Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall. Os na allwch chi ddefnyddio rhan neu'r cyfan o'ch lwfans, efallai y gallwch ei drosglwyddo.
Ychwanegir Lwfans Person Dall at eich Lwfans Personol di-dreth - felly mae'n swm ychwanegol o incwm y gallwch ei gael bob blwyddyn heb dalu treth. Os ydych chi ar incwm isel, neu os nad ydych chi'n talu treth o gwbl hyd yn oed, efallai y gallwch drosglwyddo'ch Lwfans Person Dall i'ch cymar neu'ch partner sifil - gweler yr adran am drosglwyddo isod.
Y Lwfans Person Dall ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13 yw £2,100 - does dim cyfyngiadau o ran oed nac incwm. Felly, er enghraifft, os ydych chi'n 58 oed, wedi'ch cofrestru'n ddall gyda'ch awdurdod lleol a bod gennych:
Dim ond ar £1,795 (£12,000 tynnu £8,105 a £2,100) y bydd yn rhaid i chi dalu treth.
Os ydych chi a'ch cymar neu'ch partner sifil yn gymwys i gael Lwfans Person Dall, gall y ddau ohonoch gael lwfans.
Os ydych chi'n credu y gallech hawlio Lwfans Person Dall cysylltwch â Chyllid a Thollau EM ar eu rhif ffôn blaenoriaeth 0845 366 7887. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.
O s nad yw eich bil treth yn ddigon uchel i ddefnyddio'ch Lwfans Person Dall i gyd, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM drosglwyddo unrhyw lwfans nas defnyddiwyd i’ch cymar neu’ch partner sifil. Gallwch wneud hyn drwy:
Os ydych chi’n gwneud hawl i gael treth yn ôl ar ffurflen R40 gallwch hefyd gwneud cais am ffurflen 575 drwy dicio’r blwch priodol.
Os nad ydych chi'n talu treth a bod eich cymar neu'ch partner sifil yn gwneud hynny, gallwch ddal i drosglwyddo'ch lwfans nas defnyddiwyd iddynt.
Os gallwch hefyd hawlio Lwfans Pâr Priod, byddwch yn gallu trosglwyddo’r lwfans hwn i’ch i’ch cymar neu bartner sifil ar yr un adeg.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs