Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newidiadau mewn incwm a chredydau treth

Os bydd eich incwm yn lleihau yn ystod y flwyddyn, rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth - efallai y cewch fwy o gredydau treth. Gallwch ffonio neu ysgrifennu atynt, ond ni allwch roi gwybod iddynt ar-lein. Dylech hefyd roi gwybod iddynt os bydd eich incwm yn cynyddu. Nid yw’n debygol y bydd hynny’n newid faint o gredydau treth a gewch am y flwyddyn dreth hon - ond gallai’ch atal rhag cael gormod y flwyddyn nesaf.

Sut mae newidiadau mewn incwm yn effeithio ar eich credydau treth

Os yw'ch incwm yn y flwyddyn dreth gyfredol yn wahanol i'ch incwm yn y flwyddyn flaenorol, mae'n bosib y bydd faint o gredydau treth a gewch chi’n newid. Os bydd eich incwm yn newid mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol, bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth. Mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill ac yn dod i ben ar 5 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol.

Os bydd eich incwm yn gostwng £2,500 neu lai yn y flwyddyn dreth gyfredol

Os yw pob un o'ch amgylchiadau eraill yn aros yr un fath, ni fydd eich taliadau’n newid ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol.

Ond mae’n well dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth yn syth pan fyddwch yn gwybod y bydd eich incwm yn is. Y rheswm am hyn yw oherwydd byddant yn defnyddio ffigur eich incwm newydd i weithio allan faint i'w dalu i chi y flwyddyn ganlynol.

Os bydd eich incwm yn gostwng mwy na £2,500 yn y flwyddyn dreth gyfredol

Efallai y bydd eich taliadau credydau treth yn codi.

Os bydd eich incwm yn cynyddu £10,000 neu lai yn y flwyddyn dreth gyfredol

Efallai ni fydd hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r swm o gredydau treth yr ydych yn derbyn am y flwyddyn dreth gyfredol. Ond mae’n well dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth yn syth pan fyddwch yn gwybod y bydd eich incwm yn uwch. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosib y byddwch yn cael eich talu gormod (a elwir yn 'ordaliad') pan fyddant yn cyfrifo beth i dalu i chi am y flwyddyn ganlynol.

Os bydd eich incwm yn cynyddu mwy na £10,000 yn y flwyddyn dreth gyfredol

Efallai y bydd eich taliadau credydau treth yn gostwng.

Pryd ddylech chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am newid mewn incwm

Os bydd eich incwm yn...

Pryd ddylech chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth

Pam mae angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth

Gostwng £2,500 neu lai

Cyn gynted â phosib

Efallai na fyddwch yn cael digon o gredydau treth yn y flwyddyn ganlynol.

Gostwng mwy na £2,500

Cyn gynted â phosib

Efallai y bydd eich taliadau credydau treth yn codi.

Cynyddu £10,000 neu lai

Cyn gynted â phosib

Efallai y cewch chi ormod o gredydau treth yn y flwyddyn ganlynol (gordaliad).

Cynyddu mwy na £10,000

Ar unwaith

Efallai y bydd eich taliadau credydau treth yn gostwng a gallech fod yn cronni gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl. Bydd unrhyw ostyngiad yn eich taliadau'n cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad y newidiodd eich incwm.

Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi'n rhoi gwybod am newid mewn incwm?

Os bydd eich incwm yn lleihau mwy na £2,500 a chithau ddim yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth, efallai na chewch chi'r holl gredydau treth y mae gennych hawl iddynt.

Os bydd eich incwm yn cynyddu £10,000 neu lai, ni fydd eich credydau treth yn newid tan y flwyddyn dreth ganlynol. Ond bydd hyn ar yr amod bod eich holl amgylchiadau eraill yn aros yr un fath. Mae’n syniad da i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith beth yw eich incwm newydd. Golyga hyn y bydd y swm ganddynt pan fyddant yn cyfrifo faint y dylent ei dalu i chi ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Gallai eich arbed rhag cronni gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Os bydd eich incwm yn cynyddu mwy na £10,000 a chithau ddim yn rhoi gwybod am hyn, efallai y cewch chi ormod o gredydau treth (gordaliad). Bydd yn rhaid i chi dalu beth na ddylech fod wedi ei gael yn ôl.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newid drwy ffonio’r Llinell Gymorth neu ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth.

Ni allwch anfon e-bost neu roi gwybod am newidiadau ar-lein ar gyfer credydau treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU