Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n weithiwr neu'n gyfarwyddwr, mae nifer o dreuliau y gallech 'ad-hawlio treth' arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys cost ffioedd neu danysgrifiadau proffesiynol, teithiau busnes a chynhaliaeth, cyfarpar a dillad arbenigol. Gallwch fynd yn ôl amryw o flynyddoedd i gael gostyngiad treth ar gyfer treuliau.
Dim ond ar gyfer treuliau a ganiateir y cewch chi ostyngiad treth. Caniateir treuliau os ydynt yn talu am gost y canlynol:
Ni chewch ofyn am ostyngiad treth os yw'ch cyflogwr eisoes wedi'ch ad-dalu am y gost ac wedi cytuno ar 'ganiatâd arbennig' gyda Chyllid a Thollau EM.
Gallwch gael gwybod rhagor am y mathau o dreuliau y gallwch gael gostyngiad arnynt drwy glicio ar y ddolen isod.
Mae sut byddwch chi'n cael gostyngiad treth ar gyfer y treuliau gwaith a ganiateir yn dibynnu ar p'un ai a ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu ai peidio.
Os nad oes rhaid i chi lenwi ffurflen dreth, gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer y treuliau a ganiateir drwy:
Trwy lythyr
Y tro cyntaf y byddwch chi’n gofyn am ostyngiad treth ar gyfer eich treuliau bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM drwy lythyr. Os mae eich treuliau dros £1,000 byddant yn gofyn i chi lenwi ffurflen P87 i roi rhagor o fanylion.
Dros y ffôn
Os byddwch chi'n ffonio Cyllid a Thollau EM i ofyn am ostyngiad ar eich treuliau, gallant roi gostyngiad treth i chi os yw'r holl amodau canlynol wedi eu bodloni:
Os ydych chi'n bodloni'r amodau byddant yn rhoi gostyngiad treth i chi'n syth ac yn ad-dalu unrhyw dreth a or-dalwyd gennych. Fel arall, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen P87 cyn y gallant adael i chi hawlio.
Ffurflen P810
Hyd yn oed os nad oes rhaid i chi lenwi ffurflen dreth yn flynyddol, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM edrych ar eich incwm yn awr ac yn y man serch hynny, er mwyn sicrhau nad ydych yn talu gormod o dreth, neu rhag ofn nad ydych yn talu digon. I wneud hynny bydd angen i chi lenwi ffurflen Adolyg Treth P810, sydd ar gael ar gais gan Gyllid a Thollau EM.
Pan fyddwch yn llenwi ffurflen P810 gallwch ei defnyddio i ofyn am ostyngiad treth ar gyfer eich treuliau a ganiateir. Os yw eich treuliau dros £1,000, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi lenwi ffurflen P87 er mwyn rhoi mwy o fanylion amdanynt.
Ffurflen P87
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen P87 atoch os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
Mae'r ffurflen yn gofyn am fanylion ynghylch eich treuliau a sut y bu i chi gyfrifo'r swm yr ydych eisiau ei hawlio.
Os oes gennych fwy nag un swydd, neu os byddwch chi'n newid eich swydd yn ystod y flwyddyn dreth, bydd angen i chi lenwi ffurflen P87 arall ar gyfer pob swydd.
Os na fyddwch chi'n llenwi ffurflen P87 ar ôl i un gael ei gyrru atoch, ni fyddant yn gallu gadael i chi hawlio treuliau. Efallai y gallai hyn olygu eich bod yn talu gormod o dreth.
Terfynau amser ar gyfer cael gostyngiad treth
Mae’r terfynau amser ar gyfer gofyn am ostyngiad treth ar gyfer eich treuliau yn cael eu dangos yn y tabl isod.
Terfynau amser ar gyfer cael gostyngiad treth os nad ydych yn cwblhau ffurflen Hunanasesu
Blwyddyn dreth | Blwyddyn dreth wedi dod i ben ar | Mae'n rhaid i chi hawlio erbyn |
---|---|---|
2008-09 | 5 Ebrill 2009 | 5 Ebrill 2013 |
2009-10 | 5 Ebrill 2010 | 5 Ebrill 2014 |
2010-11 | 5 Ebrill 2011 | 5 Ebrill 2015 |
2011-12 | 5 Ebrill 2012 | 5 Ebrill 2016 |
Efallai y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu os yw'r canlynol yn berthnasol:
Gallwch hawlio gostyngiad treth ar eich treuliau gwaith a ganiateir ar dudalen gyflogaeth y ffurflen dreth.
Os byddwn yn hawlio gostyngiad treth ar eich treuliau a ganiateir ar eich ffurflen dreth, ni fydd angen i chi gwblhau ffurflen P87.
Terfynau amser ar gyfer cael gostyngiad treth
Mae’r terfynau amser ar gyfer gofyn am ostyngiad treth ar gyfer eich treuliau yn cael eu dangos yn y tabl isod.
Terfynau amser ar gyfer cael gostyngiad treth os nad ydych yn cwblhau ffurflen Hunanasesu
Blwyddyn dreth |
Blwyddyn dreth wedi dod i ben ar |
Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn |
---|---|---|
2008-09 | 5 Ebrill 2009 | 5 Ebrill 2013 |
2009-10 | 5 Ebrill 2010 | 5 Ebrill 2014 |
2010-11 | 5 Ebrill 2011 | 5 Ebrill 2015 |
2011-12 | 5 Ebrill 2012 | 5 Ebrill 2016 |
Mae'r ffordd y byddwch yn derbyn y gostyngiad am eich treuliau gwaith yn dibynnu ar y swm y byddwch yn ei hawlio.
Hawliadau hyd at £2,500
Os yw'ch hawliad yn £2,500 neu lai, fel arfer bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gostyngiad i chi am eich treuliau drwy'ch cod treth yn syth. Os byddwch chi wedi amcangyfrif y swm i'w hawlio, byddant yn ei adolygu ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen yn eich cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf.
Hawliadau dros £2,500
Os byddwch yn hawlio treuliau dros £2,500, byddant yn rhoi gostyngiad i chi yn eich cod treth ar gyfer y flwyddyn gyfredol a'r nesaf - a byddant yn gyrru ffurflen dreth i chi ei llenwi, yn ogystal ag edrych ar eich cyfrifiad treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs