Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Incwm o gyflogaeth - ei gyfrifo ar gyfer eich cais am gredydau treth

Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo eich credydau treth i gychwyn, bydd yn ystyried eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf.

Sut i gyfrifo eich incwm

Mae hon yn broses â thri cham:

  • cam 1: edrychwch ar faint o arian a ddaeth i mewn
  • cam 2: canfyddwch faint y mae angen i chi ei dynnu o'r swm hwn
  • cam 3: yna beth oedd gennych yn weddill?

I gael help i gyfrifo eich incwm, defnyddiwch y daflen waith yn y nodiadau a gawsoch gyda'ch ffurflen gais neu becyn adnewyddu credydau treth.

Cam 1: faint o arian a ddaeth i mewn

Cyfrifwch gyfanswm eich cyflogau o'r holl waith rydych wedi'i gael dros y flwyddyn dreth ddiwethaf, cyn didynnu unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol. Gelwir hwn yn gyflog gros. Os ydych wedi cael 'buddiannau cyflogai' penodol bydd angen i chi gynnwys y rhain, ac mae pethau eraill i'w cynnwys fel cildyrnau neu dâl streicio. Mae’r adrannau isod yn dweud wrthych beth sydd angen i chi eu cynnwys.

Ble i ddod o hyd i fanylion am eich cyflog gros

Dylai eich cyflogwr fod wedi rhoi cofnod i chi o'ch cyflog gros. P60 fydd hwn, neu P45 os gwnaethoch adael cyn diwedd y flwyddyn dreth. Os mai dim ond un swydd oedd gennych yn y flwyddyn ddiwethaf, defnyddiwch un o'r canlynol:

  • y swm a labelwyd 'Cyfanswm ar gyfer y flwyddyn' - os ydych wedi cael P60
  • y swm a labelwyd 'Cyfanswm cyflog hyd yma' - os ydych wedi cael P45

Mae'r ffurflenni hyn yn cynnwys unrhyw Dâl Salwch Statudol, Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu a gawsoch yn ystod y flwyddyn - wedi'u cynnwys yng nghyfanswm eich cyflog.

Os na chawsoch P60 na P45, edrychwch ar eich slip cyflog diwethaf, a ddylai nodi cyfanswm eich cyflog hyd yma.

Os oedd gennych fwy nag un swydd yn y flwyddyn, adiwch y cyfansymiau ar y ffurflenni er mwyn cyfrifo cyfanswm eich cyflog gros.

Rhaid i chi hefyd gynnwys unrhyw arian a dalwyd i chi o weithio o'r tu allan i'r DU. Bydd angen i chi nodi'r swm mewn punnoedd Prydeinig, ac nid arian cyfred tramor. Er mwyn cyfrifo hyn, defnyddiwch y gyfradd cyfnewid gyfartalog ar gyfer y flwyddyn y mae eich incwm yn perthyn iddi. Felly, os yw eich incwm yn perthyn i 6 Ebrill 2011 hyd at 5 Ebrill 2012, defnyddiwch y gyfradd cyfnewid gyfartalog ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2012.

Buddiannau cyflogai

Bydd hefyd angen i chi gynnwys buddiannau penodol a gawsoch gan eich cyflogwr a gafodd eu trethu. Er enghraifft, nwyddau y gwnaeth eich cyflogwr eu rhoi i chi, biliau y gwnaeth eu talu ar eich rhan neu gar cwmni. Dylai eich cyflogwr roi ffurflen P11D neu P9D i chi ar ddiwedd y flwyddyn dreth a bydd yn nodi'r gwerth trethadwy.

Beth arall y dylid ei gynnwys

Yn ogystal â chyfanswm eich cyflog, bydd angen i chi adio:

  • cildyrnau – os nad oeddent wedi eu cynnwys yn eich tâl trethadwy
  • arian a gawsoch am i'ch swydd ddod i ben neu newid, ac a gafodd ei drethu
  • tâl streicio gan eich undeb llafur
  • arian a wnaethoch drwy stociau a chyfranddaliadau a gawsoch gan eich cyflogaeth
  • taliadau am unrhyw waith a wnaethoch tra'n bwrw dedfryd yn y carchar neu ar remánd

Ni fydd angen i chi ddangos unrhyw gredydau treth o'r flwyddyn ddiwethaf, nac unrhyw Gredydau Cyflogaeth y Fargen Newydd 50 oed a throsodd a gawsoch.

Cam 2: beth y bydd angen i chi ei dynnu o hwn

Er mwyn cyfrifo beth i'w dynnu o'ch cyflog gros, adiwch unrhyw rai o'r canlynol sy'n berthnasol i chi er mwyn cael y cyfanswm:

Adiwch y symiau hyn

Pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt

Cyfanswm y Tâl Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu Statudol rydych wedi'i gael.

Peidiwch â chynnwys mwy na £100 ar gyfer unrhyw wythnos benodol.


Er enghraifft, os cawsoch £80 bob wythnos, adiwch pob £80 a gawsoch. Os cawsoch fwy na £100 ar gyfer wythnos, dim ond £100 y dylech ei gynnwys ar gyfer yr wythnos honno.

Treuliau gwaith y bu'n rhaid i chi eu talu wrth wneud eich gwaith - a oedd ond yn ymwneud â gwneud eich gwaith, ac sy'n ddidynadwy at ddibenion Treth Incwm.

Peidiwch â chynnwys costau teithio os gwnaeth eich cyflogwr eu had-dalu. Dylech gynnwys costau teithio, ond nid costau i fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.

Taliadau a wnaethoch sy'n ddidynadwy at ddibenion Treth Incwm. Er enghraifft:

  • ffioedd a thanysgrifiadau i gyrff neu gymdeithasau proffesiynol
  • rhwymedigaethau atebolrwydd cyflogai a phremiymau yswiriant indemniad
  • ffioedd asiantaeth os ydych yn ddiddanwr

Peidiwch â chynnwys y taliadau hyn os gwnaeth eich cyflogwr eu had-dalu.

Treuliau cyfradd safonol, y cytunwyd arnynt gyda'ch cyflogwr a Chyllid a Thollau EM (CThEM), i gynnal neu adnewyddu:

  • offer sy'n angenrheidiol i chi wneud eich gwaith
  • dillad arbennig sy'n angenrheidiol i chi wneud eich gwaith - er enghraifft gwisg

Mae swm y treuliau a ganiateir wedi'i nodi ar eich Hysbysiad Cod P2.

Swm gros yr hyn y gwnaethoch ei dalu i mewn i gynllun pensiwn sydd wedi’i gofrestru gyda CThEM. Mae hyn yn cynnwys pensiwn rhanddeiliaid ac unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol.

Peidiwch â chynnwys unrhyw beth y gwnaethoch ei dalu i mewn i gynllun 'pensiwn galwedigaethol', sef lle y gwnaeth eich cyflogwr dynnu'r cyfraniadau pensiwn o'ch cyflog cyn didynnu treth.

Dilynwch y ddolen i'r daflen waith isod er mwyn gweld sut i gyfrifo eich taliadau gros.

Swm gros unrhyw roddion y gwnaethoch eu rhoi i elusen gan ddefnyddio Cymorth Rhodd.

Dilynwch y ddolen i'r daflen waith isod er mwyn gweld sut i gyfrifo eich rhoddion gros.

Cam 3: beth oedd gennych yn weddill?

Tynnwch gyfanswm Cam 2 o gyfanswm Cam 1 er mwyn nodi cyfanswm eich incwm. Nodwch hwn ar eich ffurflen gais am gredydau treth neu Ddatganiad Blynyddol yn y blwch 'enillion fel cyflogai o bob swydd'. Mae hwn yn yr adran ar incwm.

Dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am newidiadau o ran yr arian a gewch

Bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os ydych yn disgwyl cael mwy neu lai o arian yn dod i mewn eleni. Mae angen gwneud hyn fel y gall wneud yn siŵr na fyddwch yn cael gormod neu ddim digon o gredydau treth. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU