Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gostyngiad treth wrth roi i elusen drwy Gymorth Rhodd

Mae Cymorth Rhodd yn cynyddu gwerth rhoddion i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol yn y DU drwy ganiatáu iddynt hawlio treth yn ôl ar eich rhodd ar y gyfradd sylfaenol. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch gellir hawlio mwy ar eich rhoddion. Os byddwch yn hawlio lwfansau ar sail oed neu gredydau treth, gall rhoddion Cymorth Rhodd weithiau gynyddu eich hawl.

Sut mae Cymorth Rhodd yn gweithio

Cynllun ar gyfer rhoddion ariannol gan unigolion sy’n talu treth yn y DU yw Cymorth Rhodd. Mae rhoddion Cymorth Rhodd yn cael eu hystyried fel cael treth gyfradd sylfaenol wedi’i didynnu gan y rhoddwr.

Bydd elusennau neu Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol yn cymryd eich rhodd – (sef arian yr ydych eisoes wedi talu treth arno) ac yn hawlio treth yn ôl ar y gyfradd sylfaenol gan Gyllid a Thollau EM ar y swm 'gros' sy'n cyfateb i'r rhodd - sef y swm cyn tynnu'r dreth ar y gyfradd sylfaenol.

Ugain y cant yw'r dreth ar y gyfradd sylfaenol, felly os byddwch yn rhoi £10 drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd, golyga hynny ei fod yn werth £12.50 i'r elusen. Ar gyfer rhoddion a wneir rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2011 bydd yr elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol hefyd yn cael 3c yn ychwanegol ar bob punt a roddwch.

Sut i wneud cyfraniad drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd

Bydd angen i chi wneud datganiad Cymorth Rhodd er mwyn rhoi drwy Gymorth Rhodd. Fel arfer. Fel arfer bydd yr elusen yn gofyn i chi lenwi ffurflen syml. Gall un ffurflen wneud y diben ar gyfer pob rhodd a roddwch i'r un elusen neu Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol am ba gyfnod bynnag a ddewiswch a gellir hefyd ei defnyddio ar gyfer rhoddion yr ydych wedi'u gwneud yn barod a/neu roddion a wnewch yn y dyfodol.

Mae’n rhaid i ddatganiad Cymorth Rhodd gynnwys:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad cartref
  • enw’r elusen
  • manylion eich rhodd, a dylai ddweud mai rhodd Cymorth Rhodd ydyw

Rhoddion ar y cyd gan bobl sy'n byw gyda'i gilydd

Gallwch ddefnyddio Cymorth Rhodd ar gyfer rhoddion a wnewch ar y cyd os byddwch yn dweud wrth yr elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol faint mae pob un ohonoch yn ei roi ac a fydd pob un ohonoch yn gwneud datganiad Cymorth Rhodd ai peidio.

Gwneud yn siŵr eich bod wedi talu digon o dreth i ddefnyddio Cymorth Rhodd

Gallwch ddefnyddio Cymorth Rhodd os yw'r Dreth Incwm a/neu'r Dreth Enillion Cyfalaf yr ydych wedi'i thalu yn y flwyddyn dreth a wnaethoch eich cyfraniad o leiaf cyfwerth â'r dreth ar y gyfradd sylfaenol y mae'r elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol, ac unrhyw elusennau eraill neu Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol yr ydych yn cyfrannu atynt yn ei hawlio'n ôl ar eich rhodd. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol.

Os byddwch yn gwneud nifer o gyfraniadau Cymorth Rhodd, bydd angen i chi ystyried y dreth yr ydych wedi'i thalu ar bob cyfraniad ar sail gynyddol. Os nad ydych chi’n tau digon o dreth, bydd angen i chi dalu unrhyw ddiffyg mewn treth i Gyllid a Thollau EM.

Does dim rhaid i chi fod yn gweithio i fod yn talu treth. Ar wahân i dreth ar incwm o swydd neu o hunangyflogaeth, gallai'r dreth a dalwyd gennych gynnwys:

  • treth a dynnwyd yn y ffynhonnell o log o gynilion
  • treth ar Bensiwn y Wladwriaeth a/neu bensiynau eraill
  • treth ar fuddsoddiadau neu ar incwm o rent
  • Treth Enillion Cyfalaf ar enillion

Nid yw trethi eraill megis TAW a Threth Cyngor yn cyfri, nag unrhyw dreth nad yw’n dreth y DU.

Sut mae canfod a ydych wedi talu digon o dreth

I gyfrifo a ydych wedi talu digon o dreth i allu defnyddio Cymorth Rhodd, rhannwch werth y rhodd gyda phedwar. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi £100 mewn blwyddyn dreth benodol bydd angen i chi fod wedi talu gwerth £25 o dreth dros y cyfnod hwnnw (£100/4 = £25). (Dylech gofio fod y cyfrifiad hwn yn seiliedig ar dreth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant).

Os nad ydych yn meddwl eich bod wedi talu digon o dreth eleni, efallai y gallwch ôl-ddyddio eich rhodd. Gweler yr adran ddiweddarach ar 'Ôl-ddyddio rhoddion Cymorth Rhodd i'r flwyddyn dreth flaenorol'.

Hawlio treth ar y gyfradd uwch yn ôl

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hawlio'r gwahaniaeth rhwng y dreth ar y gyfradd uwch (40 a/neu 50 y cant) a'r dreth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant), ar gyfanswm ‘gros’ eich rhodd i'r elusen neu'r Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol.

Er enghraifft, os byddwch yn rhoi £100, bydd eich rhodd yn werth £125 i'r elusen - felly gallwch hawlio:

  • £25 – os ydych yn talu treth ar y gyfradd 40 y cant (£125 ar 20 y cant)
  • £37.50 – os ydych yn talu treth ar y gyfradd 50 y cant (£125 ar 20 y cant a £125 ar 10 y cant)

Gallwch wneud yr hawliad hwn ar eich ffurflen dreth Hunanasesu os anfonwyd un atoch.

I gael mwy o wybodaeth gweler yr adran isod 'Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich cyfraniadau Cymorth Rhodd'.

Ôl-ddyddio rhoddion Cymorth Rhodd i'r flwyddyn dreth flaenorol

Gallwch ofyn i'ch rhoddion Cymorth Rhodd gael eu trin fel petaent wedi'u talu yn y flwyddyn dreth flaenorol, ond mae’n rhaid eich bod wedi talu digon o dreth yn y flwyddyn honno i allu rhoi drwy Gymorth Rhodd ar gyfer y flwyddyn honno ac ar gyfer y blynyddoedd eraill.

Rhaid i chi wneud cais i ôl-ddyddio'r rhodd cyn (neu'r un pryd) y byddwch yn llenwi eich ffurflen dreth Hunanasesu ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Ni ellir ei wneud yn hwyrach na'r dyddiad cau ar gyfer ffeilio'r ffurflen dreth. Y dyddiadau yw 31 Hydref os byddwch yn anfon ffurflen bapur, neu 31 Ionawr os byddwch yn ffeilio ar-lein.

Os na fyddwch yn llenwi ffurflen dreth gallwch ofyn i'ch Swyddfa Dreth anfon ffurflen P810 Adolygiad Treth i chi - rhaid i chi anfon hon erbyn 31 Ionawr fan bellaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth yr ydych am ôl-ddyddio eich rhodd iddi.

Enghraifft

Mae Mr Jones yn rhoi rhodd o £1,000 drwy Gymorth Rhodd ar 1 Mehefin 2009.

Gall naill ai drin y rhodd fel rhodd ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (2009-10) neu ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol (2008-2009). Oherwydd ei fod wedi talu digon o dreth yn y flwyddyn dreth flaenorol i allu rhoi drwy Gymorth Rhodd am y flwyddyn hon ac am y flwyddyn diwethaf, mae'n penderfynu ei fod am i'r rhodd fod yn berthnasol i'r flwyddyn flaenorol. Nid yw wedi llenwi ffurflen dreth ar gyfer 2008-09 eto felly mae'n gwneud ei hawliad ar y ffurflen dreth honno ac yn ei ffeilio ar-lein cyn 31 Ionawr 2010.

Ond petai Mr Jones eisoes wedi dychwelyd ei ffurflen dreth ar gyfer 2008-09, dim ond ar gyfer blwyddyn 2009-10 y byddai wedi gallu gofyn am gynnwys Cymorth Rhodd ar y rhodd. Ni chewch newid ffurflen dreth er mwyn ôl-ddyddio rhodd.

Cymorth Rhodd - yr effaith ar Lwfans Personol ar sail oed, Lwfans Pâr Priod ar sail oed neu hawliadau credyd treth

Os ydych yn hawlio'r Lwfans Personol ar sail oed, Lwfans Pâr Priod ar sail oed neu gredydau treth mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw roddion drwy Gymorth Rhodd.

Byddant yn tynnu'r swm a roddwch, yn ogystal â'r dreth ar y gyfradd sylfaenol, o gyfanswm eich incwm ac yn defnyddio'r ffigur hwn i gyfrifo gwerth eich lwfansau neu'ch credydau treth.

Efallai y bydd hyn yn effeithio ar y lwfansau neu'r credydau, gan eu cynyddu os oedd eich incwm yn uwch na'r 'terfyn incwm' perthnasol.

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am y terfynau incwm hyn.

Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich rhoddion drwy Gymorth Rhodd

Mae'n bwysig cadw cofnod o gyfanswm eich rhoddion drwy Gymorth Rhodd ar gyfer pob blwyddyn dreth. Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich rhoddion drwy Gymorth Rhodd:

  • os byddwch yn hawlio Lwfans Personol ar sail oed, Lwfans Pâr Priod ar sail oed neu gredydau treth
  • os byddwch yn talu treth ar y gyfradd uwch
  • os ydych chi am ôl-ddyddio rhodd Cymorth Rhodd

Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth fel arfer gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich rhoddion Cymorth Rhodd drwy lenwi'r adran ar daliadau Cymorth Rhodd.

Os na fyddwch yn llenwi ffurflen dreth, gallwch roi'r manylion ar ffurflen P810 Adolygiad Treth - ar gael o'ch Swyddfa Dreth, neu ffonio eich Swyddfa Dreth a gofyn iddynt newid eich cod treth.

Cysylltu â Llinell gymorth Elusennau Cyllid a Thollau EM

Am ragor o gymorth gallwch gysylltu â’r Llinell gymorth Elusennau.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol sy’n rhad ac am ddim a chyfrinachol

Allweddumynediad llywodraeth y DU