Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweld a ydych chi’n gymwys i gael credydau treth - holiadur cyflym

Defnyddiwch yr holiadur ar-lein cyflym hwn i gael gweld a ydych chi'n debyg o fod yn gymwys i gael credydau treth. Gall eich helpu i benderfynu a ydych am ddarllen rhagor am gredydau treth neu gyflwyno hawliad. Bydd angen i chi gyflwyno hawliad go iawn i gael gwybod yn bendant a ydych chi’n gymwys.

Cyn cychwyn arni

Mae a fyddwch yn gymwys i gael credydau treth yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol (megis eich oed, a ydych chi'n gweithio neu a oes gennych chi blant) a chyfanswm eich incwm. Po uchaf eich incwm, y lleiaf o gredydau treth gallech chi eu cael.

Ar ôl i chi ateb yr holl gwestiynau, byddwch yn gallu mynd i holiadur manylach. Bydd hwn yn rhoi syniad o faint o gredydau treth gallech chi eu cael.

Cyn i chi gychwyn, byddai’n ddefnyddiol i chi nôl manylion, neu gael syniad bras, o gyfanswm eich incwm (gan gynnwys incwm eich partner os oes gennych chi un) ar gyfer:

  • y flwyddyn dreth rhwng 6 Ebrill 2011 a 5 Ebrill 2012
  • y flwyddyn dreth rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013

Ni ddylai'r holiadur hwn gymryd mwy na phum munud o'ch amser.

Peidiwch â defnyddio’r holiadur hwn os...

Peidiwch â defnyddio’r holiadur hwn os:

  • oes gennych chi anabledd difrifol - mae hyn yn golygu eich bod yn cael Cyfradd Uchaf yr Elfen Ofal o'r Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Gyfradd Uchaf o'r Lwfans Gweini
  • oes gennych bartner ag anabledd

Os yw'r naill sefyllfa neu'r llall yn berthnasol i chi, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credyd Treth neu ddefnyddio'r gyfrifiannell credydau treth fanylach isod. Bydd y gyfrifiannell yn cymryd oddeutu 10 - 15 munud i'w gwblhau. Bydd yn rhoi syniad manylach i chi a ydych yn debygol o gymhwyso a faint allech chi ei gael.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU