Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i weithio allan eich oriau gwaith arferol ar gyfer eich cais am gredydau treth

Mae angen i chi weithio nifer ofynnol o oriau bob wythnos i gael Credyd Treth Gwaith. Mae'r ffordd rydych yn cyfrifo eich oriau gwaith yn dibynnu ar y math o waith rydych yn ei wneud.

Faint o oriau y mae'n rhaid i chi eu gweithio bob wythnos?

Mae'r oriau y mae angen i chi eu gweithio i gael Credyd Treth Gwaith yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan gynnwys p'un a oes gennych blant ai peidio.
Dylech ddisgwyl i'ch gwaith â thâl barhau am o leiaf bedair wythnos.

Os nad oes gennych blant

I gael Credyd Treth Gwaith, fel arfer rhaid i chi fod yn 25 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Ond dim ond 16 awr neu fwy yr wythnos y mae angen i chi ei weithio os ydych:

  • yn anabl a’ch bod yn 16 oed o leiaf
  • yn 60 oed neu'n hŷn

Os oes gennych blant

I gael Credyd Treth Gwaith, mae angen i chi fod yn 16 oed o leiaf, ac yn gweithio'r oriau canlynol:

  • os ydych yn sengl, mae angen i chi weithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl, mae angen i'ch oriau gwaith ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Os ydych yn rhan o gwpwl ac mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, rhaid i'r unigolyn hwnnw fod yn gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos.

Os yw eich oriau gwaith ar y cyd yn llai na 24 yr wythnos, gallwch gael Credyd Treth Gwaith o hyd os yw un o'r canlynol yn gymwys:

  • mae un ohonoch yn 60 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • mae un ohonoch yn anabl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac mae gan yr unigolyn arall hawl i gael Lwfans Gofalwr - hyd yn oed os nad yw'n cael unrhyw daliadau am ei fod yn cael budd-daliadau eraill yn lle hynny
  • mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ac ni all y llall weithio am ei fod yn 'analluog', yn glaf mewnol mewn ysbyty, neu yn y carchar (naill ai’n bwrw dedfryd o garchar neu wedi'i gadw yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd)

Sut i weithio allan eich oriau gwaith wythnosol arferol

Bydd angen i chi nodi nifer yr oriau rydych yn eu gweithio fel arfer mewn wythnos ar eich ffurflen gais am gredydau treth. Dim ond yr oriau y cewch eich talu amdanynt y gallwch eu cyfrif - peidiwch â chynnwys oriau cinio di-dâl.

Os ydych yn gyflogai

Rhowch gyfanswm nifer yr oriau rydych yn eu gweithio ac yn cael eich talu amdanynt fel arfer mewn wythnos ar gyfer pob swydd rydych yn ei gwneud. Os ydych fel arfer yn gweithio goramser, dylech gynnwys hyn.

Os yw eich oriau yn amrywio o wythnos i wythnos, rhowch nifer yr oriau rydych fel arfer yn eu gweithio am dâl yn eich barn chi a'ch cyflogwr/cyflogwyr.

Os ydych yn hunangyflogedig

Rhowch nifer yr oriau rydych fel arfer yn eu treulio'n gweithio yn eich busnes, naill ai ar waith a gaiff ei filio i'r cleient neu ar weithgarwch cysylltiedig, er enghraifft:

  • teithiau i gyfanwerthwyr a manwerthwyr
  • ymweliadau â darpar gleientiaid
  • amser a dreulir yn hysbysebu
  • glanhau safle'r busnes
  • glanhau cerbyd a ddefnyddir fel rhan o'r busnes, er enghraifft tacsi
  • cadw cyfrifon
  • gwaith ymchwil

Os ydych yn gweithio o gartref, dylech gynnwys amser a dreulir yn teithio i weld cwsmeriaid.

Os mai dim ond yn ddiweddar rydych wedi mynd yn hunangyflogedig, defnyddiwch nifer yr oriau rydych yn disgwyl eu gweithio fel arfer mewn wythnos.

Os ydych yn weithiwr tymhorol

Os ydych yn gwneud gwaith tymhorol, neu os yw eich oriau'n newid dros y flwyddyn, dangoswch yr oriau rydych yn eu gweithio ar yr adeg y gwnewch eich cais.

Os ydych yn gwneud gwaith rheolaidd yn ystod y tymor

Os ydych yn gweithio nifer reolaidd o oriau yr wythnos, ond dim ond yn ystod tymor yr ysgol, rhowch yr oriau rydych yn eu gweithio yn ystod y tymor.

Os ydych yn gwneud gwaith asiantaeth

Gall eich patrwm gwaith newid o wythnos i wythnos, yn dibynnu ar faint o waith sydd gan yr asiantaeth ar eich cyfer. Rhaid i chi a'ch cyflogwr benderfynu faint o oriau rydych yn eu gweithio fel arfer. Nid yw'r ffaith eich bod ond wedi cofrestru ag asiantaeth a'ch bod ar gael i weithio yn ddigon i fod yn gymwys.

Os ydych yn gwneud gwaith ar alwad

Os ydych yn gwneud gwaith ar alwad, eich oriau gwaith yw'r rheini pan gewch eich galw allan. Er enghraifft, cewch eich galw allan bedair noson yr wythnos am bedair awr ar y tro. Cyfanswm eich oriau ar gyfer yr wythnos honno fydd 16 (pedair noson x pedair awr = cyfanswm o 16 awr).

Os ydych yn weithiwr wrth gefn

Os ydych yn weithiwr wrth gefn ac nad oes gennych batrwm gwaith sefydlog, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth beth rydych yn disgwyl i'ch oriau arferol fod. Peidiwch â chyfrif amser wrth gefn, nad ydych yn cael eich talu amdano. Er enghraifft, rydych yn disgwyl cael eich galw allan dair noson yr wythnos am saith awr ar y tro. Eich oriau disgwyliedig arferol fyddai 21 awr yr wythnos (tair noson x saith awr y noson = cyfanswm o 21 awr yr wythnos).

Newidiadau i'ch oriau gwaith

Os byddwch yn gweithio llai o oriau neu'n rhoi'r gorau i weithio

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os byddwch yn gweithio llai na'r nifer ofynnol o oriau gwaith â thâl ar gyfer eich amgylchiadau. I ganfod yr oriau gwaith gofynnol, gweler 'Faint o oriau y mae'n rhaid i chi eu gweithio bob wythnos?' ar frig y dudalen hon.

Bydd angen i chi hefyd gysylltu o fewn mis os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd:

  • roeddech chi neu'ch partner yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos, ac rydych bellach yn gweithio llai na 30 awr yr wythnos
  • rydych yn rhan o gwpwl â phlant, ac mae eich oriau gwaith ar y cyd bellach yn llai na 30 awr yr wythnos
  • rydych chi neu eich partner yn rhoi'r gorau i weithio

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am y newidiadau hyn, efallai y telir gormod o arian i chi, y gallech orfod ei dalu'n ôl. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hefyd.

Os bydd eich oriau'n cynyddu

Dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl:

  • os bydd eich oriau gwaith â thal arferol yn cynyddu
  • os bydd eich incwm yn cynyddu am eich bod bellach yn gweithio mwy o oriau

Efallai y gallwch gael mwy o gredydau treth os bydd eich oriau'n cynyddu. Dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio unrhyw daliadau ychwanegol fel arfer.
Os yw'r cynnydd mewn oriau hefyd yn golygu cynnydd mewn incwm, yna gallai eich taliadau credyd treth leihau. Y rheswm dros hyn yw bod faint o gredydau treth a gewch yn dibynnu ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn. Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth am gynnydd yn eich incwm. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y telir gormod o gredydau treth i chi - gordaliad - y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU