Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mae gennych anabledd - allwch chi gael Credyd Treth Gwaith ychwanegol?

Os oes gennych chi neu'ch partner anabledd a'ch bod fel rheol yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor, efallai y byddwch chi'n gallu cael credydau treth ychwanegol. Gelwir hyn yr ‘elfen anabledd’.

Taliadau ychwanegol os oes gennych anabledd

I fod yn gymwys i gael yr elfen anabledd, mae'n rhaid i chi fodloni pob un o'r amodau hyn:

  • mae’n rhaid eich bod fel rheol yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos
  • mae’n rhaid bod gennych anabledd sy’n ei gwneud yn anodd i chi gael swydd
  • mae’n rhaid eich bod yn cael, budd-dal yn ymwneud ag anabledd neu salwch cymwys, neu’ch bod wedi ei gael yn ddiweddar – neu mewn amgylchiadau penodol credydau Yswiriant Gwladol

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys ai peidio, gallwch:

  • edrych ar y ‘Taflen Gymorth Anabledd’ drwy ddilyn y ddolen isod – bydd hon yn esbonio’r holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni i fod yn gymwys i gael yr elfen anabledd
  • ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth

Os oes gennych anabledd difrifol

Mae'n bosib y byddwch chi’n cael un o’r canlynol:

  • Cyfradd Uchaf Elfen Ofal y Lwfans Byw i'r Anabl
  • Cyfradd Uwch y Lwfans Gweini

Os felly, mae'n bosib y byddwch chi’n gymwys i gael swm ychwanegol o Gredyd Treth Gwaith oherwydd eich anabledd difrifol. Gelwir hyn yr ‘elfen anabledd difrifol’.

Ni fyddwch yn gallu cael yr elfen anabledd difrifol oni bai eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi neu’ch partner fod yn gweithio nifer penodol o oriau. Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ond os ydych yn anabl, fel arfer bydd angen i chi fod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Os ydych mewn cwpl, does dim rhaid i’r unigolyn gyda’r anabledd fod yn gweithio. Ond bydd angen i un ohonoch fod yn gweithio’r nifer ofynnol o oriau o hyd i fod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith.

Faint o arian gewch chi?

Yn y flwyddyn dreth hon - 6 Ebrill 2012 tan 5 Ebrill 2013 - ar ben eich Credyd Treth Gwaith sylfaenol fe allech gael:

  • £2,790 y flwyddyn, sydd oddeutu £54 yr wythnos, os ydych chi'n gymwys i gael taliadau ychwanegol gan fod gennych anabledd
  • £1,190 y flwyddyn, sydd oddeutu £23 yr wythnos, os ydych chi'n gymwys i gael taliadau ychwanegol gan fod gennych anabledd difrifol
  • £3,980 y flwyddyn, sydd oddeutu £77 yr wythnos, os ydych chi'n gymwys i gael y ddau fath o daliadau ychwanegol

Os byddwch chi'n hawlio fel cwpl a bod gennych chi a'ch partner anabledd difrifol, gallwch fod yn gymwys i gael dau daliad ychwanegol gwerth £1,190.

Mae'r swm a gewch chi hefyd yn dibynnu ar faint o arian arall rydych chi'n ei gael:

  • dydy'r Lwfans Byw i'r Anabl ddim yn cyfrif fel incwm pan fydd eich credydau treth yn cael eu cyfrifo
  • mae budd-daliadau eraill fel Lwfans Gofalwr yn cyfrif fel incwm a gallant ostwng eich taliadau credyd treth

I gael gwybod mwy am faint allech chi ei gael, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein neu ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Sut mae hawlio

Os nad ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael credydau treth ychwanegol erbyn hyn oherwydd anabledd, dylech wneud hawliad mor fuan â phosib.

Dylech wneud hawliad o fewn un mis i gael gwybod yr ydych chi’n gymwys i gael budd-dal salwch neu fudd-dal anabledd cymwys. Bwriad hyn yw sicrhau bod eich taliadau'n cael eu hôl-ddyddio i'r dyddiad cynharaf posib.

I hawlio, llenwch y ffurflen hawlio. Dim ond drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth y gallwch gael ffurflen hawlio.

Os ydych chi eisoes yn cael credydau treth

Os ydych chi'n awr am hawlio credydau treth ychwanegol oherwydd anabledd, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth. Dylech wneud hyn cyn gynted ag y byddwch yn gwybod bod gennych hawl i fudd-dal salwch neu anabledd cymwys. Cysylltwch â’r llinell gymorth o fewn un mis i gael gwybod er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu ôl-ddyddio eich taliadau i'r dyddiad cynharaf posibl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU