Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth sy'n cyfrif fel gwaith ar gyfer Credyd Treth Gwaith

Mae Credyd Treth Gwaith yn seiliedig ar yr oriau rydych yn eu gweithio ac yn cael eu talu amdanynt, neu'n disgwyl cael eich talu amdanynt. Ni waeth a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig, ond nid yw gwaith di-dâl yn cyfrif fel gwaith pan fyddwch yn gwneud cais am gredydau treth. Mynnwch wybod a all eich gwaith eich helpu i fod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith.

Pa oriau y mae angen i chi eu gweithio?

Os nad oes gennych blant
Os nad ydych yn gyfrifol am blant, mae angen i chi weithio'r oriau canlynol er mwyn cael Credyd Treth Gwaith:

  • os ydych yn 25 oed neu'n hŷn, mae angen i chi wneud gwaith â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos
  • os oes gennych anabledd a'ch bod yn 16 oed neu'n hŷn, mae angen i chi wneud gwaith â thal am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn 60 oed neu'n hŷn, mae angen i chi wneud gwaith â thâl am o leiaf 16 awr yr wythnos

Os oes gennych blant

Os ydych yn gyfrifol am blant, mae angen i chi fod yn 16 oed o leiaf, a gweithio'r oriau canlynol er mwyn cael Credyd Treth Gwaith:

  • os ydych yn sengl, mae angen i chi wneud gwaith â thâl am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl, mae angen i'ch oriau gwaith â thâl ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Felly, os ydych yn rhan o gwpwl ac mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, bydd angen i'r unigolyn hwnnw weithio o leiaf 24 awr yr wythnos.

Os yw eich oriau gwaith ar y cyd yn llai na 24 awr yr wythnos, gallwch gael Credyd Treth Gwaith o hyd os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae un ohonoch yn 60 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • mae un ohonoch yn anabl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac mae gan y llall hawl i gael Lwfans Gofalwr - hyd yn oed os nad yw'n cael unrhyw daliadau am ei fod yn cael budd-daliadau eraill yn lle hynny
  • mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ac mae’r llall yn 'analluog', yn glaf mewnol mewn ysbyty, neu yn y carchar (yn bwrw dedfryd o garchar neu wedi'i gadw yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd)

Os oeddech yn arfer cael yr 'elfen 50 oed a throsodd'

Daeth yr 'elfen 50 oed a throsodd' i ben ar 6 Ebrill 2012, i'r rheini sy'n 50 oed neu'n hŷn sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod ar fudd-daliadau. Felly os ydych yn 50 oed neu'n hŷn a'ch bod bellach yn dychwelyd i'r gwaith, bydd angen i chi weithio'r nifer berthnasol o oriau fel yr eglurir uchod.

Felly, er enghraifft, os nad oes gennych blant, fel arfer bydd angen i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos i gael Credyd Treth Gwaith.

Beth sy'n cyfrif fel gwaith â thâl?

Os ydych yn gyflogai, mae gwaith â thâl yn golygu:

  • y gwaith rydych yn ei wneud i'ch cyflogwr yn gyfnewid am dâl (neu lle y byddech yn disgwyl cael eich talu) fel cyflog
  • unrhyw 'daliad mewn da' (er enghraifft nwyddau i unigolyn sy'n gweithio fel cynorthwy-ydd siop, neu gynnyrch fferm i weithiwr fferm)

Os ydych yn hunangyflogedig, mae gwaith â thâl yn golygu unrhyw waith rydych yn ei wneud am dâl (neu lle y byddech yn disgwyl cael eich talu) neu elw.

Er mwyn hawlio Credyd Treth Gwaith, dylech ddisgwyl i'ch gwaith â thâl barhau am o leiaf bedair wythnos.

Beth nad yw'n cyfrif fel gwaith â thâl?

Os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi, ni fydd y gwaith yn cyfrif at ddibenion Credyd Treth Gwaith:

  • rydych yn fyfyriwr ac yn gweithio fel rhan o astudiaethau ar gyfer gradd neu gymhwyster arall (mae unrhyw grant neu fenthyciad a gewch at ddibenion cynhaliaeth ac ni chaiff ei dalu yn gyfnewid am waith a wneir ar y cwrs)
  • rydych yn nyrs dan hyfforddiant ac yn cael Bwrsariaeth gan y GIG a grantiau neu fenthyciadau eraill ar gyfer gwaith a wneir ar y cwrs
  • rydych yn gweithio i elusen neu sefydliad gwirfoddol lle nad ydych yn cael unrhyw dâl neu'n cael treuliau yn unig
  • rydych yn gweithio i awdurdod lleol, sefydliad elusennol neu wirfoddol yr awdurdod iechyd yn gofalu am rywun nad yw'n aelod o'ch cartref - a lle caiff yr unig daliad a gewch ei dalu drwy'r cynllun Rhentu Ystafell
  • rydych ar streic am fwy na deg diwrnod yn olynol
  • rydych yn gweithio mewn cynllun lle rydych yn cael lwfans hyfforddi, yn hytrach na thâl - oni bai bod y lwfans yn drethadwy
  • rydych yn cymryd rhan yn y Cyfnod Gweithgarwch Dwys neu'r Rhaglen Paratoi ar gyfer Cyflogaeth - oni bai bod y taliad a gewch yn drethadwy
  • rydych yn cymryd rhan mewn gweithgaredd lle rhoddwyd gwobrau chwaraeon ac ni wnaed unrhyw daliadau eraill neu ni ddisgwylir i unrhyw daliadau eraill gael eu gwneud
  • rydych yn cymryd rhan mewn rhaglen Parth Cyflogaeth lle na wnaed unrhyw daliadau eraill (heblaw ar gyfer premiymau hyfforddi neu daliadau dewisol, fel ffioedd, grantiau, benthyciadau neu ôl-daliadau ar gyfer treuliau a delir fel taliad unigol)
  • rydych yn gweithio - naill ai yn y carchar neu y tu allan i'r carchar - tra rydych yn bwrw dedfryd o garchar, neu wedi eich cadw yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd

Sut a phryd i wneud cais

Mae angen i chi fod mewn gwaith â thâl pan fyddwch yn gwneud eich cais, neu'n dechrau gwaith â thâl o fewn saith diwrnod i wneud eich cais. Dim ond os byddwch yn dechrau'r gwaith â thâl hwn y byddwch yn cael Credyd Treth Gwaith.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant dylech ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth i hawlio Credyd Treth Gwaith.

Os nad ydych eisoes yn cael credydau treth bydd rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio ar-lein. Dim ond drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth y gallwch gael ffurflen hawlio. Ni allwch hawlio ar-lein.

Os ydych yn absennol o'r gwaith dros dro

Efallai y cewch eich trin fel pe baech yn gweithio o hyd ac y byddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith o hyd pan fyddwch yn sâl neu ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu. Ond bydd angen i chi fod wedi gweithio nifer benodol o oriau fel arfer yn union cyn i chi ddechrau eich cyfnod i ffwrdd o'r gwaith.

Mae rhai sefyllfaoedd eraill pan fyddwch yn cael seibiant o'ch gwaith dros dro, ond y gallech gael eich trin fel pe baech yn gweithio o hyd. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn gweithio am gyfnod byr am fod gennych fwlch cyn dechrau swydd newydd, neu eich bod wedi cael eich diswyddo.

Os byddwch yn gadael gwaith â thâl - neu'n newid eich oriau

Efallai na fyddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith os byddwch:

  • yn gadael gwaith neu'n dechrau gweithio llai na'r nifer ofynnol o oriau bob wythnos ar gyfer eich amgylchiadau
  • yn gadael eich swydd ac yn cael tâl yn lle rhybudd am na fyddwch yn cael eich cyfrif fel eich bod mewn gwaith at ddibenion Credyd Treth Gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw - ond os byddwch yn cael swydd arall yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai y byddwch yn gymwys o hyd ar sail eich swydd newydd

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith, efallai y bydd eich taliadau'n parhau am gyfnod byr. Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os bydd eich amgylchiadau gwaith yn newid. Mae angen gwneud hyn fel y gall wneud yn siŵr na fyddwch yn cael gormod o gredydau treth neu ddim digon.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU