Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi wedi derbyn ‘ad-daliad’ Treth Incwm fe fydd un ai'n dilyn hawliad a wnaethpwyd gennych neu fe fydd oherwydd bod Cyllid a Thollau EM wedi derbyn gwybodaeth newydd am eich incwm trethadwy neu'ch hawl i gael lwfansau. Efallai y daw'r ad-daliad drwy'ch cod treth neu fel taliad a gallai fod yn berthnasol i'r flwyddyn dreth gyfredol neu i flynyddoedd blaenorol.
Ad-daliad o dreth a ordalwyd gennych yw ad-daliad Treth Incwm. Felly, os ydych chi wedi talu gormod o dreth, er enghraifft drwy eich swydd neu'ch pensiwn, eleni neu yn ystod blynyddoedd blaenorol, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ad-daliad atoch.
Fe gewch yr ad-daliad un ai drwy siec neu yn y post, drwy drosglwyddiad banc neu drwy'ch cyflog.
Ar hyn o bryd gall Cyllid a Thollau EM dalu treth a ordalwyd yn ôl i chi, hyd at y chwe blynedd diwethaf.
Pryd allech chi fod wedi talu gormod o dreth?
Efallai y byddwch wedi talu gormod o dreth:
Gall hyn i gyd, a rhesymau eraill, olygu eich bod wedi talu gormod o dreth.
Bydd eich Swyddfa Dreth yn rhoi cod treth i chi sy'n dweud wrth eich cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn faint o dreth i'w thynnu o'ch cyflog neu'ch pensiwn cyn i chi gael eich talu. Os ydych chi wedi talu gormod o dreth eleni, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth newydd i chi a bydd eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn yn talu'ch ad-daliad i chi gyda'ch cyflog neu'ch pensiwn.
Os ydych chi wedi talu gormod o dreth mewn blynyddoedd blaenorol bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint sy'n ddyledus i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post neu drwy drosglwyddiad banc.
Os ydych chi wedi dod yn ddi-waith, wedi rhoi'r gorau i'ch gwaith er mwyn dychwelyd i astudio neu wedi ymddeol efallai y cewch chithau hefyd ad-daliad treth wrth Gyllid a Thollau EM.
Os ydych chi wedi talu gormod o dreth drwy Hunanasesu gallwch ofyn am ad-daliad neu adael y gordaliad yn eich cyfrif Hunanasesu er mwyn ei ddefnyddio i leihau biliau treth yn y dyfodol. Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM dalu'r ad-daliad i chi, eich asiant, neu berson neu elusen a enwebwyd gennych. O 6 Ebrill 2012 ni fyddwch yn gallu gwneud ad-daliadau rhagor i elusen am unrhyw flwyddyn. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd unrhyw gais am ad-daliad i elusen yn cael ei anfon i chi.
Gallwch weld swm y gordaliad yn eich cyfrifiad treth Hunanasesu, eich Datganiad o Gyfrif, neu'ch Cyfrif Hunanasesu Ar-lein.
Bydd eich ad-daliad yn cynnwys unrhyw log sy'n ddyledus ar y swm a ordalwyd.
Os ydych chi'n credu bod eich ad-daliad yn anghywir, mae'n bwysig cysylltu â Chyllid a Thollau EM yn fuan er mwyn i nhw allu unioni'r cam.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs