Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth

Gall Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth leihau eich treth os byddwch yn talu cynhaliaeth i'ch cyn gymar neu'ch cyn bartner sifil. Mae'n swm y gall Cyllid a Thollau EM ei dynnu o'ch bil treth - felly dim ond os ydych chi'n talu treth y gallwch hawlio.

Pwy all gael Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth?

Gallwch gael Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth:

  • os ganed chi neu'ch cyn-gymar neu'ch cyn-bartner sifil cyn 6 Ebrill 1935
  • os ydych wedi gwahanu neu wedi ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil wedi chwalu a chithau'n gwneud y taliadau dan Orchymyn Llys
  • os yw'r taliadau ar gyfer cynnal eich cyn-gymar neu'ch cyn-bartner sifil (ar yr amod nad ydynt wedi ailbriodi neu mewn partneriaeth sifil newydd) neu ar gyfer eich plant o dan 21

Faint o ostyngiad Taliad Cynhaliaeth gallech ei gael?

Ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13 gall ostyngiad Taliad Cynhaliaeth leihau eich bil treth gymaint â'r isaf o'r ddau swm canlynol:

  • 10 y cant o £2,960 (£296) - bydd hwn yn berthnasol pan fyddwch yn talu Gostyngiad Taliad Cynhaliaeth o £2,960 neu fwy y flwyddyn
  • 10 y cant o'r swm a delir i chi mewn gwirionedd - bydd hwn yn berthnasol pan fyddwch yn talu Gostyngiad Taliad Cynhaliaeth o lai na £2,960

Ni allwch hawlio gostyngiad treth ar gyfer unrhyw daliadau gwirfoddol y byddwch yn eu gwneud ar gyfer plentyn, cyn-gymar neu gynbartner sifil.

Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth - enghraifft a gyfrifwyd am y flwyddyn dreth 2012-13

Rydych yn 80, wedi ysgaru, mae gennych incwm trethadwy o £20,000 ac rydych yn talu £1,200 o daliad cynhaliaeth y flwyddyn i'ch cyn-gymar (£100 y mis):

  • eich incwm trethadwy yw £20,000
  • eich lwfans di-dreth yw £10,660 (Lwfans Personol ar sail oed ar gyfer pobl sy’n 75 mlwydd oed neu’n hŷn)
  • tynnwch eich lwfans di-dreth (£10,660) oddi wrth eich incwm trethadwy (£20,000) - mae hynny'n eich gadael gydag incwm trethadwy o £9,340 a chyda bil treth o £1,868 (20 y cant o £9,340) - ond gallwch ddefnyddio'ch Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth i leihau'ch bil treth
  • rydych chi'n talu cynhaliaeth o £1,200 felly mae £120 (10 y cant o £1,200) o ostyngiad treth yn ddyledus i chi
  • tynnir y swm o'ch bil treth

Sut i hawlio Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth

Er mwyn hawlio Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM drwy glicio ar y drydedd ddolen isod.

Os ydych chi eisoes wedi hawlio Gostyngiad Taliadau Cynhaliaeth a'ch bod yn derbyn 'Hysbysiad Cod PAYE' bydd hwn yn rhoi gwybod i chi faint y byddwch yn ei gael.

Os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi gynnwys manylion eich cais am y Gostyngiad Taliad Cynhaliaeth.

Os ydych chi'n derbyn taliadau cynhaliaeth

Ni fyddwch yn talu treth ar unrhyw daliadau cynhaliaeth y byddwch yn eu derbyn.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU