Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae nifer o lwfansau a gostyngiadau 'di-dreth' ac 'adhawlio treth' y gallech eu cael er mwyn lleihau eich bil treth - ac mewn rhai achosion gallant olygu nad oes gennych unrhyw dreth i'w thalu. Mae'r rhain yn cynnwys Lwfansau Personol, y Lwfans Pâr Priod a rhai treuliau busnes.
Mae gan bron bawb sy'n byw yn y DU hawl i Lwfans Personol ar gyfer Treth Incwm. Dyma'r incwm a gewch bob blwyddyn heb orfod talu treth arno.
Mae maint eich Lwfans Personol yn dibynnu ar:
Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall. Fel eich Lwfans Personol, dyma swm o incwm y gallwch ei gael heb orfod talu treth arno.
Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai y gallwch chi neu'ch partner gael Lwfans Pâr Priod:
Mae yna reolau arbennig ynghylch pwy sy'n hawlio Lwfans Pâr Priod. Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar oed y cymar/partner sifil hynaf, a lefel incwm yr hawlydd. Caiff deg y cant o'r cyfanswm o Lwfans Pâr Priod y gallwch ei hawlio ei dynnu oddi ar eich bil treth.
Gallwch gael lwfans i leihau eich bil treth ar gyfer taliadau cynhaliaeth yr ydych yn eu gwneud i'ch cyn gymar neu'ch cyn bartner sifil:
Gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer gwahanol dreuliau, yn dibynnu ar p'un ai gweithiwr, cyfarwyddwr neu berson hunangyflogedig ydych chi.
Gweithwyr a chyfarwyddwyr
Os ydych chi'n weithiwr neu'n gyfarwyddwr gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer treuliau busnes yr ydych wedi talu amdanynt ac os oedden nhw'n talu am gost:
Mae'r math o dreuliau y gallech gael gostyngiad ar eu cyfer yn cynnwys:
Hunangyflogedig
Os ydych chi'n hunangyflogedig gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer y treuliau busnes y byddwch yn eu talu sydd ar gyfer eich busnes yn unig. Os byddwch chi'n talu am rywbeth y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer busnes ac ar gyfer eich bywyd preifat - fel eich ffôn - ac y gall y bil gael ei rannu, gallwch gael gostyngiad ar gyfer y rhan sydd ar gyfer eich busnes yn unig.
Gallai eich treuliau busnes gynnwys:
Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad drwy roi gostyngiad treth i chi ar gyfraniadau pensiwn. Mae'r ffordd yr ydych yn cael gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn yn dibynnu p’un ai i gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus neu gynllun pensiwn cwmni yr ydych yn talu.
Cynlluniau pensiwn cwmni neu gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus
Mae'ch cyflogwr yn tynnu'r cyfraniadau pensiwn o'ch cyflog cyn tynnu treth - ond nid cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dim ond ar yr hyn sydd ar ôl y byddwch chi'n talu treth.
Fodd bynnag, efallai y bydd rhai cyflogwyr yn dewis defnyddio'r un ffordd o dalu cyfraniadau ag y mae darparwyr cynlluniau pensiwn personol yn ei defnyddio - gweler isod.
Pensiynau personol
Byddwch yn talu Treth Incwm ar eich enillion cyn unrhyw gyfraniad pensiwn, ond bydd y darparwr pensiwn yn hawlio treth yn ôl gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant. Golyga hyn eich bod yn cael £100 yn eich cronfa bensiwn am bob £80 yr ydych yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn.
Os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hawlio'r gwahaniaeth drwy'ch ffurflen dreth Hunanasesu neu drwy wneud cais dros y ffôn neu mewn llythyr. Os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd ychwanegol bydd rhaid i chi hawlio’r gwahaniaeth drwy’ch ffurflen dreth.
Gallwch gael gostyngiad treth os byddwch yn rhoi i elusen. Gallwch wneud hyn mewn amryw wahanol ffyrdd.
Cymorth Rhodd
Mae Cymorth Rhodd yn cynnig ffordd syml o gynyddu gwerth eich rhodd i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol. Mae'n gadael i'r elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol yr ydych chi'n eu cefnogi adhawlio treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) ar eich rhodd. Os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hawlio’r gwahaniaeth drwy’ch ffurflen dreth Hunanasesu neu drwy wneud cais dros y ffôn neu mewn llythyr. Os ydych chi’n talu treth ar y gyfradd ychwanegol bydd rhaid i chi hawlio’r gwahaniaeth drwy’ch ffurflen dreth.
Rhoi drwy’r Gyflogres
Os yw'ch cyflogwr yn cynnig y cynllun Rhoi trwy'r Gyflogres, gallwch ei ddefnyddio i gael gostyngiad treth fel mater o drefn - ar eich cyfradd treth incwm uchaf - ar unrhyw roddion a wneir gennych i elusen yn uniongyrchol o'ch cyflog neu'ch pecyn taliad pensiwn.
Rhoi asedau i elusennau
Os byddwch chi'n rhoi rhai asedau penodol i elusen, gallwch hawlio gostyngiad treth a lleihau'ch bil treth. Gallwch hefyd hawlio gostyngiad treth os byddwch chi'n gwerthu'r ased i am lai na'i werth ar y farchnad.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs