Ond nid yw'n cynnwys arian a gewch gan rai budd-daliadau penodol, a rhai ffynonellau eraill.

Eich Lwfans Personol yw'r swm o incwm y gallwch ei gael yn ddi-dreth ac mae'n dibynnu ar eich oed a'ch amgylchiadau.

Os mai dim ond ychydig o Dreth Incwm yr ydych yn ei thalu

Os nad yw'ch incwm trethadwy ond ychydig yn uwch na'ch lwfans (au) di-dreth yna gallai rhywfaint neu'r cyfan o'ch llog cynilion fod yn drethadwy ar 10 y cant - dyma 'gyfradd gychwynnol y terfyn cynilo'.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae'n debyg y gallwch hawlio rhywfaint o dreth yn ôl os cafodd ei didynnu o'ch llog. Y swm y gallwch ei adhawlio yw'r gwahaniaeth rhwng y dreth a ddidynnwyd a'r swm sy'n ddyledus mewn gwirionedd.

Sut mae cael llog heb i unrhyw dreth gael ei thynnu i ffwrdd os nad ydych yn drethdalwr

I gofrestru er mwyn cael y llog ar eich cynilion yn ddi-dreth, bydd angen ichi lenwi ffurflen R85 Cael eich llog heb i dreth gael ei thynnu i ffwrdd a'i hanfon i'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu. Mae rhai banciau a chymdeithasau adeiladu hefyd yn gadael i chi gofrestru dros y ffôn.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen R85 ar wahân ar gyfer pob banc neu gymdeithas adeiladu lle mae gennych gyfrifon. Os ydych chi'n agor cyfrif newydd bydd angen i chi wneud yn siŵr beth yw eich incwm a'ch lwfansau a llenwi ffurflen newydd.

Os ydych chi dan 16 oed, mae angen i'ch rhiant neu'ch gwarcheidwad gofrestru ar eich rhan.

Unwaith y byddwch chi wedi troi 16 oed, bydd yn rhaid i chi gwblhau R85 ffres – a’i llofnodi eich hun – os mae’n briodol i chi barhau i gael eich llog wedi’i dalu heb ddidynnu treth.

Gweld os gallwch gael eich llog yn ddi-dreth

Cewch weld os gallwch gael eich llog yn ddi-dreth drwy lenwi'r tabl yn y daflen gymorth sy'n dod gyda ffurflen R85. Neu gallwch ddefnyddio'r gwiriwr ar-lein syml ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Sut mae hawlio treth yn ôl

Os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod o dreth ar eich llog, gallwch ei hawlio'n ôl. Er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen R40 Ffurflen Ad-dalu Treth. Bydd rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn y credwch y bu i chi dalu gormod o dreth ynddi.

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn cael y dreth yr ydych wedi ei ordalu yn ôl ar yr amod eich bod yn hawlio ar amser.

Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl

Dangosir y terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad yn y tabl isod. Os na fyddwch chi’n Gwneud hawliad o fewn y terfyn amser byddwch yn colli unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi.

Blwyddyn dreth Daeth y flwyddyn dreth i ben ar Mae'n rhaid i chi hawlio erbyn:
2008-09 5 Ebrill 2009 5 Ebrill 2013
2009-10 5 Ebrill 2010 5 Ebrill 2014
2010-11 5 Ebrill 2011 5 Ebrill 2015
2011-12 5 Ebrill 2012 5 Ebrill 2016

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Gall eich incwm a'ch lwfansau treth newid o flwyddyn i flwyddyn - ac yn ystod y flwyddyn. Felly efallai y gwelwch fod eich incwm yn cynyddu ac nad yw'ch lwfansau treth bellach yn ddigonol.

Os yw hyn yn digwydd, mae'n bwysig dweud wrth eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu'n syth, er mwyn iddynt ddechrau didynnu treth o'ch llog. Fel arall, efallai y bydd gennych fil treth ar ddiwedd y flwyddyn.

Cael help

Os bydd arnoch angen unrhyw help i gael llog di-dreth gallwch ffonio Llinell Gymorth Cynilion Cyllid a Thollau EM ar 0845 980 0645. Mae llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener (ddim yn cynnwys gwyliau banc).

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU