Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Incwm trethadwy ac incwm anrhethadwy yn fras

Nid oes rhaid talu treth ar bob incwm. Gallwch hefyd dderbyn rhai mathau o incwm 'trethadwy' yn 'ddi-dreth'. Gall y rhestri isod eich helpu i gyfrifo pa incwm sy'n cael ei gyfrif yn 'drethadwy' ac yn 'anrhethadwy' - a pha incwm trethadwy y gallwch ei dderbyn yn ddi-dreth.

Beth sy'n incwm trethadwy?

Incwm o gyflogaeth

  • gan gynnwys incwm o waith amser llawn, rhan-amser a dros dro
  • os ydych chi'n cael mân fanteision neu fuddion gan eich cyflogwr, efallai bod y rhain hefyd yn drethadwy

Incwm o hunangyflogaeth neu bartneriaeth

Elw'r ydych chi'n ei wneud wrth weithio drosoch eich hun neu fel masnachwr unigol neu bartner.

Incwm o bensiwn

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • pensiynau personol neu bensiynau cwmni
  • Blwydd-dal ymddeol

Llog ar gynilion

  • llog banc neu gymdeithas adeiladu - ac eithrio Cyfrifon Cynilo Cenedlaethol (ISAs)
  • Cyfrifon a bondiau Buddsoddiadau a Chynilion Cenedlaethol

Incwm buddsoddi

Difidendau ar gyfranddaliadau cwmni - ac eithrio incwm difidend o ISAs.

Budd-daliadau'r wladwriaeth

  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - yn seiliedig ar ‘gyfraniadau’ (os ydych chi wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol)
  • Budd-dal Analluogrwydd - o wythnos 29
  • Lwfans Profedigaeth Wythnosol

Incwm o renti

  • gan breswyliwr os yw'n fwy na £4,250 y flwyddyn (£2,125 os caiff ei rannu ar y cyd)
  • o ail ddarn o eiddo

Incwm trethadwy arall

  • bondiau pensiynwyr
  • incwm o ymddiriedolaethau

Beth sy'n incwm anhrethadwy?

Budd-daliadau'r wladwriaeth

  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Taliadau Profedigaeth mewn un taliad
  • Credyd Pensiwn
  • Trwydded deledu am ddim i rai dros 75
  • Taliadau Tanwydd y Gaeaf
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - yn seiliedig ar incwm (os nad ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol)
  • y 28 wythnos cyntaf o Fudd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm - rhai taliadau penodol
  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Lwfans Mamolaeth
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Pensiwn Rhyfel Gŵr neu Wraig Weddw
  • Lwfans Pontio Person Ifanc

Llog ar gynilion

  • pob ISA
  • Tystysgrifau Cynilo

Rhenti

  • Y £4,250 cyntaf gan breswyliwr mewn blwyddyn - £2,125 os caiff ei rannu ar y cyd

Credydau Treth

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Bondiau Premiwm

Nid oes rhaid talu Treth Incwm y DU na Threth Enillion Cyfalaf ar enillion o Fondiau Premiwm.

Os oes gennych incwm na ddangosir uchod

Os oes gennych incwm na ddangosir uchod, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM trwy ddilyn y ddolen isod.

Incwm trethadwy y gallwch ei dderbyn yn ddi-dreth

Mae gan bron bawb hawl i dderbyn rhywfaint o incwm trethadwy yn ddi-dreth yn ystod y flwyddyn dreth. Gelwir hyn yn Lwfans Personol, ac mae'n cynyddu ar ôl i chi gyrraedd 65 oed.

Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall. Fel y Lwfans Personol, dyma swm o incwm trethadwy y gallwch ei dderbyn yn ystod y flwyddyn dreth heb dalu treth.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU