Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Credyd Treth Gwaith pan na allwch weithio oherwydd salwch

Os na allwch chi neu eich partner weithio am eich bod yn sâl, efallai y cewch eich trin fel pe baech yn gweithio o hyd ac y byddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith. Bydd yn dibynnu ar nifer eich oriau gwaith arferol cyn i chi ddechrau eich cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch, a faint o amser y byddwch i ffwrdd o'r gwaith.

Beth oedd eich oriau gwaith arferol cyn i chi fod i ffwrdd o'r gwaith?

Er mwyn cael Credyd Treth Gwaith, mae angen i chi weithio nifer ofynnol o oriau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ph'un a oes gennych blant.

Os nad oes gennych blant

I gael Credyd Treth Gwaith, fel arfer rhaid i chi fod yn 25 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Ond dim ond 16 awr neu fwy yr wythnos y mae angen i chi weithio os ydych:

  • yn 16 oed o leiaf ac yn gymwys i gael taliad Credyd Treth Gwaith ychwanegol gan fod gennych anabledd
  • yn 60 oed neu'n hŷn

Os oes gennych blant

I gael Credyd Treth Gwaith, mae angen i chi fod yn 16 oed o leiaf, ac yn gweithio'r oriau canlynol:

  • os ydych yn sengl, mae angen i chi weithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl, mae angen i'ch oriau gwaith ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Felly os ydych yn rhan o gwpwl, ac os mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, mae'n rhaid i'r unigolyn hwnnw weithio o leiaf 24 awr yr wythnos.

Weithiau byddwch yn gymwys o hyd os yw eich oriau ar y cyd yn llai na 24 awr yr wythnos - dilynwch y ddolen gyntaf am fwy o wybodaeth.

Os ydych i ffwrdd o'r gwaith am 28 wythnos neu lai

Gallwch barhau i hawlio Credyd Treth Gwaith am yr 28 wythnos gyntaf rydych i ffwrdd o'r gwaith. Mae hyn ar yr amod eich bod wedi gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau, yn union cyn i chi fynd i ffwrdd o'r gwaith. Bydd angen i un o'r canlynol hefyd fod yn gymwys:

  • rydych yn cael budd-dal salwch penodol neu anabledd
  • rydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol oherwydd eich analluogrwydd i weithio, neu allu cyfyngedig i weithio (sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar faint o waith y gallwch ei wneud a'r math o waith y gallwch ei wneud)

Y budd-daliadau salwch neu anabledd penodol yw:

  • Tâl Salwch Statudol
  • Cymhorthdal Incwm a delir oherwydd analluogrwydd i weithio
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os nad ydych eisoes yn hawlio credydau treth

Os nad ydych eisoes yn hawlio credydau treth, gallech wneud cais am y to cyntaf os yw'r uchod yn berthnasol i chi. Er mwyn gwneud cais, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Dim ond drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth y gallwch gael ffurflen gais.

Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth am eich oriau gwaith arferol yn Rhan 4 o'r ffurflen gais.

Os ydych i ffwrdd o'r gwaith am fwy nag 28 wythnos

Gallai eich taliadau Credyd Treth Gwaith ddod i ben os na ewch yn ôl i'r gwaith ar ôl 28 wythnos, hyd yn oed os ydych yn dal i gael:

  • Cymhorthdal Incwm a delir oherwydd analluogrwydd i weithio
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • credydau Yswiriant Gwladol oherwydd eich analluogrwydd i weithio, neu allu cyfyngedig i weithio (sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar faint o waith y gallwch ei wneud a'r math o waith y gallwch ei wneud)

Os nad ewch yn ôl i'r gwaith ar ôl 28 wythnos, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis. Os na wnewch hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU