Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio ad-daliad treth pan fyddwch yn rhoi'r gorau i weithio

Os ydych newydd roi'r gorau i weithio, efallai y gallwch hawlio rhywfaint o'r Dreth Incwm yr ydych wedi'i thalu yn ôl. Efallai eich bod wedi gorffen gweithio oherwydd eich bod wedi ymddeol, wedi dychwelyd i astudio neu oherwydd eich bod bellach yn ddi-waith. Mae’r erthygl hon yn egluro pryd y gallai ad-daliad Treth Incwm fod yn ddyledus i chi a sut mae hawlio’r ad-daliad.

Pryd y gallai ad-daliad treth fod yn ddyledus

Mae blwyddyn dreth yn mynd o'r 6 Ebrill i'r 5 Ebrill canlynol. Os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth, efallai y byddwch wedi talu gormod o dreth ar gyfer y flwyddyn honno. Gall hyn ddigwydd os oeddech yn talu treth drwy’r cynllun PAYE (Talu Wrth Ennill) fel cyflogai ac:

  • mai dim ond am ran o'r flwyddyn y cawsoch eich cyflogi - ac nid oeddech yn cael unrhyw fudd-daliadau gwladol trethadwy ar gyfer gweddill y flwyddyn dreth ar ôl i chi roi'r gorau i weithio
  • eich bod wedi ymddeol ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn dreth
  • os oedd eich cyflogwr yn defnyddio'r cod treth anghywir
  • os ydych yn fyfyriwr a ddim ond wedi gweithio yn ystod y gwyliau ond na wnaethoch gwblhau ffurflen P38(S) Myfyrwyr sy'n Gweithio
  • os cawsoch eich diswyddo ac nad oeddech yn gallu cael swydd arall
  • derbynioch daliadau ar ôl gadael megis ôl-ddyledion tâl, taliadau yn lle rhybudd diswyddo, ôl-ddyledion tâl gwyliau, tâl dileu swydd neu daliadau terfynu gan gynnwys iawndal ar gyfer colli swydd neu gyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig, mae'n rhaid i chi wneud 'taliadau ar gyfrif' o'ch bil treth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os ydych wedi gwneud taliadau ar gyfrif o'r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer y flwyddyn y gwnaethoch roi'r gorau i weithio, efallai y byddwch wedi talu mwy nag oedd yn rhaid i chi ei wneud.

P'un a oeddech yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig cyn i chi roi'r gorau i weithio, os ydych wedi talu gormod o dreth gallwch hawlio ad-daliad o'r swm yr ydych wedi'i ordalu.

Sut mae hawlio ad-daliad os oeddech yn gyflogedig

Os oeddech yn cael eich cyflogi cyn i chi roi'r gorau i weithio, byddwch wedi talu treth drwy PAYE. Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth drwy PAYE, mae'r ffordd y cewch hawlio'r ad-daliad yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd trethadwy

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd trethadwy, fel arfer ni fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad treth ar unwaith. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod y budd-daliadau hyn yn drethadwy ac yn effeithio ar unrhyw ad-daliad y gallwch ei hawlio.

Bydd angen i chi roi Rhannau 2 a 3 o'r ffurflen P45 i'r Swyddfa Budd-daliadau er mwyn sicrhau y cewch unrhyw dreth sy'n ddyledus i chi - chi fydd yn cadw Rhan 1 A ar gyfer eich cofnodion.

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith, bydd y Swyddfa Budd-daliadau yn talu unrhyw ad-daliadau y mae gennych yr hawl eu cael ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Os byddwch yn rhoi'r gorau i hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith cyn diwedd y flwyddyn dreth, bydd y Swyddfa Budd-daliadau yn talu unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael i chi ar ôl i chi roi'r gorau i hawlio.

Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth trethadwy, byddwch yn cael unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael ar ôl diwedd y flwyddyn dreth neu ar ôl i chi roi’r gorau i hawlio.

Fodd bynnag, os cawsoch eich diswyddo efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gallu talu ad-daliad treth i chi yn ystod y flwyddyn dreth. Dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM a byddant yn dweud wrthych ba wybodaeth i’w darparu a pha ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi.

Noder, os ydych wedi cael eich rhoi ar god treth brys ‘wythnos 1’ neu ‘fis 1’, bydd Cyllid a Thollau EM yn talu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus – dilynwch y ddolen isod os gwelwch yn dda i gael gwybod am godau treth brys a pham efallai y byddwch ar un.

Os byddwch yn cael swydd newydd o fewn pedair wythnos

Os byddwch yn dechrau swydd newydd o fewn pedair wythnos ers rhoi'r gorau i'ch swydd arall, bydd eich cyflogwr yn talu unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael gyda chyflog eich swydd newydd.

Bydd angen i chi roi Rhannau 2 a 3 o'ch ffurflen P45 i'ch cyflogwr newydd a sicrhau eich bod yn cael unrhyw ad-daliad treth y mae gennych yr hawl ei gael - chi fydd yn cadw Rhan 1A ar gyfer eich cofnodion.

Os derbynioch daliadau ar ôl gadael eich swydd ddiwethaf megis ôl-ddyledion tâl, taliadau yn lle rhybudd diswyddo, ôl-ddyledion tâl gwyliau, tâl dileu swydd neu unrhyw daliadau terfynu eraill ac rydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod o dreth, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM. Byddant yn dweud wrthych ba wybodaeth i’w darparu ac os oes unrhyw ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi.

Os ydych wedi bod yn ddi-waith am o leiaf pedair wythnos neu os ydych yn ymddeol neu'n dychwelyd i astudio

Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth, bydd angen i chi hawlio ad-daliad treth gan Gyllid a Thollau EM os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych wedi bod yn ddi-waith am o leiaf pedair wythnos
  • fe wnaethoch roi'r gorau i weithio oherwydd eich bod wedi ymddeol ac nad ydych yn cael pensiwn gan eich cyn gyflogwr
  • rydych wedi dychwelyd i astudio

Gallwch hawlio ad-daliad treth drwy lenwi ffurflen P50 ‘Hawlio treth yn ôl pan ydych wedi rhoi'r gorau i weithio’. Dylech anfon hon at Gyllid a Thollau EM, ynghyd â Rhannau 2 a 3 o'ch ffurflen P45 - a dylech gadw Rhan 1A ar gyfer eich cofnodion.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ad-daliad o'r dreth y mae gennych yr hawl ei chael drwy'r post. Byddant hefyd yn anfon ffurflen P45 newydd atoch, Rhannau 1A, 2 a 3, os oes angen.

Os byddwch yn ymddeol ac yn cael pensiwn gan eich cyn gyflogwr, byddwch yn cael unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael gyda'ch taliadau pensiwn. Ni fydd angen i chi hawlio ad-daliad treth gan ddefnyddio ffurflen P50.

Os cawsoch eich diswyddo cysylltwch â Chyllid a Thollau EM cyn llenwi ffurflen P50 a byddant yn dweud wrthych ba wybodaeth arall y bydd angen i chi ei darparu.

Sut mae hawlio eich ad-daliad os oeddech yn hunangyflogedig

Os ydych wedi rhoi'r gorau i fod yn hunangyflogedig, gallwch hawlio ad-daliad treth drwy gwblhau'r tudalennau priodol o'ch ffurflen dreth Hunanasesiad.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn ad-dalu unrhyw dreth yr ydych wedi'i gordalu, ynghyd ag unrhyw log y mae gennych yr hawl i'w gael. Bydd angen i chi hefyd roi manylion sut yr hoffech gael yr ad-daliad.

Gall Gyllid a Thollau EM ei dalu:

  • i chi
  • yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc
  • i'ch enwebai - gallai hwn fod eich cyfrifydd
  • yn uniongyrchol i gyfrif banc eich enwebai
  • i elusen enwebedig

O 6 Ebrill 2012, ni fyddwch yn gallu gwneud ad-daliadau mwyach i elusen ar gyfer unrhyw flwyddyn. Ar ôl y dyddiad hwn, caiff unrhyw gais i wneud ad-daliad i elusen ei hanfon i chi.

Os byddwch yn llenwi eich ffurflen dreth ar-lein, caiff y ffigurau eu cyfrifo i chi'n awtomatig. Cewch wybod ar unwaith faint o dreth a gewch yn ôl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU